
2021 Rhif 118 (Cy. 31)
Ardrethu A Phrisio, Cymru
Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo Heb ei Feddiannu) (Cymru) (Diwygio) 2021
Gwnaed 3 Chwefror 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 4 Chwefror 2021
Yn dod i rym 1 Ebrill 2022
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 45(1)(d), (9) a (10) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ac a freinir bellach ynddynt hwy.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo Heb ei Feddiannu) (Cymru) (Diwygio) 2021 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2022.
Diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo Heb ei Feddiannu) (Cymru) 2008
2 
Yn rheoliad 5 o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo Heb ei Feddiannu) (Cymru) 2008, yn lle “chwe wythnos” rhodder “26 wythnos”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
3 Chwefror 2021