
2021 Rhif 1333 (Cy. 344)
Ardrethu A Phrisio, Cymru
Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2021
Gwnaed 29 Tachwedd 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 30 Tachwedd 2021
Yn dod i rym 31 Rhagfyr 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 60 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraffau 4 a 6 o Atodlen 8 iddi.
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2021 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2021.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 1992” yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992.
Diwygio Rheoliadau 1992
2 

(1) Mae Rheoliadau 1992 wedi eu diwygio fel a ganlyn mewn perthynas â’r blynyddoedd ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2022 neu ar ôl hynny.
(2) Yn lle Atodlen 4 i Reoliadau 1992 rhodder yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
29 Tachwedd 2021
YR ATODLEN
Rheoliad 2
“
SCHEDULE 4

ADULT POPULATION FIGURES
Billing authority area Prescribed figure
Blaenau Gwent 56,401
Bridgend/Pen-y-bont ar Ogwr 118,204
Caerphilly/Caerffili 144,061
Cardiff/Caerdydd 293,830
Carmarthenshire/Sir Gaerfyrddin 152,810
Ceredigion 60,661
Conwy 97,000
Denbighshire/Sir Ddinbych 77,165
Flintshire/Sir y Fflint 124,648
Gwynedd 101,957
Isle of Anglesey/Ynys Môn 57,101
Merthyr Tydfil/Merthyr Tudful 47,544
Monmouthshire/Sir Fynwy 77,843
Neath Port Talbot/Castell-nedd Port Talbot 116,296
Newport/Casnewydd 120,851
Pembrokeshire/Sir Benfro 102,744
Powys 109,186
Rhondda Cynon Taf 191,775
Swansea/Abertawe 199,723
Torfaen 75,369
Vale of Glamorgan/Bro Morgannwg 107,403
Wrexham/Wrecsam 107,142”