
2021 Rhif 1297 (Cy. 330)
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Gorchymyn Gweithdrefn Ddatblygu (Ymgyngoreion) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Diwygio) 2021
Gwnaed 22 Tachwedd 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 23 Tachwedd 2021
Yn dod i rym 25 Tachwedd 2021
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 59 a 74(1)(c) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy, a thrwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 61Z(8) a (9), 62R, 333(4B) a (7) o’r Ddeddf honno, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gweithdrefn Ddatblygu (Ymgyngoreion) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Diwygio) 2021.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 25 Tachwedd 2021.
Diwygio Gorchymyn Gweithdrefn Ddatblygu (Ymgyngoreion) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021
2 

(1) Mae Gorchymyn Gweithdrefn Ddatblygu (Ymgyngoreion) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle erthygl 1(2)(a) rhodder—“
(a) daw’r erthygl hon ac erthyglau 2(1) a 3(1) i rym ar 1 Rhagfyr 2021;”
(3) Hepgorer y canlynol—
(a) erthygl 2(2)(a);
(b) erthygl 2(3)(b);
(c) erthygl 3(2)(a); ac
(d) erthygl 3(3).
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
22 Tachwedd 2021