
2021 Rhif 1094 (Cy. 260)
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Anifeiliaid, Cymru
Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) (Rhif 3) 2021
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed 27 Medi 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 28 Medi 2021
Yn dod i rym 29 Medi 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

Mae Gweinidogion Cymru o’r farn, oherwydd brys, ei bod yn angenrheidiol gwneud y Rheoliadau hyn heb fod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) (Rhif 3) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 29 Medi 2021.
Diwygio Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011
2 

(1) Mae Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 5—
(a) ym mharagraff 5(3), yn lle “1 Hydref 2021” rhodder “1 Ionawr 2022”;
(b) ym mharagraff (6)—
(i) hepgorer is-baragraff (1)(c);
(ii) yn is-baragraff (2) hepgorer “ac (c)”.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
27 Medi 2021