
2021 Rhif 1064 (Cy. 251)
Tai, Cymru
Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Tenantiaethau Preswyl: Estyn Cyfnod Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Rhif 3) (Cymru) 2021
Gwnaed 20 Medi 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 22 Medi 2021
Yn dod i rym 30 Medi 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan baragraffau 1(2) a 14(1) o Atodlen 29 i Ddeddf y Coronafeirws 2020.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Tenantiaethau Preswyl: Estyn Cyfnod Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Rhif 3) (Cymru) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Medi 2021.
Estyn y cyfnod perthnasol yn Atodlen 29 i Ddeddf y Coronafeirws 2020
2 
Ym mharagraff 1(1)(b)(ii) o Atodlen 29 i Ddeddf y Coronafeirws 2020 (ystyr “the relevant period” o ran Cymru), yn lle “30 September 2021” rhodder “31 December 2021”.
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
20 Medi 2021