
2021 Rhif 1249 (Cy. 321) (C. 71)
Llywodraeth Leol, Cymru
Cynrychiolaeth Y Bobl, Cymru
Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaeth Drosiannol a Diwygio Gorchymyn Cychwyn Rhif 1) 2021
Gwnaed 9 Tachwedd 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 175(7) ac (8) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaeth Drosiannol a Diwygio Gorchymyn Cychwyn Rhif 1) 2021.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “Deddf 2021” (“the 2021 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;
 mae i “etholiad llywodraeth leol” (“local government election”) yr ystyr a roddir gan adran 171(1) o Ddeddf 2021.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 17 Tachwedd 2021
2 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2021 i rym ar 17 Tachwedd 2021—
(a) adrannau 19 i 21;
(b) paragraffau 1(3) i 1(5), 1(7), 1(9), 5 a 13 o Atodlen 2.
Diwygio Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Arbed) 2021
3 

(1) Mae erthygl 6 o Orchymyn Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Arbed) 2021 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff (t) rhodder “(t) paragraffau 1, 3 i 5 a 6(1) i (4) o Atodlen 6;”.
Darpariaeth drosiannol
4 

(1) Er bod y darpariaethau a grybwyllir ym mharagraff (2) yn dod i rym yn rhinwedd erthygl 2, nid ydynt ond yn cael effaith mewn perthynas ag etholiad llywodraeth leol pan gynhelir y bleidlais ar 5 Mai 2022 neu ar ôl hynny.
(2) Y darpariaethau yw—
(a) adrannau 19 i 21;
(b) paragraffau 1(3) i 1(5) ac 1(7) o Atodlen 2.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
9 Tachwedd 2021