
2021 No. 1285 (Cy. 324)
Cynrychiolaeth Y Bobl, Cymru
Gorchymyn Cynrychiolaeth y Bobl (Amrywio Terfynau Treuliau Etholiad Ymgeiswyr) (Cymru) 2021
Gwnaed 17 Tachwedd 2021
Yn dod i rym 1 Ionawr 2022
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 76A(1)(a) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, a chan ystyried ei bod yn hwylus o ganlyniad i newidiadau yng ngwerth arian, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynrychiolaeth y Bobl (Amrywio Terfynau Treuliau Etholiad Ymgeiswyr) (Cymru) 2021 a daw i rym ar 1 Ionawr 2022.
Amrywio terfyn treuliau mewn etholiad llywodraeth leol yng Nghymru
2 
Yn adran 76(2)(b) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (uchafswm treuliau ymgeisydd mewn etholiad llywodraeth leol ac eithrio etholiad o dan Ddeddf Awdurdod Llundain Fwyaf 1999), o flaen is-baragraff (ii) mewnosoder—“
(ic) at a local government election in Wales, £806 together with an additional 7p for every entry in the register of electors;”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
17 Tachwedd 2021