
2021 Rhif 1131 (Cy. 274)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 18) 2021
Gwnaed am 1.40 p.m. ar 8 Hydref 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru am 5.00 p.m. ar 8 Hydref 2021
Yn dod i rym 9 Hydref 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45Q(3) o’r Ddeddf honno mae Gweinidogion Cymru o’r farn nad yw’r offeryn yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth a wneir yn rhinwedd adran 45C(3)(c) o’r Ddeddf sy’n gosod neu’n galluogi gosod cyfyngiad neu ofyniad arbennig, neu unrhyw gyfyngiad neu ofyniad arall sy’n cael neu a fyddai’n cael effaith sylweddol ar hawliau person.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 18) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 9 Hydref 2021.
Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020
2 

(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 10—
(a) ym mharagraff (2)—
(i) ar ôl is-baragraff (d) mewnosoder—“
(da) galluogi’r person i geisio atal salwch, anaf neu risg arall o niwed i berson arall (“A”)—
(i) pan na fo’n bosibl neu pan na fo’n ymarferol i rywun arall gynorthwyo A,
(ii) pan na fo’r person yn cynorthwyo A fel rhan o waith y person na thrwy ddarparu gwasanaethau gwirfoddol, a
(iii) pan fo’r risg o niwed i A o fod yn yr un man â’r person yn llai na’r risg o niwed i A y mae’r person yn ceisio ei atal;”;
(ii) yn lle paragraff (h) rhodder—“
(h) symud i fan gwahanol i fyw—
(i) pan fo’n mynd yn anymarferol aros yn y man lle y mae’r person yn byw, neu
(ii) er mwyn atal salwch i berson arall sy’n byw yn y man lle y mae’r person yn byw;”;
(b) ar ôl paragraff (6) mewnosoder—“
(6A) Caiff swyddog olrhain cysylltiadau, at ddibenion penderfynu pa un ai i ofyn am dystiolaeth oddi wrth berson yn unol â pharagraff (5)(b) neu (6)(b), gael a defnyddio gwybodaeth ynghylch a yw person—
(a) wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn awdurdodedig;
(b) wedi cymryd rhan mewn, neu yn cymryd rhan mewn, treial clinigol o frechlyn ar gyfer brechu yn erbyn y coronafeirws a gynhaliwyd neu a gynhelir yn y Deyrnas Unedig yn unol â gofynion Rheoliadau Meddyginiaethau i’w Defnyddio gan Bobl (Treialon Clinigol) 2004.”
(3) Hepgorer rheoliad 10A.
(4) Yn rheoliad 14—
(a) ym mharagraff (2), o flaen is-baragraff (b) mewnosoder—“
(ab) gwybodaeth ynghylch a yw person—
(i) wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn awdurdodedig;
(ii) wedi cymryd rhan mewn, neu yn cymryd rhan mewn, treial clinigol o frechlyn ar gyfer brechu yn erbyn y coronafeirws a gynhaliwyd neu a gynhelir yn y Deyrnas Unedig yn unol â gofynion Rheoliadau Meddyginiaethau i’w Defnyddio gan Bobl (Treialon Clinigol) 2004;”;
(b) yn lle paragraff (8) rhodder—“
(8) Yn y rheoliad hwn—
(a) mae i “brechlyn awdurdodedig” a “treial clinigol” yr un ystyron ag yn rheoliad 10;
(b) mae i “data personol” a “deddfwriaeth diogelu data” yr un ystyron â “personal data” a “data protection legislation” yn adran 3 o Ddeddf Diogelu Data 2018.”
(5) Yn rheoliad 57(9), yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), hepgorer “rheoleiddiedig”.
Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2021
3 

(1) Yn rheoliad 2(2) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2021, mae’r rheoliad 16A sydd i’w fewnosod ar ôl rheoliad 16 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl paragraff (5) mewnosoder—“
(5A) At ddibenion paragraff (2)(c), mae person sy’n cymryd rhan mewn gwasanaeth crefyddol mewn mangre a ddefnyddir fel arfer fel addoldy i’w drin fel pe bai’n eistedd fel arfer.”
(3) Ym mharagraff (6)—
(a) yn is-baragraff (b), yn y testun Saesneg, ar ôl “in relation to” mewnosoder “a”;
(b) yn is-baragraff (c)—
(i) yn lle “neu gerdyn” rhodder “, cerdyn”;
(ii) ar ôl “Canolfannau Rheoli ac Atal Clefydau” mewnosoder “, neu dystysgrif brechlyn sy’n ymwneud â’r person”.
(4) Ym mharagraff (8), yn lle “person wedi cael cwrs o ddosau o frechlyn” rhodder “dosau wedi eu gweinyddu”.
(5) Ym mharagraff (9)—
(a) yn is-baragraff (b)—
(i) ar y dechrau mewnosoder “mewn perthynas â chwrs o ddosau a weinyddir yn y Deyrnas Unedig neu mewn gwlad berthnasol,”;
(ii) yn lle “cwblhau” rhodder “cwblhau’r”;
(iii) yn y geiriau agoriadol, daw’r geiriau o “os yw’r person” hyd at y diwedd yn baragraff (i) o’r is-baragraff hwnnw;
(iv) daw’r paragraff (i) presennol yn is-baragraff (aa);
(v) daw’r paragraff (ii) presennol yn is-baragraff (bb);
(vi) ar ddiwedd is-baragraff (bb) fel y’i hailrifir mewnosoder “, neu”;
(vii) ar ôl is-baragraff (bb) fel y’i hailrifir mewnosoder—“
(ii) os yw’r person wedi cael dos o un brechlyn awdurdodedig a dos o frechlyn awdurdodedig gwahanol; ”;
(b) ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—“
(c) mewn perthynas â chwrs o ddosau a weinyddir o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor, mae person wedi cwblhau’r cwrs o ddosau—
(i) os yw’r person wedi cael y cwrs cyflawn o ddosau o’r brechlyn fel y’i pennir yng nghanllawiau’r gweithgynhyrchydd ar gyfer y brechlyn hwnnw, neu
(ii) os yw’r person wedi cael dos o un brechlyn a dos o frechlyn gwahanol.”
(6) Ym mharagraff (10)—
(a) yn is-baragraff (a)—
(i) ym mharagraff (i), ar ôl “Deyrnas Unedig” mewnosoder “neu mewn gwlad berthnasol a restrir ym mharagraff (12)”;
(ii) ym mharagraff (ii), ar ôl “gwlad berthnasol” mewnosoder “a restrir yng ngholofn gyntaf y tabl ym mharagraff (11)”;
(b) yn is-baragraff (c)(ii), ar ôl “gwlad berthnasol” mewnosoder “a restrir yng ngholofn gyntaf y tabl ym mharagraff (11)”;
(c) yn is-baragraff (d), ar ôl “mharagraff (11)” mewnosoder “neu wlad neu diriogaeth a restrir ym mharagraff (12)”;
(d) ar ôl is-baragraff (f) mewnosoder—“
(g) ystyr “tystysgrif brechlyn” yw tystysgrif mewn Saesneg, Ffrangeg neu Sbaeneg a ddyroddir gan awdurdod iechyd cymwys Awstralia, Canada neu wlad berthnasol a restrir ym mharagraff (12) sy’n cynnwys—
(i) enw llawn y person;
(ii) dyddiad geni’r person;
(iii) enw a gweithgynhyrchydd y brechlyn y mae’r person wedi ei gael;
(iv) y dyddiad y cafodd y person bob dos o’r brechlyn;
(v) manylion ynghylch naill ai pwy yw dyroddwr y dystysgrif neu’r wlad y rhoddwyd y brechlyn ynddi, neu’r ddau.”
(7) Ym mharagraff (11), yn y tabl, yn y lleoedd priodol mewnosoder—
(a) yn y golofn gyntaf (gwlad berthnasol) mewnosoder “Awstralia”, ac yn yr ail golofn (rheoleiddiwr perthnasol) ar yr un rhes mewnosoder “Y Weinyddiaeth Nwyddau Therapiwtig”;
(b) yn y golofn gyntaf mewnosoder “Canada”, ac yn yr ail golofn ar yr un rhes mewnosoder “Iechyd Canada”.
(8) Ar ôl paragraff (11) mewnosoder—“
(12) Y gwledydd a’r tiriogaethau y cyfeirir atynt yn y diffiniad o “gwlad berthnasol” yw—
 Yr Aifft
 Albania
 Antigua a Barbuda
 Y Bahamas
 Bahrain
 Bangladesh
 Barbados
 Bosnia a Herzegovina
 Brasil
 Brunei
 Chile
 Colombia
 De Affrica
 De Korea
 Dominica
 Yr Emiradau Arabaidd Unedig
 Fietnam
 Georgia
 Ghana
 Gogledd Macedonia
 Grenada
 Gwlad yr Iorddonen
 Gwlad Thai
 Hong Kong
 India
 Indonesia
 Israel
 Jamaica
 Japan
 Kenya
 Kosovo
 Kuwait
 Malaysia
 Maldives
 Moldofa
 Montenegro
 Morocco
 Namibia
 Nigeria
 Oman
 Pacistan
 Qatar
 Saudi Arabia
 Seland Newydd
 Serbia
 Singapore
 St Kitts a Nevis
 St Lucia
 St Vincent a’r Grenadines
 Taiwan
 Twrci
 Wcrain
 Ynysoedd Philippines”.
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
Am 1.40 p.m. ar 8 Hydref 2021