
2021 Rhif 1112 (Cy. 267)
Llywodraeth Leol, Cymru
Gorchymyn Sir Ynys Môn (Trefniadau Etholiadol) 2021
Gwnaed 4 Hydref 2021
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)

Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, yn unol ag adran 36(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (“Deddf 2013”), wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru adroddiad dyddiedig Tachwedd 2020 yn cynnwys ei argymhellion ar gyfer newid a manylion ei adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer Sir Ynys Môn.
Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried y materion y cyfeirir atynt ac a nodir yn adran 37(2)(a) ac (c) o Ddeddf 2013, wedi penderfynu rhoi effaith i’r argymhellion hynny heb eu haddasu.
Yn unol ag adran 37(3) o Ddeddf 2013, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pwerau a roddir gan adran 37(1) o Ddeddf 2013.
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Ynys Môn (Trefniadau Etholiadol) 2021.
(2) At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o Reoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976, daw’r Gorchymyn hwn i rym drennydd y diwrnod y’i gwneir.
(3) At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022.
(4) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Sir Ynys Môn;
 mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag a roddir iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.
Trefniadau etholiadol ar gyfer Sir Ynys Môn
2 

(1) Mae wardiau etholiadol Sir Ynys Môn, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.
(2) Mae Sir Ynys Môn wedi ei rhannu’n 14 o wardiau etholiadol a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(3) Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(4) Nifer aelodau’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(5) Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
4 Hydref 2021
YR ATODLEN
ENWAU AC ARDALOEDD WARDIAU ETHOLIADOL A NIFER AELODAU’R CYNGOR
Erthygl 2


Tabl
Colofn (1) Colofn (2) Colofn (3) Colofn (4)
Enw Saesneg y ward etholiadol Enw Cymraeg y ward etholiadol Ardal y ward etholiadol Nifer aelodau’r cyngor
Aethwy Aethwy Cymunedau Llanfair Pwllgwyngyll, Porthaethwy a Phenmynydd 3
Bodowyr Bodowyr Cymunedau Llanddaniel-fab, Llanfihangel Ysgeifiog a Llanidan 2
Bro Aberffraw Bro Aberffraw Cymunedau Aberffraw, Bodorgan a Rhosyr 2
Bro’r Llynnoedd Bro’r Llynnoedd Cymunedau Bodedern, Llanfair-yn-Neubwll a’r Fali 2
Canolbarth Môn Canolbarth Môn Cymuned Bodffordd, wardiau Llanddyfnan, Llangwyllog a Thregaean o gymuned Llanddyfnan, a wardiau Cyngar a Thudur o gymuned Llangefni 3
Cefni Cefni Cymuned Llangristiolus a ward Cefni o gymuned Llangefni 2
Crigyll Crigyll Cymunedau Bryngwran, Llanfaelog a Threwalchmai 2
Lligwy Lligwy Cymunedau Llaneugrad, Llanfair Mathafarn Eithaf, Moelfre, a Phentraeth, a ward Llanfihangel Tre’r-beirdd o gymuned Llanddyfnan 3
Parc a’r Mynydd Parc a’r Mynydd Wardiau Parc a’r Mynydd a Phorthyfelin o gymuned Caergybi 2
Seiriol Seiriol Cymunedau Biwmares, Cwm Cadnant, Llanddona a Llangoed 3
Talybolion Talybolion Cymunedau Cylch-y-garn, Llannerch-y-medd, Llanfachraeth, Llanfaethlu, Mechell a Thref Alaw 3
Tref Cybi Tref Cybi Wardiau’r Dref, Lôn Llundain a Morawelon o gymuned Caergybi 2
Twrcelyn Twrcelyn Cymunedau Amlwch, Llanbadrig, Llaneilian a Rhos-y-bol 3
Ynys Gybi Ynys Gybi Cymunedau Trearddur a Rhoscolyn a wardiau Kingsland a Maeshyfryd o gymuned Caergybi 3