
2021 Rhif 1232 (Cy. 311)
Llywodraeth Leol, Cymru
Gorchymyn Sir Fynwy (Trefniadau Etholiadol) 2021
Gwnaed 3 Tachwedd 2021
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)

Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, yn unol ag adran 36(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (“Deddf 2013”), wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru adroddiad dyddiedig Mehefin 2021 yn cynnwys ei argymhellion ar gyfer newid a manylion ei adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer Sir Fynwy.
Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried y materion y cyfeirir atynt ac a nodir yn adran 37(2)(a) ac (c) o Ddeddf 2013, wedi penderfynu rhoi effaith i’r argymhellion hynny gydag addasiadau.
Yn unol ag adran 37(3) o Ddeddf 2013, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pwerau a roddir gan adran 37(1) o Ddeddf 2013.
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Fynwy (Trefniadau Etholiadol) 2021.
(2) At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o Reoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 9 Tachwedd 2021.
(3) At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022.
(4) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Sir Fynwy;
 mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.
Trefniadau etholiadol ar gyfer Sir Fynwy
2 

(1) Mae wardiau etholiadol Sir Fynwy, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.
(2) Mae Sir Fynwy wedi ei rhannu’n 39 o wardiau etholiadol, a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(3) Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(4) Nifer yr aelodau o’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(5) Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
3 Tachwedd 2021
YR ATODLEN
ENWAU AC ARDALOEDD WARDIAU ETHOLIADOL A NIFER AELODAU’R CYNGOR
Erthygl 2


Tabl
Colofn (1) Colofn (2) Colofn (3) Colofn (4)
Enw Saesneg y ward etholiadol Enw Cymraeg y ward etholiadol Ardal y ward etholiadol Nifer aelodau’r cyngor
Bulwark and Thornwell Bulwark a Thornwell Wardiau Bulwark, Thornwell a Maple Avenue o gymuned Cas-gwent 2
Caerwent Caer-went Cymuned Caer-went 1
Caldicot Castle Castell Cil-y-coed Ward Castell Caldicot o gymuned Caldicot 1
Caldicot Cross Croes Cil-y-coed Ward Caldicot Cross o gymuned Caldicot 1
Cantref Cantref Wardiau Cantref and Llanwenarth Citra o gymuned y Fenni 1
Chepstow Castle and Larkfield Castell Cas-gwent a Larkfield Wardiau Castell Cas-gwent a Larkfield o gymuned Cas-gwent 2
Croesonen Croesonnen Ward Croesonnen o gymuned Llandeilo Bertholau 1
Crucorney Crucornau Fawr Cymunedau Crucornau a Grysmwnt 1
Devauden Devauden Cymuned Devauden a wardiau Llan-gwm a Llan-soe o gymuned Llantrisant Fawr 1
Dewstow Llanddewi Ward Llanddewi o gymuned Caldicot 1
Drybridge Drybridge Ward Drybridge o gymuned Trefynwy 1
Gobion Fawr Gobion Fawr Cymunedau Gobion Fawr a Llan-arth 1
Goetre Fawr Goetre Fawr Cymuned Goetre Fawr 1
Grofield Grofield Ward Grofield o gymuned y Fenni 1
Lansdown Lansdown Ward Lansdown o gymuned y Fenni 1
Llanbadoc and Usk Llanbadog a Brynbuga Cymunedau Llanbadog a Brynbuga 2
Llanelly Llanelli Cymuned Llanelli 2
Llanfoist Fawr and Govilon Llan-ffwyst Fawr a Gofilon Cymuned Llan-ffwyst Fawr 2
Llangybi Fawr Llangybi Fawr Cymuned Llangybi a wardiau Gwernesni a Llantrisant o gymuned Llantrisant Fawr 1
Llantilio Crossenny Llandeilo Gresynni Cymunedau Ynysgynwraidd a Chastell-gwyn 1
Magor East with Undy Dwyrain Magwyr gyda Gwndy Wardiau Dwyrain Magwyr a Gwndy o gymuned Magwyr gyda Gwndy 2
Magor West Gorllewin Magwyr Ward Gorllewin Magwyr o gymuned Magwyr gyda Gwndy 1
Mardy Y Maerdy Wardiau’r Maerdy, Pantygelli ac Ysgyryd o gymuned Llandeilo Bertholau 1
Mitchel Troy and Trellech United Llanfihangel Troddi a Thryleg Unedig Cymunedau Llanfihangel Troddi a Thryleg Unedig 2
Mount Pleasant Mount Pleasant Ward Mount Pleasant o gymuned Cas-gwent 1
Osbaston Osbaston Ward Osbaston o gymuned Trefynwy 1
Overmonnow Overmonnow Ward Overmonnow o gymuned Trefynwy 1
Park Y Parc Ward y Parc o gymuned y Fenni 1
Pen Y Fal Pen-y-fâl Ward Pen-y-fâl o gymuned y Fenni 1
Portskewett Porthsgiwed Cymuned Porth Sgiwed 1
Raglan Rhaglan Cymuned Rhaglan 1
Rogiet Rogiet Cymuned Rogiet 1
Severn Hafren Wardiau Hafren a The Village o gymuned Caldicot 1
Shirenewton Drenewydd Gelli-farch Cymunedau Matharn a Drenewydd Gelli-farch 1
St Arvans Llanarfan Cymunedau St Arvans a Dyffryn Gwy 1
St Kingsmark Llangynfarch Ward St Kingsmark o gymuned Cas-gwent 1
Town Y Dref Ward y Dref o gymuned Trefynwy 1
West End West End Ward West End o gymuned Caldicot 1
Wyesham Wyesham Ward Wyesham o gymuned Trefynwy 1