
2021 Rhif 1327 (Cy. 340)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) 2021
Gwnaed am 4.31 p.m. ar 26 Tachwedd 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru am 7.00 p.m. ar 26 Tachwedd 2021
Yn dod i rym am 8.00 p.m. ar 26 Tachwedd 2021
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 8.00 p.m. ar 26 Tachwedd 2021.
Diwygiadau i Atodlen 3A i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020
2 
Yn Atodlen 3A (gwledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol) i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020, yn y lleoedd priodol mewnosoder—“
 Malawi”“
 Mozambique”.
Eluned Morgan
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
Am 4.31 p.m. ar 26 Tachwedd 2021