
2021 Rhif 1139 (Cy. 276)
Llywodraeth Leol, Cymru
Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Torfaen (Trefniadau Etholiadol) 2021
Gwnaed 11 Hydref 2021
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)

Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, yn unol ag adran 36(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (“Deddf 2013”), wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru adroddiad dyddiedig Tachwedd 2018 yn cynnwys ei argymhellion ar gyfer newid a manylion ei adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Torfaen.
Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried y materion y cyfeirir atynt ac a nodir yn adran 37(2)(a) ac (c) o Ddeddf 2013, wedi penderfynu rhoi effaith i’r argymhellion hynny gydag addasiad.
Yn unol ag adran 37(3) o Ddeddf 2013, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pwerau a roddir gan adran 37(1) o Ddeddf 2013.
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Torfaen (Trefniadau Etholiadol) 2021.
(2) At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o Reoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976, daw’r Gorchymyn hwn i rym drennydd y diwrnod y’i gwneir.
(3) At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022.
(4) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen;
 mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag a roddir iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.
Trefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Torfaen
2 

(1) Mae wardiau etholiadol Bwrdeistref Sirol Torfaen, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.
(2) Mae Bwrdeistref Sirol Torfaen wedi ei rhannu’n 18 o wardiau etholiadol, a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(3) Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(4) Nifer aelodau’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(5) Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
11 Hydref 2021
YR ATODLEN
ENWAU AC ARDALOEDD WARDIAU ETHOLIADOL A NIFER AELODAU’R CYNGOR
Erthygl 2


Tabl
Colofn (1) Colofn (2) Colofn (3) Colofn (4)
Enw Saesneg y ward etholiadol Enw Cymraeg y ward etholiadol Ardal y ward etholiadol Nifer aelodau’r cyngor
Abersychan Abersychan Cymuned Abersychan 3
Blaenavon Blaenafon Cymuned Blaenafon 3
Coed Eva Coed Efa Ward Coed Efa o gymuned Fairwater 1
Croesyceiliog Croesyceiliog Cymuned Croesyceiliog 2
Fairwater Fairwater Wardiau Fairwater a Thŷ-canol o gymuned Fairwater 2
Greenmeadow Greenmeadow Ward Greenmeadow o gymuned Fairwater 1
Llanfrechfa and Ponthir Llanfrechfa a Phont-hir Cymuned Pont-hir a ward Dwyrain Llanyrafon o gymuned Llanyrafon 1
Llantarnam Llantarnam Cymuned Llantarnam a ward Southville o gymuned Canol Cwmbrân 3
Llanyrafon Llanyrafon Ward Gorllewin Llanyrafon o gymuned Llanyrafon 1
New Inn New Inn Cymuned New Inn 3
Panteg Pant-teg Cymuned Pant-teg 3
Pontnewydd Pontnewydd Cymuned Pontnewydd a ward Northville o gymuned Canol Cwmbrân 3
Pontnewynydd and Snatchwood Pontnewynydd a Snatchwood Wardiau Pontnewynydd a Snatchwood o gymuned Pen Transh 2
Pontypool Fawr Pont-y-pŵl Fawr Cymuned Pont-y-moel a ward Waunfelin o gymuned Pen Transh 3
St. Dials St. Dials Ward St. Dials o gymuned Canol Cwmbrân 2
Trevethin and Penygarn Trefddyn a Phen-y-garn Cymuned Trefddyn 2
Two Locks Two Locks Cymuned Henllys a ward Two Locks o gymuned Canol Cwmbrân 3
Upper Cwmbran Cwmbrân Uchaf Cymuned Cwmbrân Uchaf 2