
2020 Rhif 95 (Cy. 16)
Y Dreth Dirlenwi, Cymru
Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2020
Cymeradwywyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 28 Ionawr 2020
Gwnaed 6 Ionawr 2020
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 7 Ionawr 2020
Yn dod i rym 1 Ebrill 2020
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 14(3) a (6), 46(4) a 94(1) o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2020 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2020.
Cymhwyso
2 
Mae’r Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas â gwarediad trethadwy (o fewn ystyr Rhan 2 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017) a wneir ar 1 Ebrill 2020 neu ar ôl hynny.
Cyfraddau’r dreth gwarediadau tirlenwi
3 
Rhagnodir y cyfraddau a ganlyn yn unol ag adrannau 14(3) a (6), a 46(4) o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 yn y drefn honno—
(a) y gyfradd safonol yw £94.15 y dunnell;
(b) y gyfradd is yw £3.00 y dunnell; ac
(c) y gyfradd gwarediadau sydd heb eu hawdurdodi yw £141.20 y dunnell.
Diwygio Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2018
4 
Yn rheoliad 2 o Reoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2018, ar ôl “neu ar ôl hynny” mewnosoder “ond cyn 1 Ebrill 2020”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
6 Ionawr 2020