
2021 Rhif 12 (Cy. 5)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) (Coronafeirws) 2021
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed 6 Ionawr 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 8 Ionawr 2021
Coming into force 11 Ionawr 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45C(1), (2), (3)(c) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) (Coronafeirws) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 11 Ionawr 2021.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(4) Yn y Rheoliadau hyn, mae i “tŷ annedd” yr un ystyr ag a roddir i “dwelling-house” yn Neddf Tai 1985, Deddf Tai 1988 neu Ddeddf Rhenti 1977, yn ôl y digwydd.
Tenantiaethau preswyl (gwarchodaeth rhag troi allan)
2 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), ni chaiff unrhyw berson fod yn bresennol mewn tŷ annedd at ddiben—
(a) gweithredu gwrit neu warant meddiant,
(b) gweithredu gwrit neu warant adfer, neu
(c) danfon hysbysiad troi allan.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys pan fo’r llys wedi ei fodloni bod y writ, y warant neu’r hysbysiad yn ymwneud â gorchymyn meddiant a wneir—
(a) yn erbyn tresmaswyr yn unol â hawliad y mae rheol 55.6 (cyflwyno hawliadau yn erbyn tresmaswyr) o Reolau’r Drefniadaeth Sifil 1998 yn gymwys iddo,
(b) yn llwyr neu’n rhannol o dan adran 84A (sail absoliwt ar gyfer meddiannu am ymddygiad gwrthgymdeithasol) o Ddeddf Tai 1985,
(c) yn llwyr neu’n rhannol ar Sail 2 neu Sail 2A yn Atodlen 2 (seiliau ar gyfer meddiannu tai annedd sy’n cael eu gosod o dan denantiaethau diogel) i Ddeddf Tai 1985,
(d) yn llwyr neu’n rhannol ar Sail 7A, Sail 14 neu Sail 14A yn Atodlen 2 (seiliau ar gyfer meddiannu tai annedd sy’n cael eu gosod o dan denantiaethau sicr) i Ddeddf Tai 1988,
(e) yn llwyr neu’n rhannol ar Sail 7 (sail ar gyfer meddiannu pan fo tenant yn marw ac na cheir hawl olyniaeth) yn Atodlen 2 i Ddeddf Tai 1988, neu
(f) yn llwyr neu’n rhannol o dan Achos 2 o Atodlen 15 (sail ar gyfer meddiannu tai annedd sy’n cael eu gosod o dan denantiaethau gwarchodedig neu statudol, neu sy’n ddarostyngedig iddynt) i Ddeddf Rhenti 1977.
(3) Pan fo paragraff (2)(e) yn gymwys, rhaid i’r person sy’n bresennol yn y tŷ annedd gymryd camau rhesymol i’w fodloni ei hun nad yw’r tŷ annedd wedi ei feddiannu cyn cyflawni’r materion hynny a nodir ym mharagraff (1)(a), (b) neu (c).
Adolygu a dod i ben
3 

(1) Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r angen am y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn, a pha un a yw’r cyfyngiadau hynny yn gymesur â’r hyn y mae Gweinidogion Cymru yn ceisio ei gyflawni drwyddynt—
(a) o leiaf unwaith yn y cyfnod o 11 Ionawr 2021 i 28 Ionawr 2021;
(b) o leiaf unwaith ym mhob cyfnod dilynol o 21 o ddiwrnodau.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i ben ar ddiwedd y dydd ar 31 Mawrth 2021.
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
6 Ionawr 2021