
2021 Rhif 1042 (Cy. 244)
Iechyd, Cymru
Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Atal Dros Dro: Cludo, Storio a Gwaredu Cyrff Meirw etc) (Cymru) 2021
Gwnaed 14 Medi 2021
Yn dod i rym 24 Medi 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 88(1) o Ddeddf y Coronafeirws 2020, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod yr amodau a bennir yn adran 88(9) o’r Ddeddf honno wedi eu bodloni mewn perthynas â’r darpariaethau a atelir dros dro gan y Rheoliadau hyn.
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Atal Dros Dro: Cludo, Storio a Gwaredu Cyrff Meirw etc) (Cymru) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 24 Medi 2021.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Deddf 2020” yw Deddf y Coronafeirws 2020.
Atal dros dro ddarpariaethau o dan Ddeddf 2020 mewn perthynas â Chludo, Storio a Gwaredu Cyrff Meirw
2 
Mae gweithrediad y darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2020 wedi ei atal dros dro—
(a) adran 58 (pwerau mewn perthynas â chludo, storio a gwaredu cyrff meirw etc) i’r graddau y mae’n ymwneud â Rhannau 2, 3 a 4 o Atodlen 28;
(b) Rhannau 2, 3 a 4 o Atodlen 28 (cludo, storio a gwaredu cyrff meirw etc).
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
14 Medi 2021