
2020 Rhif 93 (Cy. 15)
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Rheoliadau Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (Datgymhwyso Gohirio Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020
Gwnaed 30 Ionawr 2020
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddir gan baragraff 1(3)(a) o Atodlen 5 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Fel sy’n ofynnol gan baragraff 2(4) o Atodlen 5 i’r Ddeddf honno, ymgynghorwyd ag un o Weinidogion y Goron cyn gwneud y Rheoliadau hyn.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (Datgymhwyso Gohirio Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 a deuant i rym drannoeth y diwrnod y’i gwneir.
Datgymhwyso gohirio is-ddeddfwriaeth
2 
Nid yw paragraff 1(1) o Atodlen 5 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 yn gymwys i Reoliadau Etholiadau (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019.
Mark Drakeford
Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
30 Ionawr 2020