
2020 Rhif 955 (Cy. 213)
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Rheoliadau’r Cynllun Cychwyn Iach (Disgrifio Bwyd Cychwyn Iach) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2020
Gwnaed 7 Medi 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 8 Medi 2020
Yn dod i rym 1 Hydref 2020
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 13(1) a (6) o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1988 ac adrannau 47(1) a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Cynllun Cychwyn Iach (Disgrifio Bwyd Cychwyn Iach) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Hydref 2020.
(3) Yn y Rheoliadau hyn:
 ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau’r Cynllun Cychwyn Iach (Disgrifio Bwyd Cychwyn Iach) (Cymru) 2006;
 ystyr “Rheoliadau 2004” (“the 2004 Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2004.
Diwygio’r prif Reoliadau
2 

(1) Mae’r prif Reoliadau wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3—
(a) yn lle “Tabledi neu ddiferion fitamin” rhodder “Cynhyrchion”;
(b) ar ôl “sy’n cynnwys fitaminau” mewnosoder “ar ffurf ac mewn swm”.
(3) Yn yr Atodlen—
(a) yng ngholofn 1 (categori o fwyd) o’r tabl, yn y trydydd cofnod, yn lle “ffres neu wedi’u rhewi” rhodder “ffres, wedi’u rhewi neu mewn tun”;
(b) yng ngholofn 2 (goleddfiad) o’r tabl, yn lle’r trydydd cofnod rhodder—“Ffrwythau a llysiau ffres, wedi’u rhewi neu mewn tun gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, ffrwythau neu lysiau rhydd, wedi’u rhagbacio, cyfain, wedi’u tafellu, wedi’u torri, neu wedi’u cymysgu, ffrwythau mewn sudd ffrwythau, neu ffrwythau neu lysiau mewn dŵr, ond nid ffrwythau na llysiau yr ychwanegwyd braster, halen, siwgr, cyflasyn neu unrhyw gynhwysion eraill atynt.”;
(c) ar ddiwedd y tabl mewnosoder—“
Codlysiau Codlysiau ffres, wedi’u sychu neu mewn tun, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, gorbys, ffa, pys a ffacbys ond nid codlysiau yr ychwanegwyd braster, halen, siwgr, cyflasyn neu unrhyw gynhwysion eraill atynt.”
Diwygio Rheoliadau 2004
3 
Yn Atodlen 4 i Reoliadau 2004 (rhestr o dystysgrifau meddygol rhagnodedig)—
(a) yng ngholofn 1 (disgrifiad o’r dystysgrif feddygol) o’r tabl, hepgorer yr ail gofnod;
(b) yng ngholofn 2 (deddfiad y mae’r dystysgrif yn ofynnol odano neu at ei ddiben) o’r tabl, hepgorer “Section 13 of the Social Security Act 1988 (Schemes for distribution etc of welfare foods)”.
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
7 Medi 2020