
2020 Rhif 918 (Cy. 206)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020
Gwnaed am 9.20 a.m. ar 28 Awst 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru am 3.00 p.m. ar 28 Awst 2020
Yn dod i rym 1 Medi 2020
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22(2)(a) a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2020.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019
2 

(1) Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019 wedi eu diwygio yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 10(1) (myfyrwyr cymwys – eithriadau), yn eithriad 10—
(a) ar ôl “nid yw’r eithriad hwn yn gymwys pan—” dechreuer llinell newydd a mewnosod y pennawd “Achos 1”;
(b) ar ddiwedd is-baragraff (c), yn lle’r atalnod llawn rhodder “; neu”;
(c) ar ddiwedd eithriad 10 mewnosoder—“Achos 2
(a) bo diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2020; a
(b) na fo P yn gallu bod yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs am reswm sy’n ymwneud â’r coronafeirws.”
(3) Yn Atodlen 1 (dehongli), ym mharagraff 3(1), yn y lle priodol mewnosoder—“
 ystyr “coronafeirws” (“coronavirus”) yw coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2);”.
(4) Yn Atodlen 4 (mynegai o dermau wedi eu diffinio), yn Nhabl 3, yn y lle priodol mewnosoder—“
“coronafeirws” Atodlen 1, paragraff 3(1)”
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
Am 9.20 a.m. ar 28 Awst 2020