
2021 Rhif 1180 (Cy. 291)
Landlord A Thenant, Cymru
Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) (Rhif 2) 2021
Gwnaed 22 Hydref 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 26 Hydref 2021
Yn dod i rym 1 Rhagfyr 2021
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 4 o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enwi, cymhwyso, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) (Rhif 2) 2021, mae’n gymwys o ran Cymru, a daw i rym ar 1 Rhagfyr 2021.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “ardal lai ffafriol” (“less favoured area”) yw unrhyw ardal o dir dan anfantais neu dir dan anfantais ddifrifol;mae i “hectar cymwys” yr un ystyr ag a roddir i “eligible hectare” yn Erthygl 32(2) o Reoliad 1307/2013;ystyr “mapiau dynodedig” (“designated maps”) yw’r ddwy gyfrol o fapiau dyddiedig 20 Mai 1991, sydd wedi eu rhifo 1 a 2; y naill gyfrol a’r llall wedi eu marcio â “Volume of maps of less favoured farming areas in Wales” ac â rhif y gyfrol, ac sydd wedi eu llofnodi gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru a’u hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ;ystyr “Rheoliad 1307/2013” (“Regulation 1307/2013”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1307/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 sy’n gosod rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin, fel y mae’n cael effaith yng nghyfraith yr UE;ystyr “tir dan anfantais” (“disadvantaged land”) (ac eithrio yn yr ymadrodd “tir dan anfantais ddifrifol”) yw unrhyw ardal o dir sydd wedi ei lliwio’n las ar y mapiau dynodedig;ystyr “tir dan anfantais ddifrifol” (“severely disadvantaged land”) yw unrhyw ardal o dir sydd wedi ei lliwio’n binc ar y mapiau dynodedig.
Asesu gallu cynhyrchiol tir
2 

(1) Mae paragraffau (2) a (3) yn cael effaith at y diben o asesu gallu cynhyrchiol uned o dir amaethyddol a leolir yng Nghymru, er mwyn penderfynu a yw’r uned honno yn uned fasnachol o dir amaethyddol o fewn yr ystyr a roddir i “commercial unit of agricultural land” ym mharagraff 3(1) o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986.
(2) Os gellir defnyddio’r tir dan sylw, pan gaiff ei ffermio o dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu unrhyw dda byw, cnwd âr fferm, cnwd garddwriaethol yn yr awyr agored neu ffrwythau fel a grybwyllir yn unrhyw un o gofnodion 1 i 3 yng ngholofn 1 o’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn, yna—
(a) yr uned gynhyrchu a ragnodir mewn perthynas â’r defnydd hwnnw o’r tir yw’r uned yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2, a
(b) y swm a bennir, ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â 12 Medi 2020, fel yr incwm blynyddol net o’r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw yw’r swm yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 3, fel y’i darllenir ynghyd ag unrhyw nodyn perthnasol i’r Atodlen honno.
(3) Os oedd tir sy’n gallu cynhyrchu incwm blynyddol net, pan gaiff ei ffermio o dan reolaeth gymwys, yn hectar cymwys yn 2019 yn unol â chofnod 4 yng ngholofn 1 o’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn, yna—
(a) yr uned gynhyrchu a ragnodir mewn perthynas â’r defnydd hwnnw o’r tir yw’r uned yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2, a
(b) y swm a bennir, ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â 12 Medi 2020, fel yr incwm blynyddol net o’r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw yw’r swm yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 3.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
22 Hydref 2021
YR ATODLEN
Unedau cynhyrchu rhagnodedig a phennu incwm blynyddol net
Erthygl 2


colofn 1 colofn 2 colofn 3
Defnydd ffermio Uned gynhyrchu Incwm blynyddol net o’r uned gynhyrchu (£)
1. Da byw
Buchod godro buwch 587.00
Buchod bridio cig eidion: ar dir mewn ardal lai ffafriol buwch -174.00
ar dir arall buwch -239.00
Gwartheg pesgi cig eidion (lled-arddwys) y pen -178.00
Buchod llaeth i lenwi bylchau y pen 99.00
Mamogiaid: ar dir mewn ardal lai ffafriol mamog -31.00
ar dir arall mamog -0.50
Ŵyn stôr (gan gynnwys ŵyn benyw a werthir fel hesbinod) y pen 5.00
Moch: hychod a banwesod torrog hwch neu fanwes 304.00
moch porc y pen 9.70
moch torri y pen 13.10
moch bacwn y pen 15.70
Dofednod: ieir dodwy aderyn 3.80
brwyliaid aderyn 0.40
cywennod ar ddodwy aderyn 0.70
Tyrcwn Nadolig aderyn 7.70
2. Cnydau âr fferm
Haidd hectar 144.00
Ffa hectar 179.00
Rêp had olew hectar 83.00
Pys sych hectar 550.00
Tatws: cynnar cyntaf hectar 3,690.00
prif gnwd (gan gynnwys hadyd) hectar 3,390.00
Betys siwgr hectar 410.00
Gwenith hectar 260.00
3. Cnydau garddwriaethol awyr agored a ffrwythau
Ffrwythau’r berllan hectar 3,170.00
Ffrwythau meddal hectar 15,370.00
4. Hectarau cymwys
Tir a oedd, yn 2019, yn hectar cymwys at ddibenion Rheoliad 1307/2013 tir dan anfantais ddifrifol hectar 125.71
tir dan anfantais hectar 125.34
pob tir arall hectar 46.09
