
2021 Rhif 1216 (Cy. 305)
Llywodraeth Leol, Cymru
Gorchymyn Dinas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd (Trefniadau Etholiadol) 2021
Gwnaed 1 Tachwedd 2021
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)

Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, yn unol ag adran 36(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (“Deddf 2013”), wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru adroddiad dyddiedig Awst 2020 yn cynnwys ei argymhellion ar gyfer newid a manylion ei adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer Dinas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd.
Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried y materion y cyfeirir atynt ac a nodir yn adran 37(2)(a) ac (c) o Ddeddf 2013, wedi penderfynu rhoi effaith i’r argymhellion hynny gydag addasiad.
Yn unol ag adran 37(3) o Ddeddf 2013, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pwerau a roddir gan adran 37(1) o Ddeddf 2013.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dinas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd (Trefniadau Etholiadol) 2021.
(2) At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym drennydd y diwrnod y’i gwneir.
(3) At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976;
 ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Dinas Casnewydd;
 mae unrhyw gyfeiriad at fap yn golygu un o’r 2 fap a farciwyd “Map ar gyfer Gorchymyn Dinas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd (Trefniadau Etholiadol) 2021” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau, a labelwyd “1” a “2”, ac mae cyfeiriad at fap â rhif yn gyfeiriad at y map sy’n dwyn y rhif hwnnw;
 pan ddangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;
 mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.
Trefniadau etholiadol ar gyfer Dinas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd
3 

(1) Mae wardiau etholiadol Dinas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.
(2) Mae Dinas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd wedi ei rhannu’n 21 o wardiau etholiadol, a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(3) Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(4) Nifer yr aelodau o’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(5) Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Cymunedau Graig a Thŷ-du: newidiadau i ffiniau cymunedol
4 
Mae’r rhan o gymuned Graig a ddangosir â llinellau ar Fap 1 wedi ei throsglwyddo i gymuned Tŷ-du, ac yn ffurfio rhan o ward Gorllewin Tŷ-du o gymuned Tŷ-du.
Cymuned Tŷ-du: newidiadau i drefniadau etholiadol
5 
Yng nghymuned Tŷ-du—
(a) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Dwyrain Tŷ-du yw 4;
(b) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Gogledd Tŷ-du yw 4;
(c) nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Gorllewin Tŷ-du yw 7.
Cymunedau Pilgwenlli a Stow Hill: newidiadau i ffiniau cymunedol
6 
Mae’r rhan o gymuned Pilgwenlli a ddangosir â llinellau ar Fap 2 wedi ei throsglwyddo i gymuned Stow Hill.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
1 Tachwedd 2021
YR ATODLEN
ENWAU AC ARDALOEDD WARDIAU ETHOLIADOL A NIFER AELODAU’R CYNGOR
Erthygl 3


Tabl
Colofn (1) Colofn (2) Colofn (3) Colofn (4)
Enw Saesneg y ward etholiadol Enw Cymraeg y ward etholiadol Ardal y ward etholiadol Nifer aelodau’r cyngor
Allt-yr-yn Allt-yr-ynn Cymuned Allt-yr-ynn 3
Alway Alway Cymuned Alway 3
Beechwood Beechwood Cymuned Beechwood 3
Bettws Betws Cymuned Betws 3
Bishton and Langstone Trefesgob a Langstone Cymunedau Trefesgob, Langstone, Llanfaches, a Phen-hw 2
Caerleon Caerllion Cymuned Caerllion 3
Gaer Gaer Cymuned Gaer 3
Graig Graig Cymuned Graig 2
Lliswerry Llyswyry Cymuned Llyswyry 4
Llanwern Llan-wern Cymunedau Allteuryn, Llan-wern, Trefonnen a Redwick 1
Malpas Malpas Cymuned Malpas 3
Pillgwenlly Pilgwenlli Cymuned Pilgwenlli 2
Ringland Ringland Cymuned Ringland 3
Rogerstone East Dwyrain Tŷ-du Ward Dwyrain Tŷ-du o gymuned Tŷ-du 1
Rogerstone North Gogledd Tŷ-du Ward Gogledd Tŷ-du o gymuned Tŷ-du 1
Rogerstone West Gorllewin Tŷ-du Ward Gorllewin Tŷ-du o gymuned Tŷ-du 2
Shaftesbury Shaftesbury Cymuned Shaftesbury 2
St Julians Sain Silian Cymuned Sain Silian 3
Stow Hill Stow Hill Cymuned Stow Hill 2
Tredegar Park and Marshfield Parc Tredegar a Maerun Cymunedau Maerun, Llanfihangel-y-fedw, Coedcernyw, Gwynllŵg a Pharc Tredegar 3
Victoria Victoria Cymuned Victoria 2