
2021 Rhif 1126 (Cy. 273)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) 2021
Gwnaed am 3.58 p.m. ar 8 Hydref 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru am 6.00 p.m. ar 8 Hydref 2021
Yn dod i rym am 4.00 a.m. ar 11 Hydref 2021
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 11 Hydref 2021.
Diwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020
2 
Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
Diwygiadau i reoliad 2A
3 

(1) Mae rheoliad 2A (esemptiadau ar gyfer teithwyr sydd wedi eu brechu ac eraill) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (3)—
(a) yn is-baragraff (ba), ar y diwedd mewnosoder “oni bai bod P yn gallu darparu prawf drwy bàs COVID y GIG”;
(b) yn is-baragraff (d), ar y diwedd mewnosoder “ac eithrio pan fo P yn berson a ddisgrifir yn rheoliad 4(2)”.
(3) Ym mharagraff (10), yn y diffiniad o “tystysgrif brechlyn”, ar ôl “gwlad berthnasol”, mewnosoder “, ac eithrio gwlad neu diriogaeth Ewropeaidd a restrir yn y tabl ym mharagraff (11) neu Unol Daleithiau America,”.
(4) Ym mharagraff (12), yn y lleoedd priodol mewnosoder—“
 Yr Aifft”“
 Albania”“
 Y Bahamas”“
 Bangladesh”“
 Bosnia a Herzegovina”“
 Brasil”“
 Chile”“
 Colombia”“
 De Affrica”“
 Fietnam”“
 Georgia”“
 Ghana”“
 Gogledd Macedonia”“
 Grenada”“
 Gwlad yr Iorddonen”“
 Gwlad Thai”“
 Hong Kong”“
 India”“
 Indonesia”“
 Jamaica”“
 Kenya”“
 Kosovo”“
 Maldives”“
 Moldofa”“
 Montenegro”“
 Morocco”“
 Namibia”“
 Nigeria”“
 Oman”“
 Pacistan”“
 Serbia”“
 St Kitts a Nevis”“
 St Lucia”“
 St Vincent a’r Grenadines”“
 Twrci”“
 Wcrain”“
 Ynysoedd Philippines”.
(5) Ar ôl paragraff (12) mewnosoder—“
(13) Pan fo cwrs o ddosau o frechlyn awdurdodedig wedi ei weinyddu i berson (“P”) gan berson sy’n gweithredu ar ran y Cenhedloedd Unedig ac sydd wedi ei awdurdodi i weinyddu’r brechlyn yn y rhinwedd honno, mae P i’w drin fel pe bai wedi cael y dosau hynny mewn gwlad berthnasol a restrir ym mharagraff (12), ac mae unrhyw gyfeiriad at berson o wlad berthnasol yn y Rheoliadau hyn i’w ddehongli yn unol â hynny.”.
Diwygiad i reoliad 6A
4 
Yn rheoliad 6A(5)(b) (gofyniad i feddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol), yn lle’r geiriau ar ôl “yn ddilys” rhodder—“—
(i) os yw wedi ei ddarparu drwy Dystysgrif COVID Ddigidol yr UE, neu
(ii) os yw’n cynnwys yr wybodaeth a bennir ym mharagraff 2 o Atodlen 1A.”.
Diwygiadau i Atodlen 3A
5 
Yn Atodlen 3A (gwledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol) hepgorer—“
 Affganistan”“
 Yr Ariannin”“
 Bolivia”“
 Brasil”“
 Chile”“
 Costa Rica”“
 Cuba”“
 Eritrea”“
 Ethiopia”“
 Georgia”“
 Guiana Ffrengig”“
 Guyana”“
 Gweriniaeth Angola”“
 Gweriniaeth Botswana”“
 Gweriniaeth Burundi”“
 Gweriniaeth Cabo Verde”“
 Gweriniaeth De Affrica”“
 Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo”“
 Gweriniaeth Malaŵi”“
 Gweriniaeth Mozambique”“
 Gweriniaeth Namibia”“
 Gweriniaeth Rwanda”“
 Gweriniaeth Seychelles”“
 Gweriniaeth Unedig Tanzania”“
 Gweriniaeth Zambia”“
 Gweriniaeth Zimbabwe”“
 Gwlad Thai”“
 Indonesia”“
 Mayotte”“
 Mecsico”“
 Mongolia”“
 Montenegro”“
 Myanmar”“
 Nepal”“
 Paraguay”“
 Réunion”“
 Sierra Leone”“
 Somalia”“
 Sudan”“
 Suriname”“
 Teyrnas Eswatini”“
 Teyrnas Lesotho”“
 Trinidad a Tobago”“
 Tunisia”“
 Uganda”“
 Uruguay”“
 Ynysoedd Philippines”.
Eluned Morgan
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
Am 3.58 p.m. ar 8 Hydref 2021