
2021 Rhif 1247 (Cy. 319)
Llywodraeth Leol, Cymru
Cynrychiolaeth Y Bobl, Cymru
Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Diwygio) (Cymru) (Coronafeirws) (Rhif 2) 2021
Gwnaed 9 Tachwedd 2021
Yn dod i rym 10 Tachwedd 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan baragraffau 4(2)(c) a 6(7) ac (8) o Atodlen 4 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000 ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 201(2) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Diwygio) (Cymru) (Coronafeirws) (Rhif 2) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 10 Tachwedd 2021.
Diwygio Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001
2 
Yn rheoliad 56(3C) o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, yn lle “4 November 2021” rhodder “28 March 2022”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
9 Tachwedd 2021