
2021 Rhif 1306 (Cy. 335)
Ardrethu A Phrisio, Cymru
Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Cymru) (Coronafeirws) (Dirymu) 2021
Gwnaed 23 Tachwedd 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 25 Tachwedd 2021
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(1)
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir gan baragraff 2(8) o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Cymru) (Coronafeirws) (Dirymu) 2021 a deuant i rym ar y diwrnod y caiff Deddf Ardrethu (Coronafeirws) ac Anghymhwyso Cyfarwyddwyr (Cwmnïau a Ddiddymwyd) 2021 ei phasio.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dirymu
2 
Mae Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Cymru) (Coronafeirws) 2021 wedi eu dirymu.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
23 Tachwedd 2021