
2021 Rhif 1160 (Cy. 285)
Llywodraeth Leol, Cymru
Gorchymyn Dinas a Sir Caerdydd (Trefniadau Etholiadol) 2021
Gwnaed 18 Hydref 2021
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)

Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, yn unol ag adran 36(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (“Deddf 2013”), wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru adroddiad dyddiedig Tachwedd 2020 yn cynnwys ei argymhellion ar gyfer newid a manylion ei adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer Dinas a Sir Caerdydd.
Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried y materion y cyfeirir atynt ac a nodir yn adran 37(2)(a) ac (c) o Ddeddf 2013, wedi penderfynu rhoi effaith i’r argymhellion hynny gydag addasiadau.
Yn unol ag adran 37(3) o Ddeddf 2013, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pwerau a roddir gan adran 37(1) o Ddeddf 2013.
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dinas a Sir Caerdydd (Trefniadau Etholiadol) 2021.
(2) At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o Reoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976, daw’r Gorchymyn hwn i rym drennydd y diwrnod y’i gwneir.
(3) At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022.
(4) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Sir Caerdydd;
 mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.
Trefniadau etholiadol ar gyfer Dinas a Sir Caerdydd
2 

(1) Mae wardiau etholiadol Dinas a Sir Caerdydd, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.
(2) Mae Dinas a Sir Caerdydd wedi ei rhannu’n 28 o wardiau etholiadol, a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(3) Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(4) Nifer yr aelodau o’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(5) Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
18 Hydref 2021
YR ATODLEN
ENWAU AC ARDALOEDD WARDIAU ETHOLIADOL A NIFER AELODAU’R CYNGOR
Erthygl 2


Tabl
Colofn (1) Colofn (2) Colofn (3) Colofn (4)
Enw Saesneg y ward etholiadol Enw Cymraeg y ward etholiadol Ardal y ward etholiadol Nifer aelodau’r cyngor
Adamsdown Adamsdown Cymuned Adamsdown 2
Butetown Butetown Cymuned Butetown 3
Caerau Caerau Cymuned Caerau 2
Canton Treganna Cymuned Treganna 3
Cathays Cathays Cymunedau Cathays a’r Castell 4
Cyncoed Cyncoed Cymuned Cyncoed 3
Ely Trelái Cymuned Trelái 3
Fairwater Y Tyllgoed Cymuned y Tyllgoed 3
Gabalfa Gabalfa Cymuned Gabalfa 2
Grangetown Grangetown Cymuned Grangetown 4
Heath Y Mynydd Bychan Cymuned y Mynydd Bychan 3
Lisvane and Thornhill Llys-faen a’r Ddraenen Cymunedau Llys-faen a’r Ddraenen 3
Llandaff Llandaf Cymuned Llandaf 2
Llandaff North Ystum Taf Cymuned Ystum Taf 2
Llanishen Llanisien Cymuned Llanisien 2
Llanrumney Llanrhymni Cymuned Llanrhymni 3
Pentwyn Pentwyn Cymunedau Llanedern a Phentwyn 3
Pentyrch and St Fagans Pentyrch a Sain Ffagan Cymunedau Pentyrch a Sain Ffagan 3
Penylan Pen-y-lan Cymuned Pen-y-lan 3
Plasnewydd Plasnewydd Cymuned y Rhath 4
Pontprennau and Old St Mellons Pontprennau a Phentref Llaneirwg Cymunedau Pontprennau a Phentref Llaneirwg 2
Radyr Radur Cymuned Radur a Phentre-poeth 2
Rhiwbina Rhiwbeina Cymuned Rhiwbeina 3
Riverside Glanyrafon Cymunedau Pontcanna a Glanyrafon 3
Rumney Tredelerch Cymuned Tredelerch 2
Splott Y Sblot Cymunedau’r Sblot a Thremorfa 3
Trowbridge Trowbridge Cymuned Trowbridge 3
Whitchurch and Tongwynlais Yr Eglwys Newydd a Thongwynlais Cymunedau’r Eglwys Newydd a Thongwynlais 4