
2021 Rhif 1292 (Cy. 327)
Anifeiliaid, CymruIechyd Anifeiliaid
Gorchymyn Ffliw Adar (H5N1 mewn Adar Gwyllt) (Cymru) (Diwygio) 2021
Gwnaed am 5.55 p.m. ar 19 Tachwedd 2021
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 1, 8(1), 15(5), 17(1), 23 a 25 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ffliw Adar (H5N1 mewn Adar Gwyllt) (Cymru) (Diwygio) 2021.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym yn union ar ôl iddo gael ei wneud.
Diwygio Gorchymyn Ffliw Adar (H5N1 mewn Adar Gwyllt) (Cymru) 2006
2 
Mae Gorchymyn Ffliw Adar (H5N1 mewn Adar Gwyllt) (Cymru) 2006 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
Diwygio erthygl 2 (dehongli)
3 
Yn erthygl 2 (dehongli)—
(a) yn y diffiniad o “wild bird control area” hepgorer “or 5(3)”;
(b) yn y diffiniad o “wild bird monitoring area” hepgorer “or 5(3)”.
Diwygio erthygl 5 (cadarnhau neu amau bod H5N1 mewn adar gwyllt)
4 
Yn erthygl 5 (cadarnhau neu amau bod H5N1 mewn adar gwyllt)—
(a) ym mharagraff (2)—
(i) yn lle “If the wild bird or carcase was found in Wales, the” rhodder “The”;
(ii) yn lle “must declare” rhodder “, after considering a risk assessment, may declare”;
(b) hepgorer paragraffau (3), (4) a (5);
(c) ym mharagraff (6) hepgorer “, (3)(a) or (3)(b)”;
(d) ym mharagraff (7) hepgorer “, (3)(a) or (3)(c)”.
Diwygio erthygl 6 (rhychwant ardaloedd rheoli a monitro adar gwyllt)
5 
Yn erthygl 6 (rhychwant ardaloedd rheoli a monitro adar gwyllt), ym mharagraff (9), yn lle “5(3)” rhodder “5(2)”.
Diwygio erthygl 11 (dyletswydd i arolygu mangreoedd dofednod)
6 
Yn erthygl 11 (dyletswydd i arolygu mangreoedd dofednod), yn is-baragraff (1)(b), yn lle “all premises where poultry are kept within the wild bird control area as often” rhodder “such premises within the wild bird control area at such frequency”.
Diwygio erthygl 12 (cynnal ardaloedd)
7 
Yn erthygl 12 (cynnal ardaloedd), ym mharagraff 2(c) yn lle “at least one visit to each of those premises” rhodder “such visits as considered necessary”.
Diwygio Atodlen 3 (mesurau bioddiogelwch)
8 
Yn Atodlen 3 (mesurau bioddiogelwch), ym mharagraff 4(b), hepgorer “(unless it is carrying poultry)”.
Dirymu
9 
Mae Penderfyniad y Comisiwn dyddiedig 11 Awst 2006 ynghylch mesurau diogelu penodol mewn perthynas â ffliw adar pathogenig iawn o’r is-deip H5N1 mewn adar gwyllt yn y Gymuned ac sy’n diddymu Penderfyniad 2006/115/EC wedi ei ddirymu.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
Am 5.55 p.m. ar 19 Tachwedd 2021