
2021 Rhif 1015 (Cy. 240) (C. 55)
Tiroedd Comin, Cymru
Gorchymyn Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cychwyn Rhif 6) (Cymru) 2021
Gwnaed 8 Medi 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir i’r awdurdod cenedlaethol priodol gan adran 56(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006.
Enwi a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cychwyn Rhif 6) (Cymru) 2021.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Y darpariaethau sy’n dod i rym
2 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 i rym ar 30 Medi 2021—
(a) adran 52 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol), i’r graddau y bo hynny’n angenrheidiol at ddibenion paragraff (b) o’r erthygl hon;
(b) paragraff 5(c) o Atodlen 5 (Deddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 (p. 33)).
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
8 Medi 2021