
2020 Rhif 944 (Cy. 210)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2020
Gwnaed 3 Medi 2020
Yn dod i rym am 4.00 a.m. ar 4 Medi 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru am 11.00 a.m. ar 4 Medi 2020
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
RHAN 1 Cyffredinol
Enwi, dod i rym a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 4 Medi 2020.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020.
RHAN 2 Diwygiadau i’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol
Diwygio’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt
2 

(1) Yn Rhan 1 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin)
(a) yn y man priodol mewnosoder—“ynysoedd Açores”“Madeira”;
(b) ar ôl “Gwlad Groeg” mewnosoder “, ac eithrio tiriogaethau Antiparos, Creta, Lesvos, Mykanos, Paros a Zakynthos”;
(c) hepgorer “Polynesia Ffrengig”;
(d) hepgorer “Portiwgal”.
(2) Yn Rhan 2 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), hepgorer—“Gibraltar”.
Darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â rheoliad 2
3 

(1) Mae paragraff (3) yn gymwys pan fo person (“P”)—
(a) yn cyrraedd Cymru am 4:00 a.m. ar 4 Medi 2020 neu wedi hynny, a
(b) wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth y mae paragraff (2) yn gymwys iddi ddiwethaf—
(i) o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru, a
(ii) cyn 4.00 a.m. ar 4 Medi 2020.
(2) Y gwledydd a’r tiriogaethau y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddynt yw—
(a) tiriogaethau Antiparos, Creta, Lesvos, Mykanos, Paros a Zakynthos yng Ngwlad Groeg;
(b) Polynesia Ffrengig;
(c) Portiwgal, ac eithrio ynysoedd Açores a Madeira;
(d) Gibraltar.
(3) Mae P, yn rhinwedd y ffaith iddo fod mewn gwlad neu diriogaeth y mae paragraff (2) yn gymwys iddi, i’w drin at ddibenion rheoliadau 7(1) ac 8(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol fel pe bai wedi cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt, neu fel pe bai wedi cyrraedd ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath.
(4) Mae rheoliad 3(3) a (4) o’r Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) wedi ei ddirymu, ac eithrio mewn perthynas ag yr Açores a Madeira.
RHAN 3 Diwygiad i’r rhestr o ddigwyddiadau chwaraeon yn Atodlen 4 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol
Ychwanegiad at y rhestr o ddigwyddiadau chwaraeon penodedig
4 
Ym mharagraff 14 o Atodlen 4 (digwyddiadau chwaraeon penodedig), ar y diwedd mewnosoder—“
(e) Hennessy Sports – Teitl Pencampwriaeth Pwysau Plu Uwch yr Undeb Bocsio Ewropeaidd.”
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
3 Medi 2020