
2021 Rhif 1121 (Cy. 272)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Tribiwnlys Addysg Cymru (Diwygio) 2021
Gwnaed 6 Hydref 2021
Yn dod i rym 8 Hydref 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 207(4) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a pharagraff 6(2) o Atodlen 17 iddi.

Yn unol ag adran 209(6) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tribiwnlys Addysg Cymru (Diwygio) 2021 a deuant i rym ar 8 Hydref 2021.
Diwygio Rheoliadau Tribiwnlys Addysg Cymru 2021
2 
Yn Rheoliadau Tribiwnlys Addysg Cymru 2021, yn lle rheoliad 17(2) rhodder—“
(2) Cyfnod y datganiad achos ar gyfer hawlydd yw cyfnod o 8 wythnos gan ddechrau â’r dyddiad yr ystyrir bod y gydnabyddiaeth, a roddir o dan reoliad 13(1)(b)(i), wedi ei chael yn unol â rheoliad 75(11). Mae’n cynnwys unrhyw estyniad i’r cyfnod hwnnw a orchmynnir gan y Llywydd o dan reoliad 65.”
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
6 Hydref 2021