
2021 Rhif 1092 (Cy. 259) (C. 63)
Diogelwch Tân, Cymru
Rheoliadau Deddf Diogelwch Tân 2021 (Cychwyn) (Cymru) 2021
Gwnaed 27 Medi 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 4(2)(b) o Ddeddf Diogelwch Tân 2021.
Enwi
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Diogelwch Tân 2021 (Cychwyn) (Cymru) 2021.
Y ddarpariaeth sy’n dod i rym ar 1 Hydref 2021
2 
Y diwrnod penodedig i adran 1 o Ddeddf Diogelwch Tân 2021 ddod i rym yw 1 Hydref 2021.
Hannah Blythyn
Y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
27 Medi 2021