
2021 Rhif 1212 (Cy. 303)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Cyfyngiadau, Teithio Rhyngwladol, Hysbysu a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021
Gwnaed am 4.25 p.m. ar 29 Hydref 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru am 6.30 p.m. ar 29 Hydref 2021
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B, 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Mewn perthynas â’r ddarpariaeth a wneir gan reoliad 18 o’r Rheoliadau hyn, yn unol ag adran 45Q(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, mae Gweinidogion Cymru o’r farn nad yw’r offeryn yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth a wneir yn rhinwedd adran 45C(3)(c) o’r Ddeddf sy’n gosod neu’n galluogi gosod cyfyngiad neu ofyniad arbennig, neu unrhyw gyfyngiad neu ofyniad arall sy’n cael neu a fyddai’n cael effaith sylweddol ar hawliau person.
RHAN 1 Cyffredinol
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Cyfyngiadau, Teithio Rhyngwladol, Hysbysu a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn, ac eithrio rheoliadau 3, 12 a 18, i rym am 4.00 a.m. ar 31 Hydref 2021.
(3) Daw rheoliadau 3, 12 a 18 i rym am 4.00 a.m. ar 1 Tachwedd 2021.
RHAN 2 Diwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020
Diwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020
2 
Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
Diwygiadau i reoliad 2A
3 

(1) Mae rheoliad 2A (esemptiadau ar gyfer teithwyr sydd wedi eu brechu ac eraill) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (10) yn y diffiniad o “brechlyn awdurdodedig”, yn lle paragraff (c) rhodder—“
(c) mewn perthynas â dosau a geir mewn unrhyw wlad neu diriogaeth arall (gan gynnwys gwlad berthnasol a restrir ym mharagraff (12)), a fyddai’n awdurdodedig fel y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (a)(i) neu (ii) pe bai’r dosau wedi eu cael yn y Deyrnas Unedig;”.
(3) Ym mharagraff (12) yn y lleoedd priodol mewnosoder—“
 Angola”“
 Anguilla”“
 Ardaloedd Safleoedd Sofran Akrotiri a Dhekelia ar Ynys Cyprus”“
 Yr Ariannin”“
 Armenia”“
 Azerbaijan”“
 Belize”“
 Bermuda”“
 Botswana”“
 Cambodia”“
 Costa Rica”“
 De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De”“
 Djibouti”“
 Eswatini”“
 Gibraltar”“
 Guernsey”“
 Guyana”“
 Honduras”“
 Jersey”“
 Lesotho”“
 Libanus”“
 Madagascar”“
 Mauritius”“
 Mongolia”“
 Montserrat”“
 Nepal”“
 Panama”“
 Periw”“
 Rwanda”“
 Seychelles”“
 Sierra Leone”“
 Sri Lanka”“
 St Helena, Ascension a Tristan da Cunha”“
 Suriname”“
 Tanzania”“
 Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig”“
 Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India”“
 Tiriogaethau Meddianedig Palesteina”“
 Trinidad a Tobago”“
 Tunisia”“
 Uganda”“
 Uruguay”“
 Ynys Manaw”“
 Ynysoedd Cayman”“
 Ynysoedd Falkland”“
 Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno”“
 Ynysoedd Prydeinig y Wyryf”“
 Ynysoedd Turks a Caicos ”.
Diwygiadau i reoliad 6AB
4 

(1) Mae rheoliad 6AB (gofyniad i archebu a chymryd profion) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff (2)(a) rhodder—“
(a) “prawf diwrnod 2”—
(i) mewn cysylltiad â pherson nad yw rheoliad 2A yn gymwys iddo, yw prawf sy’n cydymffurfio â pharagraff 1 o Atodlen 1C sy’n cael ei gymryd o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff 1A o’r Atodlen honno;
(ii) mewn cysylltiad â theithiwr rheoliad 2A, yw—(aa) prawf a ddisgrifir yn is-baragraff (i), neu(bb) prawf sy’n cydymffurfio â pharagraff 1ZB o Atodlen 1C sy’n cael ei gymryd o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff 1A o’r Atodlen honno;”.
Diwygiadau i reoliad 6DB
5 

(1) Mae rheoliad 6DB (gofyniad i ynysu o fethu â chymryd profion: teithwyr o wledydd a thiriogaethau esempt a theithwyr rheoliad 2A) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn y pennawd, hepgorer “o wledydd a thiriogaethau esempt a theithwyr”.
(3) Yn lle is-baragraff (1) rhodder—“
(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i deithiwr rheoliad 2A (“P”) y mae rheoliad 6AB(1) yn gymwys iddo.”
(4) Ym mharagraff (5)(a), yn lle “ym mharagraff 1 o Atodlen 1C” rhodder “yn rheoliad 6AB(2)(a)(ii)”.
Amnewid rheoliad 6E
6 
Yn lle rheoliad 6E (goblygiadau canlyniad prawf positif) rhodder—“
Goblygiadau canlyniad prawf positif
6E. 

(1) Pan fo prawf a gymerir gan berson (“P”) yn unol â rheoliad 6AB yn bositif ac—
(a) bo P yn berson y mae rheoliad 7(1) neu 8(1) yn gymwys iddo, mae paragraffau (2) a (7) yn gymwys;
(b) bo P yn deithiwr rheoliad 2A—
(i) pan fo’r prawf yn brawf PCR diwrnod 2, mae paragraffau (3) a (7) yn gymwys;
(ii) pan fo’r prawf yn brawf LFD diwrnod 2, mae paragraffau (4), (5) a (7) yn gymwys.
(2) Diwrnod ynysu olaf P o dan reoliad 7 neu 8 yw diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y cymerodd P y prawf (ac nid yw rheoliad 12 yn gymwys at ddibenion pennu diwrnod ynysu olaf P).
(3) Mae P i’w drin fel pe bai gofynion rheoliad 7 yn gymwys a rhaid i P ynysu a pharhau i ynysu yn unol â’r rheoliad hwnnw tan ddiwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y cymerodd P y prawf.
(4) Rhaid i P, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gymryd prawf cadarnhau a ddarperir gan Weinidogion Cymru at ddibenion y paragraff hwn.
(5) Mae P i’w drin fel pe bai gofynion rheoliad 7 yn gymwys a rhaid i P ynysu a pharhau i ynysu yn unol â’r rheoliad hwnnw tan y cynharaf o’r canlynol—
(a) diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y cymerodd P y prawf LFD diwrnod 2;
(b) yr adeg yr hysbysir P bod canlyniad y prawf cadarnhau a gymerwyd yn unol â pharagraff (4) yn negyddol.
(6) Yn y rheoliad hwn, bernir bod person yn cael hysbysiad o ganlyniad mewn perthynas â phrawf LFD diwrnod 2 pan fydd y person yn penderfynu ar y canlyniad yn unol â chyfarwyddiadau defnyddio gweithgynhyrchydd y prawf.
(7) Nid yw rheoliad 10(3) (gofyniad i ynysu yn peidio â bod yn gymwys i P pan fydd P yn gadael Cymru) o’r Rheoliadau hyn ac, yn ddarostyngedig i reoliad 6I, rheoliad 6 neu 7, fel y bo’n briodol, o’r Rheoliadau Cyfyngiadau Coronafeirws yn gymwys mewn perthynas â P.
(8) Yn y rheoliad hwn—
 ystyr “prawf LFD diwrnod 2” yw prawf o fewn ystyr rheoliad 6AB(2)(a)(ii)(bb);
 ystyr “prawf PCR diwrnod 2” yw prawf o fewn ystyr rheoliad 6AB(2)(a)(ii)(aa).”
Diwygiadau i reoliad 6HB
7 

(1) Mae rheoliad 6HB (goblygiadau cael canlyniad prawf amhendant: teithwyr o wledydd a thiriogaethau esempt a theithwyr rheoliad 2A) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn y pennawd, hepgorer “o wledydd a thiriogaethau esempt a theithwyr”.
(3) Yn lle is-baragraff (1) rhodder—“
(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i deithiwr rheoliad 2A (“P”) y mae rheoliad 6AB(1) yn gymwys iddo.”
(4) Ym mharagraff (5)(a), yn lle “ym mharagraff 1 o Atodlen 1C” rhodder “yn rheoliad 6AB(2)(a)(ii)”.
Diwygiadau i reoliad 14
8 

(1) Mae rheoliad 14 (troseddau) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl paragraff (1)(h) mewnosoder—“
(ha) 6E(4);”.
(3) Ym mharagraff (1D), ar ôl “6AB” mewnosoder “neu 6E(4)”.
Diwygiadau i reoliad 16
9 
Yn rheoliad 16(6AB) (hysbysiadau cosb benodedig)—
(a) yn y geiriau agoriadol, ar ôl “rheoliad 14(1)(h)” mewnosoder “neu (ha)”;
(b) yn is-baragraff (b), ar ôl “6AB(7)” mewnosoder “neu 6E(4)”;
(c) yn is-baragraff (c), ar ôl “6AB(7)” mewnosoder “neu 6E(4)”.
Diwygiadau i Atodlen 1
10 
Ym mharagraff 2 o Atodlen 1 (gwybodaeth am deithiwr), hepgorer is-baragraffau (e) a (k)(iv).
Diwygiadau i Atodlen 1C
11 

(1) Mae Atodlen 1C (profi mandadol ar ôl cyrraedd Cymru) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl paragraff 1ZA mewnosoder—“
Profion diwrnod 2: gofynion cyffredinol ar gyfer profion dyfais llif unffordd
1ZB. 

(1) Mae prawf diwrnod 2 yn cydymffurfio â’r paragraff hwn pan fo’r prawf yn cydymffurfio ag is-baragraff (2) a phan fo—
(a) yn brawf a ddarperir gan ddarparwr prawf cyhoeddus; neu
(b) yn brawf a ddarperir gan ddarparwr prawf preifat pan fo’r darparwr prawf preifat yn cydymffurfio â pharagraff 1ZC.
(2) Mae prawf yn cydymffurfio â’r is-baragraff hwn—
(a) pan fo’n brawf ar gyfer canfod y coronafeirws sy’n defnyddio un neu ragor o’r canlynol—
(i) swabio’r trwyn yn y cogwrn canol neu ym mlaen y ffroenau;
(ii) swabio’r tonsiliau;
(iii) poer;
(b) pan fo modd ei adnabod yn unigryw;
(c) pan fo wedi ei ddarparu yn unol â chyfarwyddiadau defnyddio gweithgynhyrchydd y prawf, gan gynnwys, yn benodol, cyfarwyddiadau o ran y defnydd targed, y defnyddiwr targed a gosodiadau’r defnydd targed; a
(d) pan fo unrhyw ddyfais a ddefnyddir at ddibenion y prawf yn gallu cael ei defnyddio yn unol â Rhan 4 o Reoliadau Dyfeisiau Meddygol 2002, ac eithrio yn rhinwedd rheoliad 39(2) o’r Rheoliadau hynny yn unig.
Profion diwrnod 2: gofynion darparwr prawf preifat ar gyfer profion dyfais llif unffordd
1ZC. 

(1) Mae darparwr prawf preifat yn cydymffurfio â’r paragraff hwn—
(a) pan fo’n cydymffurfio â gofynion paragraff 1ZA(1)(a) i (e) ac (h);
(b) pan fo wedi gwneud datganiad i’r Ysgrifennydd Gwladol ei fod yn bodloni’r safonau gofynnol ar gyfer profion a ddarperir gan y sector preifat a gyhoeddwyd ar 
gov.uk/guidance/day-2-lateral-flow-tests-for-international-arrivals-minimum-standards-for-providers ar 21 Hydref 2021 a bod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi cadarnhau yn ysgrifenedig ei fod yn ystyried bod y darparwr yn bodloni’r safonau hynny;
(c) pan fo’n parhau i fodloni’r safonau gofynnol y mae’r datganiad a grybwyllir ym mharagraff (b) yn ymwneud â hwy;
(d) pan fo wedi darparu i’r Ysgrifennydd Gwladol restr o’r holl sefydliadau y mae’n gweithio gyda hwy (boed drwy is-gontract neu fel arall) i gynnal y gwasanaeth profi, gan nodi natur y gwasanaeth y mae pob sefydliad yn ei ddarparu, ac wedi diweddaru’r rhestr honno fel y bo’n briodol;
(e) pan fo’n cael yr wybodaeth sy’n ofynnol gan reoliad 6AB(5), ac os yw’n gweinyddu’r prawf i P, ei fod yn gwneud hynny heb fod yn hwyrach na diwedd yr ail ddiwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru;
(f) pan fo ganddo system ar waith i wrthod canlyniadau gan ddyfeisiau a ddefnyddiwyd yn flaenorol;
(g) pan fo, bob dydd, yn hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol yn ysgrifenedig—
(i) am nifer y profion y mae wedi eu gwerthu ar y diwrnod hwnnw, a
(ii) mewn perthynas â phob prawf a werthwyd ar y diwrnod hwnnw—(aa) am y dyddiad y cyrhaeddodd y person y gwerthwyd y prawf mewn cysylltiad ag ef y Deyrnas Unedig,(bb) a yw’n brawf adwaith cadwynol polymerasau neu’n brawf dyfais llif unffordd, ac(cc) am y cyfeirnod prawf a roddwyd i P yn unol â rheoliad 6AB(6);
(iii) mewn perthynas â phob prawf y canslwyd ei bryniant ar y diwrnod hwnnw, yr wybodaeth a nodir yn is-baragraff (ii)(aa) i (cc);
(h) os yw’n trefnu gyda pherson arall (“X”) i X gyflawni unrhyw elfen o’r un gwasanaeth profi o’r dechrau i’r diwedd ar ei ran, pan fo’r darparwr prawf yn sicrhau bod X yn cydymffurfio â’r canlynol i’r graddau y maent yn berthnasol i gyflawni’r elfen honno—
(i) paragraff 1ZA(1)(b) i (e) ac (h) fel y’i cymhwysir gan baragraff (a) o’r is-baragraff hwn;
(ii) paragraff (c) i (g) o’r is-baragraff hwn;
(iii) paragraff 2D(2) a (4).
(2) At ddibenion is-baragraff (1)(h), ystyr “un gwasanaeth profi o’r dechrau i’r diwedd” yw gwasanaeth sy’n cwmpasu unrhyw un neu ragor o’r elfennau a ganlyn pan fônt yn rhan o’r gwasanaeth a gynigir gan y darparwr prawf—
(a) derbyn yr archeb gan y person sydd i’w brofi;
(b) darparu’r prawf;
(c) casglu a phrosesu’r prawf wedi iddo gael ei gymryd;
(d) dadansoddi’r prawf;
(e) gwirio canlyniad y prawf;
(f) darparu hysbysiad o ganlyniad y prawf.”
(3) Yn lle paragraff (1A) rhodder—“
1A. 
Yr amgylchiadau a grybwyllir yn rheoliad 6AB(2)(a) yw—
(a) bod P yn cymryd prawf diwrnod 2 heb fod yn hwyrach na diwedd yr ail ddiwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru, a
(b) mewn perthynas â phrawf a ddisgrifir yn rheoliad 6AB(2)(a)(ii)(bb) nad yw wedi ei weinyddu gan ddarparwr prawf, fod P yn darparu i’r darparwr prawf yr wybodaeth a ganlyn o fewn 15 munud i amser darllen y prawf fel y’i pennir gan gyfarwyddiadau defnyddio y gweithgynhyrchydd—
(i) tystiolaeth ffotograffig sy’n dangos yn glir—(aa) y ddyfais brofi yn y fath fodd fel y gellir ei hadnabod fel un sydd wedi ei darparu gan y darparwr prawf,(bb) cyfeirnod y prawf a roddwyd yn unol â rheoliad 6AB(6), ac(cc) canlyniad y prawf, a
(ii) y cyfeiriad y gall P gael prawf cadarnhau ynddo yn unol â rheoliad 6E(4).”
(4) Ar ôl paragraff 2C mewnosoder—“
Hysbysu am ganlyniadau profion: profion dyfais llif unffordd
2D. 

(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i ddarparwr prawf preifat sy’n gweinyddu neu’n darparu prawf o fewn ystyr rheoliad 6AB(2)(a)(ii)(bb) i P o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff 1A.
(2) Rhaid i’r darparwr prawf preifat, o fewn 24 awr i’r digwyddiad perthnasol—
(a) hysbysu P a, phan fo’n gymwys, unrhyw berson sy’n trefnu’r prawf ar ran P, drwy e-bost, llythyr neu neges destun, am ganlyniad prawf P, neu
(b) peri bod canlyniad prawf P ar gael i P a, phan fo’n gymwys, i unrhyw berson sy’n trefnu’r prawf ar ran P, drwy borthol diogel ar y we,
yn unol ag is-baragraff (4).
(3) Ym mharagraff (2), ystyr “digwyddiad perthnasol” yw—
(a) pan weinyddodd y darparwr prawf y prawf, yr adeg y penderfynodd y darparwr prawf ar ganlyniadau’r prawf;
(b) pan na weinyddodd y darparwr prawf y prawf, yr adeg y cafodd y darparwr prawf yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei darparu gan baragraff 1A(b).
(4) Rhaid i’r hysbysiad am ganlyniad prawf P gynnwys enw, dyddiad geni, rhif pasbort, neu gyfeirnod dogfen deithio (fel y bo’n briodol) P, enw a manylion cyswllt y darparwr prawf a chyfeirnod prawf P, a rhaid ei gyfleu mewn modd sy’n hysbysu P a oedd y prawf yn negyddol, yn bositif, neu’n amhendant.”
(5) Ym mharagraff 3(d), ar ôl “ystyr “un gwasanaeth profi o’r dechrau i’r diwedd””, mewnosoder “, ac eithrio ym mharagraff 1ZC(1)(h),”.
Diwygiadau i Atodlen 3A
12 
Yn Atodlen 3A (gwledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol) hepgorer—“
 Colombia”“
 Ecuador”“
 Gweriniaeth Dominica”“
 Haiti”“
 Gweriniaeth Panamá”“
 Periw”“
 Venezuela” .
RHAN 3 Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) 2010
Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) 2010
13 
Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) 2010 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
Diwygiadau i reoliad 4A
14 

(1) Mae rheoliad 4A (dyletswydd ar weithredwyr labordai diagnostig i hysbysu Iechyd Cyhoeddus Cymru am brofion SARS-CoV-2 neu firws y ffliw a brosesir) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (1), ar ôl “SARS-CoV-2” mewnosoder “, ac eithrio prawf y mae rheoliad 4AB yn gymwys mewn perthynas ag ef,”.
(3) Ym mharagraff (3)(a), ar ôl “SARS-CoV-2” mewnosoder “, ac eithrio prawf y mae rheoliad 4AB yn gymwys mewn perthynas ag ef,”.Mewnosod rheoliad 4AB
(4) Ar ôl rheoliad 4A mewnosoder—“
Dyletswydd i hysbysu Iechyd Cyhoeddus Cymru am ganlyniadau profion dyfais llif unffordd a gymerir gan deithwyr cymwys
4AB. 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo darparwr prawf yn gweinyddu neu’n darparu prawf ar gyfer canfod SARS-CoV-2 yn unol â rheoliad 6AB(2)(a)(ii)(bb) (profion dyfais llif unffordd) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
(2) Rhaid i’r darparwr prawf hysbysu Iechyd Cyhoeddus Cymru am ganlyniad y prawf yn unol â pharagraffau (3) i (5).
(3) Rhaid darparu hysbysiad mewn ysgrifen—
(a) pan weinyddodd y darparwr prawf y prawf, o fewn 24 awr i benderfynu ar ganlyniad y prawf;
(b) pan na weinyddodd y darparwr prawf y prawf, o fewn 24 awr i gael yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei darparu gan baragraff 1A(b) o Atodlen 1C i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
(4) Rhaid i hysbysiad gynnwys yr wybodaeth ganlynol, i’r graddau y mae’n hysbys i’r darparwr prawf—
(a) mewn perthynas â’r person a gymerodd y prawf (“P”)—
(i) ei enw cyntaf;
(ii) ei gyfenw;
(iii) ei ryw;
(iv) ei ddyddiad geni;
(v) ei rif GIG;
(vi) ei ethnigrwydd;
(vii) ei gyfeiriad cartref (gan gynnwys y cod post);
(viii) y cyfeiriad a ddarperir i’r darparwr prawf fel y man lle y gall P gael prawf cadarnhau;
(ix) ei rif teleffon a’i gyfeiriad e-bost, pan fo canlyniad y prawf yn bositif neu’n amhenodol;
(b) pa un a yw P wedi cael brechlyn yn erbyn SARS-CoV-2 ai peidio;
(c) rhif pasbort P neu rif dogfen deithio P (fel y bo’n briodol);
(d) rhif coets, rhif hediad, neu enw llestr y cludiant y cyrhaeddodd P Gymru arno;
(e) cyfeirnod y prawf a roddwyd i P yn unol â rheoliad 6AB(6) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol;
(f) y wlad neu’r diriogaeth yr oedd P yn teithio ohoni pan gyrhaeddodd P Gymru, ac unrhyw wlad neu diriogaeth y tramwyodd drwyddi fel rhan o’r daith honno;
(g) y dyddiad y cymerodd P y prawf;
(h) cadarnhad bod y prawf yn cydymffurfio â’r gofynion sy’n gymwys o dan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol a’i fod wedi ei gymryd yn unol â hwy;
(i) cadarnhad bod y prawf yn brawf dyfais llif unffordd a gymerwyd gan deithiwr rheoliad 2A o fewn ystyr y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol;
(j) pan na weinyddodd y darparwr prawf y prawf, y dyddiad a’r amser y cafodd y darparwr prawf yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei darparu gan baragraff 1A(b) o Atodlen 1C i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol;
(k) yr wybodaeth ganlynol ynghylch y prawf—
(i) enw’r darparwr prawf a disgrifiad o’i weithrediadau;
(ii) rhif y sbesimen;
(iii) y math o sbesimen;
(iv) dyddiad y sbesimen;
(v) y dull profi;
(vi) y canlyniad;
(vii) y dyddiad y cynhaliwyd y prawf;
(viii) enw gweithgynhyrchydd y cyfarpar profi.
(5) Pan fo P yn blentyn, neu’n berson sydd ag anabledd sy’n analluog am y rheswm hwnnw i ddarparu’r wybodaeth a nodir ym mharagraff (4)(a) i’r darparwr prawf, rhaid i’r darparwr prawf ddarparu i Iechyd Cyhoeddus Cymru, i’r graddau y mae’n hysbys i’r darparwr prawf—
(a) yr wybodaeth a nodir ym mharagraff (4)(a)(i) i (viii) mewn perthynas â P, ar ôl ei chael oddi wrth riant, gwarcheidwad neu ofalwr priodol i P (“X”); a
(b) pan fo canlyniad y prawf yn bositif neu’n amhenodol, rhif teleffon a chyfeiriad e-bost X.
(6) Mae’n dramgwydd i ddarparwr prawf fethu â chydymffurfio â’r rheoliad hwn heb esgus rhesymol.
(7) Mae darparwr prawf sy’n cyflawni tramgwydd o dan y rheoliad hwn yn agored, o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy.
(8) Yn y rheoliad hwn, mae i “anabledd”, “gofalwr”, “gwarcheidwad”, “Iechyd Cyhoeddus Cymru”, “plentyn”, “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” a “rhiant” yr ystyron a roddir yn rheoliad 4A.”
Diwygiadau i reoliad 5
15 

(1) Mae rheoliad 5 (dyletswydd i ddarparu gwybodaeth i’r swyddog priodol neu Iechyd Cyhoeddus Cymru) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (1), ar ôl “4A,” mewnosoder “4AB,”.
(3) Ym mharagraff (2A), ar ôl “4A(3),” mewnosoder “4AB(4),”.
Diwygiad i reoliad 7
16 
Yn rheoliad 7(1)(a) (cyfathrebiadau electronig), ar ôl “4A(1),” mewnosoder “4AB,”.
RHAN 4 Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020
Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020
17 
Yn lle rheoliad 3A(4)(a) (darparu gwybodaeth cyn i daith ymadael) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 rhodder—“
(a) pan ddarperir yr wybodaeth drwy neges destun neu hysbysiad gwthio, testun sydd—
(i) yn hysbysu P am y gofyniad i ddarparu gwybodaeth,
(ii) yn hysbysu P bod cosbau yn gymwys am fethu â chydymffurfio â’r gofyniad i ddarparu gwybodaeth,
(iii) yn cynnwys dolen i https://www.gov.uk/provide-journey-contact-details-before-travel-uk,
(iv) yn hysbysu P am y gofyniad i feddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol yn unol â rheoliad 6A o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, a
(v) yn hysbysu P am y gofyniad i drefnu profion cyn cyrraedd Cymru yn unol â rheoliad 6AB o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol;”.
RHAN 5 Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020
Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020
18 
Yn rheoliad 16A(12) (mesurau penodol sy’n gymwys i fangreoedd lle y darperir cerddoriaeth ar gyfer dawnsio neu lle y cynhelir digwyddiadau penodedig) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020, yn y lleoedd priodol mewnosoder—“
 Angola”“
 Anguilla”“
 Ardaloedd Safleoedd Sofran Akrotiri a Dhekelia ar Ynys Cyprus”“
 Yr Ariannin”“
 Armenia”“
 Azerbaijan”“
 Belize”“
 Bermuda”“
 Botswana”“
 Cambodia”“
 Costa Rica”“
 De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De”“
 Djibouti”“
 Eswatini”“
 Gibraltar”“
 Guernsey”“
 Guyana”“
 Honduras”“
 Jersey”“
 Lesotho”“
 Libanus”“
 Madagascar”“
 Mauritius”“
 Mongolia”“
 Montserrat”“
 Nepal”“
 Panama”“
 Periw”“
 Rwanda”“
 Seychelles”“
 Sierra Leone”“
 Sri Lanka”“
 St Helena, Ascension a Tristan da Cunha”“
 Suriname”“
 Tanzania”“
 Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig”“
 Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India”“
 Tiriogaethau Meddianedig Palesteina”“
 Trinidad a Tobago”“
 Tunisia”“
 Uganda”“
 Uruguay”“
 Ynys Manaw”“
 Ynysoedd Cayman”“
 Ynysoedd Falkland”“
 Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno”“
 Ynysoedd Prydeinig y Wyryf”“
 Ynysoedd Turks a Caicos”.
Eluned Morgan
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
Am 4.25 p.m. ar 29 Hydref 2021