
2021 Rhif 101 (Cy. 27)
Traffig Ffyrdd, Cymru
Rheoliadau Traffordd yr M4 (Cyffordd 28 (Parc Tredegar) i Gyffordd 24 (Coldra)) (Terfyn Cyflymder 50 mya) 2021
Gwnaed 29 Ionawr 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 2 Chwefror 2021
Yn dod i rym 28 Chwefror 2021
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 17(2), (3) a (3ZAA) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, ac ar ôl ymgynghori ag unrhyw sefydliadau cynrychioliadol y tybiwyd eu bod yn briodol yn unol ag adran 134(10) o’r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Traffordd yr M4 (Cyffordd 28 (Parc Tredegar) i Gyffordd 24 (Coldra)) (Terfyn Cyflymder 50 mya) 2021, a deuant i rym ar 28 Chwefror 2021.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “traffordd yr M4” yw traffordd yr M4 Llundain i Dde Cymru.
Gosod terfyn cyflymder
2 
Ni chaiff neb yrru cerbyd modur yn gyflymach na 50 milltir yr awr ar y darnau o draffordd yr M4 a bennir yn yr Atodlen.
Dirymu
3 
Mae Rheoliadau Traffordd yr M4 (Man i’r Gorllewin o Gyffordd 23A (Magwyr) i Fan i’r Dwyrain o Gyffordd 29 (Cas-bach)) (Terfynau Cyflymder Amrywiadwy) 2015 drwy hyn wedi eu dirymu.
Ken Skates
Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, un o Weinidogion Cymru
29 Ionawr 2021
YR ATODLEN
Y DARNAU PENODEDIG O DRAFFORDD YR M4
Rheoliad 2

Y darnau penodedig o draffordd yr M4 yw—
a) Y darn o’r gerbytffordd tuaְ’r gorllewin o bwynt 675 o fetrau i’r gorllewin o linell ganol trosbont Trefesgob i Lanfarthin hyd at bwynt 80 metr i’r gorllewin o ganolbwynt tanbont Forge Road.
b) Y darn o’r gerbytffordd tuaְ’r dwyrain o bwynt 64 o fetrau i’r dwyrain o’i chyffordd â ffordd ymadael tua’r dwyrain cyffordd 28 (Parc Tredegar) hyd at bwynt 229 o fetrau i’r dwyrain o’i chyffordd â ffordd ymuno tua’r dwyrain cyffordd 24 (Coldra).
c) Y darn o’r ffordd ymadael tua’r dwyrain wrth gyffordd 24 (Coldra) o’i chyffordd â’r brif gerbytffordd tua’r dwyrain hyd at bwynt 123 o fetrau i’r gorllewin o’i chyffordd â cherbytffordd gylchredol yr A48/A449 Cyfnewidfa Coldra.
d) Y darn o’r ffordd ymadael tua’r gorllewin wrth gyffordd 24 (Coldra) o’i chyffordd â’r brif gerbytffordd tua’r gorllewin hyd at bwynt 114 o fetrau i’r dwyrain o’i chyffordd â cherbytffordd gylchredol yr A48/A449 Cyfnewidfa Coldra.
e) Y darn o’r ffordd ymuno tua’r gorllewin wrth gyffordd 24 (Coldra) o bwynt 6 metr i’r gorllewin o’i chyffordd â cherbytffordd gylchredol Cyfnewidfa Coldra hyd at ei chyffordd â’r brif gerbytffordd tua’r gorllewin.
f) Y darn o’r ffordd ymadael tua’r gorllewin wrth gyffordd 25 (Caerllion) o’i chyffordd â’r brif gerbytffordd tua’r gorllewin hyd at ei chyffordd â cherbytffordd gylchredol cylchfan Caerllion y B4596.
g) Y darn o’r ffordd ymuno tua’r dwyrain wrth gyffordd 25 (Caerllion) o’i chyffordd â cherbytffordd gylchredol cylchfan Caerllion y B4596 hyd at ei chyffordd â’r brif gerbytffordd tua’r dwyrain.
h) Y darn o’r ffordd gyswllt ymadael tua’r gorllewin wrth gyffordd 25A (Grove Park) o’i chyffordd â’r brif gerbytffordd tua’r gorllewin hyd at ei chyffordd â’r A4042.
i) Y darn o’r ffordd gyswllt ymuno tua’r dwyrain wrth gyffordd 25A (Grove Park) o’i chyffordd â’r A4042 hyd at ei chyffordd â’r brif gerbytffordd tua’r dwyrain.
j) Y darn o’r ffordd ymadael tua’r dwyrain, gan gynnwys y lôn sy’n troi i’r chwith, wrth gyffordd 26 (Malpas) o’i chyffordd â’r brif gerbytffordd tua’r dwyrain hyd at ei chyffordd â cherbytffordd gylchredol cylchfan Malpas yr A4051.
k) Y darn o’r ffordd ymadael tua’r gorllewin wrth gyffordd 26 (Malpas) o’i chyffordd â’r brif gerbytffordd tua’r gorllewin hyd at ei chyffordd â cherbytffordd gylchredol cylchfan Malpas yr A4051.
l) Y darn o’r ffordd ymuno tua’r dwyrain wrth gyffordd 26 (Malpas) o’i chyffordd â cherbytffordd gylchredol cylchfan Malpas yr A4051 hyd at ei chyffordd â’r brif gerbytffordd tua’r dwyrain.
m) Y darn o’r ffordd ymuno tua’r gorllewin wrth gyffordd 26 (Malpas) o’i chyffordd â cherbytffordd gylchredol cylchfan Malpas yr A4051 hyd at ei chyffordd â’r brif gerbytffordd tua’r gorllewin.
n) Y darn o’r ffordd ymadael tua’r dwyrain wrth gyffordd 27 (High Cross) o’i chyffordd â’r brif gerbytffordd tua’r dwyrain hyd at ei chyffordd â cherbytffordd gylchredol cylchfan High Cross y B4591.
o) Y darn o’r ffordd ymadael tua’r gorllewin wrth gyffordd 27 (High Cross) o’i chyffordd â’r brif gerbytffordd tua’r gorllewin hyd at ei chyffordd â cherbytffordd gylchredol cylchfan High Cross y B4591.
p) Y darn o’r ffordd ymuno tua’r dwyrain wrth gyffordd 27 (High Cross) o’i chyffordd â cherbytffordd gylchredol cylchfan High Cross y B4591 hyd at ei chyffordd â’r brif gerbytffordd tua’r dwyrain.
q) Y darn o’r ffordd ymuno tua’r gorllewin wrth gyffordd 27 (High Cross) o’i chyffordd â cherbytffordd gylchredol cylchfan High Cross y B4591 hyd at ei chyffordd â’r brif gerbytffordd tua’r gorllewin.
r) Y darn o’r ffordd ymadael tua’r gorllewin wrth gyffordd 28 (Parc Tredegar) o’i chyffordd â’r brif gerbytffordd tua’r gorllewin hyd at bwynt 270 o fetrau i’r gogledd o’i chyffordd â phrif gerbytffordd gylchredol Cyfnewidfa Parc Tredegar.
s) Y darn o’r ffordd ymuno tua’r dwyrain wrth gyffordd 28 (Parc Tredegar) o bwynt 45 o fetrau i’r gogledd o’i chyffordd â cherbytffordd gylchredol cylchfan yr A48/A467 hyd at ei chyffordd â’r brif gerbytffordd tua’r dwyrain.
