
2021 Rhif 1204 (Cy. 301)
Ardrethu A Phrisio, Cymru
Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Cymru) (Coronafeirws) 2021
Gwnaed 28 Hydref 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru am 11.00 a.m. ar 1 Tachwedd 2021
Yn dod i rym am 6.00 p.m. ar 1 Tachwedd 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 143(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, a pharagraff 2(8) o Atodlen 6 iddi, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Cymru) (Coronafeirws) 2021 a deuant i rym am 6.00 p.m. ar 1 Tachwedd 2021.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Prisio hereditamentau
2 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i hereditament y byddai’r gwerth ardrethol a ddangosir ar restr 2017 ar gyfer yr hereditament hwnnw, oni bai am y Rheoliadau hyn, yn cael ei effeithio o ganlyniad i—
(a) naill ai priod ymateb Llywodraeth Cymru neu ymateb Llywodraeth y DU i’r coronafeirws, neu ymateb y ddwy Lywodraeth iddo;
(b) unrhyw ofyniad, cyngor neu ganllawiau gan—
(i) awdurdod cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig;
(ii) Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon neu Lywodraeth y DU;
(iii) llywodraeth gwlad neu diriogaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig;
er mwyn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i fynychder a lledaeniad y coronafeirws;
(c) mesurau a gymerir gan unrhyw berson i sicrhau cydymffurfedd â deddfwriaeth iechyd a diogelwch.
(2) At ddibenion canfod gwerth ardrethol hereditament y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo ar gyfer unrhyw ddiwrnod ar 1 Tachwedd 2021 neu ar ôl hynny, wrth gymhwyso darpariaethau is-baragraffau (1) i (7) o baragraff 2 o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 rhaid rhagdybio’r canlynol—
(a) ar y diwrnod hwnnw nad oedd yr ymateb, y gofyniad, y cyngor neu’r canllawiau y cyfeirir atynt yn rheoliad 2(1)(a) a (b) wedi digwydd, a
(b) y mesurau sy’n angenrheidiol i sicrhau cydymffurfedd â deddfwriaeth iechyd a diogelwch yw’r mesurau a oedd yn angenrheidiol ar 1 Ebrill 2015 i gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth honno.
(3) Yn y rheoliad hwn—
 ystyr “awdurdod cyhoeddus” (“public authority”) yw person â swyddogaethau o natur gyhoeddus;
 ystyr “y coronafeirws” (“coronavirus”) yw coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2);
 mae i “deddfwriaeth iechyd a diogelwch” (“health and safety legislation”) yr un ystyr â’r diffiniad o “the relevant statutory provisions” yn adran 53 o Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc. 1974;
 mae i “hereditament” yr ystyr a roddir i “hereditament” yn adran 64 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988;
 ystyr “rhestr 2017” (“2017 list”) yw rhestr ardrethu annomestig leol neu ganolog a luniwyd ar 1 Ebrill 2017;
 ystyr “ymateb Llywodraeth Cymru” (“Welsh Government response”) yw—
(a) Deddf y Coronafeirws 2020 neu unrhyw beth a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan neu yn rhinwedd y Ddeddf honno;
(b) unrhyw—
(i) rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 45C(1) i (4), 45F(2) neu 45P o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984;
(ii) deddfiadau eraill a wnaed, neu unrhyw beth a wnaed o dan neu yn rhinwedd deddfiad a wnaed, gan Weinidogion Cymru;
(iii) canllawiau neu gyngor a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru;
 er mwyn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i fynychder a lledaeniad y coronafeirws;
 ystyr “ymateb Llywodraeth y DU” (“UK Government response”) yw—
(a) Deddf y Coronafeirws 2020 neu unrhyw beth a wnaed gan Lywodraeth y DU o dan neu yn rhinwedd y Ddeddf honno;
(b) unrhyw—
(i) rheoliadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 45C(1), (3)(c), (4)(d), 45F(2) neu 45P o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984;
(ii) deddfiadau eraill a wnaed, neu unrhyw beth a wnaed o dan neu yn rhinwedd deddfiad a wnaed, gan Lywodraeth y DU;
(iii) canllawiau neu gyngor a ddyroddwyd gan Lywodraeth y DU;
 er mwyn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i fynychder a lledaeniad y coronafeirws.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
28 Hydref 2021