
2021 Rhif 1069 (Cy. 252) (C. 61)
Addysg, Cymru
Gorchymyn Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Cychwyn Rhif 1) 2021
Gwnaed 21 Medi 2021
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 84(2), (3) a (4) o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Cychwyn Rhif 1) 2021.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 29 Medi 2021
2 
Daw adrannau 1 i 5 o’r Ddeddf i rym ar 29 Medi 2021.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 29 Medi 2021 at ddibenion dyroddi neu ddiwygio cod o dan adrannau 6 a 7 o’r Ddeddf
3 
Ni ddaw adrannau 6 a 7 o’r Ddeddf i rym ar 29 Medi 2021 ond at ddibenion dyroddi neu ddiwygio cod o dan yr adrannau hynny.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 23 Tachwedd 2021 at ddibenion dyroddi neu ddiwygio cod o dan adran 8 o’r Ddeddf
4 
Ni ddaw adran 8 o’r Ddeddf i rym ar 23 Tachwedd 2021 ond at ddibenion dyroddi neu ddiwygio cod o dan yr adran honno.
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
21 Medi 2021