
2021 Rhif 1248 (Cy. 320)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 19) 2021
Gwnaed am 8.27 p.m. ar 9 Tachwedd 2021
Yn dod i rym am 7.00 a.m. ar 15 Tachwedd 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 45C(1) a (3)(c) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984.
Yn unol ag adran 45Q(4) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 19) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 7.00 a.m. ar 15 Tachwedd 2021.
Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020
2 
Yn rheoliad 16A o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020—
(a) yn y pennawd, yn lle “fangreoedd lle y darperir cerddoriaeth ar gyfer dawnsio” rhodder “leoliadau a mangreoedd lletygarwch ac adloniant penodedig”;
(b) ym mharagraff (2), ar ôl is-baragraff (d) mewnosoder—“
(e) sinema, ac eithrio sinema o sedd cerbyd;
(f) neuadd gyngerdd neu theatr, ac eithrio theatr o sedd cerbyd.”
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
Am 8.27 p.m. ar 9 Tachwedd 2021