
2021 Rhif 1284 (Cy. 323)
Cynllunio Seilwaith, Cymru
Gorchymyn Gorsaf Gynhyrchu Storfa Bwmpio Glyn Rhonwy (Diwygio) (Cymru) 2021
Gwnaed 17 Tachwedd 2021
Yn dod i rym 19 Tachwedd 2021

Mae cais wedi ei wneud, o dan baragraff 2 o Atodlen 6 i Ddeddf Cynllunio 2008, i Weinidogion Cymru yn unol â Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Newid a Dirymu Gorchmynion Caniatâd Datblygu) 2011 ar gyfer newid ansylweddol i Orchymyn Gorsaf Gynhyrchu Storfa Bwmpio Glyn Rhonwy 2017.
Mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i effaith y newid ar Orchymyn Gorsaf Gynhyrchu Storfa Bwmpio Glyn Rhonwy 2017 fel y’i gwnaed yn wreiddiol ac maent yn fodlon nad yw’r newid yn sylweddol.
Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried y cais, yr ymatebion i’r cyhoeddusrwydd a’r ymgynghori a oedd yn ofynnol gan reoliadau 6 a 7 o Reoliadau Cynllunio Seilwaith (Newid a Dirymu Gorchmynion Caniatâd Datblygu) 2011, wedi penderfynu gwneud y newid a gynigir yn y cais.

Yn unol â hynny, mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 2(1) a (9) o Atodlen 6 i Ddeddf Cynllunio 2008, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gorsaf Gynhyrchu Storfa Bwmpio Glyn Rhonwy (Diwygio) (Cymru) 2021 a daw i rym ar 19 Tachwedd 2021.
Diwygio Gorchymyn Gorsaf Gynhyrchu Storfa Bwmpio Glyn Rhonwy 2017
2 

(1) Mae Gorchymyn Gorsaf Gynhyrchu Storfa Bwmpio Glyn Rhonwy 2017 (“Gorchymyn 2017”) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff 2 o Ran 2 o Atodlen 1 i Orchymyn 2017 rhodder “The authorised development must be commenced no later than 29 March 2024.”
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
17 Tachwedd 2021