
2021 Rhif 1161 (Cy. 286)
Llywodraeth Leol, Cymru
Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (Trefniadau Etholiadol) 2021
Gwnaed 18 Hydref 2021
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)

Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, yn unol ag adran 36(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (“Deddf 2013”), wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru adroddiad dyddiedig Ebrill 2019 yn cynnwys ei argymhellion ar gyfer newid a manylion ei adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.
Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried y materion y cyfeirir atynt ac a nodir yn adran 37(2)(a) ac (c) o Ddeddf 2013, wedi penderfynu rhoi effaith i’r argymhellion hynny gydag addasiad.
Yn unol ag adran 37(3) o Ddeddf 2013, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pwerau a roddir gan adran 37(1) o Ddeddf 2013.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (Trefniadau Etholiadol) 2021.
(2) At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym drennydd y diwrnod y’i gwneir.
(3) At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976;
 ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent;
 mae unrhyw gyfeiriad at fap yn golygu un o’r 2 fap a farciwyd “Map ar gyfer Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (Trefniadau Etholiadol) 2021” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau, a labelwyd “1” a “2”, ac mae cyfeiriad at fap â rhif yn gyfeiriad at y map sy’n dwyn y rhif hwnnw;
 pan ddangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;
 mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.
Trefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
3 

(1) Mae wardiau etholiadol Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.
(2) Mae Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent wedi ei rhannu’n 14 o wardiau etholiadol, a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(3) Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(4) Nifer yr aelodau o’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(5) Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Dileu cymuned Cendl, a chreu cymunedau Cendl a Garnlydan
4 

(1) Mae cymuned Cendl, fel y mae’n bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi ei dileu.
(2) Mae’r cymunedau a ganlyn wedi eu creu—
(a) cymuned Cendl a ddangosir â llinellau ar Fap 1;
(b) cymuned Garnlydan a ddangosir â llinellau ar Fap 2.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
18 Hydref 2021
YR ATODLEN
ENWAU AC ARDALOEDD WARDIAU ETHOLIADOL A NIFER AELODAU’R CYNGOR
Erthygl 3


Tabl
Colofn (1) Colofn (2) Colofn (3) Colofn (4)
Enw Saesneg y ward etholiadol Enw Cymraeg y ward etholiadol Ardal y ward etholiadol Nifer aelodau’r cyngor
Abertillery and Six Bells Abertyleri a Six Bells Wardiau Abertyleri a Six Bells o gymuned Abertyleri 3
Beaufort Cendl Cymunedau Cendl a Badminton 3
Blaina Blaenau Ward Blaenau o gymuned Nant-y-glo a Blaenau 2
Brynmawr Bryn-mawr Cymuned Bryn-mawr 3
Cwm Cwm Cymuned Cwm 2
Cwmtillery Cwmtyleri Ward Cwmtyleri o gymuned Abertyleri 2
Ebbw Vale North Gogledd Glynebwy Cymuned Gogledd Glynebwy 2
Ebbw Vale South De Glynebwy Cymuned De Glynebwy 2
Georgetown Georgetown Ward Georgetown o gymuned Tredegar 2
Llanhilleth Llanhiledd Cymuned Llanhiledd 2
Nantyglo Nant-y-glo Ward Nant-y-glo o gymuned Nant-y-glo a Blaenau 2
Rassau and Garnlydan Rasa a Garnlydan Cymunedau Rasa a Garnlydan 2
Sirhowy Sirhywi Ward Sirhywi o gymuned Tredegar 3
Tredegar Tredegar Ward Canol Tredegar a Gorllewin Tredegar o gymuned Tredegar 3