2021 Rhif 103 (Cy. 28)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed am 2.19 p.m. ar 29 Ionawr 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru am 5.30 p.m. ar 29 Ionawr 2021
Yn dod i rym 30 Ionawr 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Ionawr 2021.
Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020
2 

(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 16(4)(a), hepgorer “and by Part II of the Fire Precautions (Workplace) Regulations 1997”.
(3) Ym mharagraff 3 o Atodlen 1—
(a) yn is-baragraff (4), ar ôl “1 aelwyd estynedig” mewnosoder “ar unrhyw un adeg”;
(b) yn is-baragraff (6), yn y testun Saesneg, yn lle “being in” rhodder “part of” yn y ddau le y mae’n digwydd;
(c) yn is-baragraff (7)—
(i) yn y testun Saesneg, yn lle “being in” rhodder “part of” yn y ddau le y mae’n digwydd;
(ii) ar ôl “unrhyw aelwyd arall” mewnosoder “oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag unrhyw aelod o aelwyd arall gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig â’r aelwyd honno”.
(4) Ym mharagraff 3 o Atodlen 2—
(a) yn is-baragraff (4), ar ôl “1 aelwyd estynedig” mewnosoder “ar unrhyw un adeg”;
(b) yn lle is-baragraff (5) rhodder—“
(5) Pan fo aelwyd wedi cytuno i gael ei thrin fel aelwyd estynedig ag aelwydydd eraill o dan baragraff 3 o Atodlen 1 (“yr aelwyd estynedig flaenorol”), dim ond â’r aelwydydd eraill hynny y caiff wneud cytundeb o dan y paragraff hwn, oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag aelod o’r aelwydydd hynny gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig flaenorol.”;
(c) yn is-baragraff (7), yn y testun Saesneg, yn lle “being in” rhodder “part of” yn y ddau le y mae’n digwydd;
(d) yn is-baragraff (8)—

(5) Ym mharagraff 3 o Atodlen 3—

(6) Yn Atodlen 4—
(a) ym mharagraff 1(4)(f)—
(i) ym mharagraff (ii), hepgorer “neu” yn yr ail le y mae’n digwydd;
(ii) ym mharagraff (iii), yn lle “;” rhodder “, neu”;
(iii) ar ôl paragraff (iii) mewnosoder—“
(iv) gydag 1 person arall nad yw’n aelod o aelwyd neu aelwyd estynedig y person nac yn ofalwr y person, ac unrhyw blant o dan 11 oed sy’n aelodau o aelwyd y naill berson neu’r llall;”;”
(b) ym mharagraff 2(4), ar y diwedd mewnosoder—“
(i) gwneud ymarfer corff yn yr awyr agored, ac eithrio mewn annedd breifat—
(i) gydag aelodau o aelwyd estynedig y person, neu
(ii) gydag 1 person arall ac unrhyw blant o dan 11 oed sy’n aelodau o aelwyd y naill berson neu’r llall,
ynghyd ag unrhyw ofalwr i berson sy’n cymryd rhan sy’n bresennol.”;
(c) ym mharagraff 3—
(i) yn is-baragraff (3), ar ôl “1 aelwyd estynedig” mewnosoder “ar unrhyw un adeg”;
(ii) yn is-baragraff (4), yn y geiriau ar ôl paragraff (b)(ii)—(aa) o flaen “dim ond” mewnosoder “(“yr aelwyd estynedig flaenorol”),”;(bb) ar ôl “y paragraff hwn” mewnosoder “oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd un oedolyn gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag aelod o’r aelwydydd hynny gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig flaenorol”;
(iii) yn is-baragraff (5), yn y testun Saesneg, yn lle “being in” rhodder “part of” yn y ddau le y mae’n digwydd;
(iv) yn is-baragraff (6)—(aa) yn y testun Saesneg, yn lle “being in” rhodder “part of” yn y ddau le y mae’n digwydd;(bb) ar ôl “unrhyw aelwyd arall” mewnosoder “oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag unrhyw aelod o aelwyd arall gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig â’r aelwyd honno”;
(d) ar ôl paragraff 62 mewnosoder—“
62A. 
Golchfeydd ceir awtomatig.”
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
Am 2.19 p.m. ar 29 Ionawr 2021