
2021 Rhif 1321 (Cy. 336)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2021
Gwnaed am 10.31 a.m. ar 26 Tachwedd 2021
Yn dod i rym am 12.00 p.m. ar 26 Tachwedd 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru am 6.00 p.m. ar 26 Tachwedd 2021
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 12.00 p.m. ar 26 Tachwedd 2021.
Diwygiadau i Atodlen 3A i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020
2 
Yn Atodlen 3A (gwledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol) i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 mewnosoder—“
 Botswana”“
 De Affrica”“
 Eswatini”“
 Lesotho”“
 Namibia”“
 Zimbabwe”.
Eluned Morgan
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
Am 10.31 a.m. ar 26 Tachwedd 2021