
2021 Rhif 1329 (Cy. 342)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 14) 2021
Gwnaed am 7.36 p.m. ar 26 Tachwedd 2021
Yn dod i rym am 7.59 p.m. ar 26 Tachwedd 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 29 Tachwedd 2021
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 14) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 7.59 p.m. ar 26 Tachwedd 2021.
Dirymu
2 
Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) 2021 wedi eu dirymu.
Eluned Morgan
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
Am 7.36 p.m. ar 26 Tachwedd 2021