
2020 Rhif 89 (Cy. 13)
Bwyd, Cymru
Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2020
Made 30th January 2020
Laid before the National Assembly for Wales 31st January 2020
Coming into force in accordance with regulation 1

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 6(4), 16(1)(a) ac (e) a (2)(b), 17(1) a (2), 26(1) a (3) ac 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy ac adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â mesurau sy’n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod), gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau penodol at ddarpariaethau Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2016/127 dyddiedig 25 Medi 2015 sy’n ychwanegu at Reoliad (EU) Rhif 609/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch y gofynion penodol o ran cyfansoddiad a gwybodaeth ar gyfer fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol ac ynghylch gofynion o ran gwybodaeth sy’n ymwneud â bwydo babanod a phlant ifanc gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y darpariaethau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.
Mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.

Ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau hyn.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym—
(a) ac eithrio pan fo is-baragraff (b) yn gymwys, ar 22 Chwefror 2020;
(b) ar 22 Chwefror 2021 mewn cysylltiad â fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol sydd wedi eu gweithgynhyrchu o hydrolysadau protein.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 mae i “awdurdod bwyd” yr ystyr a roddir i “food authority” yn rhinwedd adran 5(1A) o’r Ddeddf;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
 ystyr “gofyniad cyfraith UE penodedig” (“specified EU law requirement”) yw unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliad Dirprwyedig a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 1, fel y’i darllenir gydag unrhyw ddarpariaeth a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw;
 ystyr “y Rheoliad Dirprwyedig” (“the Delegated Regulation”) yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2016/127 dyddiedig 25 Medi 2015 sy’n ychwanegu at Reoliad (EU) Rhif 609/2013 Senedd Ewrop aʼr Cyngor ynghylch y gofynion penodol o ran cyfansoddiad a gwybodaeth ar gyfer fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol ac ynghylch gofynion o ran gwybodaeth sy’n ymwneud â bwydo babanod a phlant ifanc.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad at ddarpariaeth yn y Rheoliad Dirprwyedig yn gyfeiriad at y ddarpariaeth honno fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.
(3) Mae i ymadroddion Saesneg a’r ymadroddion Cymraeg cyfatebol a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn y Rheoliad Dirprwyedig yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddynt yn y Rheoliad Dirprwyedig.
Gorfodi
3 
Rhaid i bob awdurdod bwyd weithredu a gorfodi’r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.
Cymhwyso darpariaethau’r Ddeddf
4 

(1) Mae adran 10(1) a (2) o’r Ddeddf (hysbysiadau gwella) yn gymwys, gyda’r addasiad (yn achos adran 10(1)) a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 2, at ddibenion—
(a) galluogi i hysbysiad gwella gael ei gyflwyno i berson, sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw sicrhau cydymffurfedd ag unrhyw ofyniad cyfraith UE penodedig; a
(b) gwneud methu â chydymffurfio â hysbysiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) yn drosedd.
(2) Mae adran 32(1) i (8) o’r Ddeddf (pwerau mynediad) yn gymwys, gyda’r addasiadau (yn achos adran 32(1)) a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 2, at ddibenion galluogi swyddog awdurdodedig o awdurdod gorfodi—
(a) i arfer pŵer mynediad i ganfod a yw bwyd nad yw’n cydymffurfio â gofyniad cyfraith UE penodedig yn cael ei werthu neu wedi ei werthu; a
(b) i arfer pŵer mynediad i ganfod a oes unrhyw dystiolaeth o unrhyw doriad o ofyniad cyfraith UE penodedig.
(3) Mae adran 35 o’r Ddeddf (cosbi troseddau) yn gymwys, gyda’r addasiadau a bennir yn Rhan 3 o Atodlen 2, at ddiben pennu’r gosb am drosedd a gyflawnir o dan adran 10(2) fel y’i cymhwysir gan baragraff (1)(b).
(4) Mae adran 37 o’r Ddeddf (apelau) yn gymwys, gyda’r addasiadau a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 2, at ddiben galluogi person i apelio yn erbyn penderfyniad i gyflwyno hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a).
(5) Mae adran 39 o’r Ddeddf (apelau yn erbyn hysbysiadau gwella) yn gymwys, gyda’r addasiadau (yn achos adran 39(1) a (3)) a bennir yn Rhan 5 o Atodlen 2, at ddiben ymdrin ag apelau yn erbyn penderfyniad i gyflwyno hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a).
(6) Mae darpariaethau’r Ddeddf a bennir ym mharagraff (7) (“y darpariaethau paragraff (7)”) yn gymwys, gyda’r addasiadau a bennir yn Rhan 6 o Atodlen 2, at ddibenion y Rheoliadau hyn i’r graddau y maent yn ymwneud â’r darpariaethau yn y Ddeddf, a bennir ym mharagraffau (1) i (5) ac a addesir ganddynt.
(7) Y darpariaethau yn y Ddeddf, a bennir at ddibenion y paragraff hwn, yw—
(a) adran 3 (rhagdybiaethau y bwriedir i fwyd gael ei fwyta gan bobl);
(b) adran 20 (troseddau oherwydd bai person arall);
(c) adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy);
(d) adran 22 (amddiffyn cyhoeddi yng nghwrs busnes);
(e) adran 29 (caffael samplau);
(f) adran 30 (dadansoddi etc. samplau);
(g) adran 33 (rhwystro etc. swyddogion);
(h) adran 36 (troseddau gan gyrff corfforedig);
(i) adran 36A (troseddau gan bartneriaethau Albanaidd);
(j) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy’n gweithredu’n ddidwyll);
(k) adran 53 (dehongli cyffredinol);
ac mae unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau paragraff (7) at adran o’r Ddeddf, gan gynnwys cyfeiriad at “any of the preceding provisions of this Part”, i’w ddarllen fel cyfeiriad at yr adrannau hynny o’r Ddeddf sy’n gymwys yn rhinwedd y Rheoliadau hyn, a chyda’r addasiadau a wneir ganddynt.
Dirymiadau, arbedion a darpariaethau trosiannol
5 

(1) Mae’r offerynnau a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 3 wedi eu dirymu i’r graddau a bennir yng ngholofn 3 o’r tabl hwnnw, yn ddarostyngedig i baragraff (2).
(2) Mae’r offerynnau a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 3 yn parhau i gael effaith (i’r graddau y maent wedi eu dirymu fel arall i’r graddau a bennir yng ngholofn 3 o’r tabl hwnnw)—
(a) tan 21 Chwefror 2021 mewn cysylltiad â fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol sydd wedi eu gweithgynhyrchu o hydrolysadau protein;
(b) at ddibenion paragraff (3)(b).
(3) Caiff fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol nad ydynt yn cydymffurfio â gofyniad cyfraith UE penodedig barhau i gael eu marchnata nes i’r stociau o’r bwyd hwnnw gael eu disbyddu, ar yr amod—
(a) iddo gael ei roi ar y farchnad neu ei labelu—
(i) cyn 22 Chwefror 2020; neu
(ii) cyn 22 Chwefror 2021 yn achos fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol sydd wedi eu gweithgynhyrchu o hydrolysadau protein; a
(b) bod yr amodau a bennir yn y ddarpariaeth a ganlyn yn Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2007 wedi eu bodloni—
(i) rheoliad 3(1) (gwaharddiad ar farchnata fformiwla fabanod oni bai bod amodau penodol wedi eu bodloni) yn achos fformiwla fabanod;
(ii) rheoliad 3(2) (gwaharddiad ar farchnata fformiwla ddilynol oni bai bod amodau penodol wedi eu bodloni) yn achos fformiwla ddilynol.
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
30 Ionawr 2020
ATODLEN 1
Gofynion cyfraith UE penodedig
Rheoliad 2(1)


Colofn 1 Colofn 2
Darpariaeth benodedig yn y Rheoliad Dirprwyedig Y ddarpariaeth yn y Rheoliad Dirprwyedig sydd i’w darllen gydaʼr ddarpariaeth benodedig yn y Rheoliad Dirprwyedig
Erthygl 1(2) (rhoi ar y farchnad) Erthygl 1(1)
Erthygl 2(1) (gofynion o ran cyfansoddiad ar gyfer fformiwla fabanod) Erthyglau 1(1) a 2(3), Atodiad 1 ac Atodiad 3
Erthygl 2(2) (gofynion o ran cyfansoddiad ar gyfer fformiwla ddilynol) Erthyglau 1(1) a 2(3), Atodiad 2 ac Atodiad 3
Erthygl 2(3) (paratoi fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol) Erthyglau 1(1), 2(1) a (2)
Erthygl 3(1) (addasrwydd cynhwysion ar gyfer fformiwla fabanod) Erthyglau 1(1) a 3(3) a pharagraff 2 o Atodiad 1
Erthygl 3(2) (addasrwydd cynhwysion ar gyfer fformiwla ddilynol) Erthyglau 1(1) a 3(3) a pharagraff 2 o Atodiad 2
Erthygl 4(2) (trothwy gweddillion sylwedd gweithredol) Erthyglau 1(1) a 4(1), (3) a (5)
Erthygl 4(3) (rhanddirymiad o drothwy gweddillion sylwedd gweithredol) Erthyglau 1(1) a 4(1), (2) a (5)
Erthygl 4(4) (gofynion o ran plaladdwyr) Erthyglau 1(1) a 4(1) a (5)
Erthygl 5(1) (enw bwyd nad yw wedi ei weithgynhyrchu’n llwyr o brotein llaeth gwartheg neu eifr) Erthygl 1(1) a Rhan A o Atodiad 6
Erthygl 5(2) (enw bwyd sydd wedi ei weithgynhyrchu’n llwyr o brotein llaeth gwartheg neu eifr) Erthygl 1(1) a Rhan B o Atodiad 6
Erthygl 6 (gofynion penodol o ran gwybodaeth am fwyd) Erthyglau 1(1) a 7(1), (2), (3), (5), (6), (7) ac (8)
Erthygl 7(1) (gofynion penodol o ran y datganiad ynglŷn â maethiad) Erthyglau 1(1) a 7(4), Atodiad 1 ac Atodiad 2
Erthygl 7(3) (ailadrodd gwybodaeth a gynhwysir mewn datganiad mandadol ynglŷn â maethiad) Erthygl 1(1)
Erthygl 7(4) (datganiad ynglŷn â maethiad yn fandadol ni waeth beth fo maint y pecyn neu’r cynhwysydd) Erthyglau 1(1) a 7(1), Atodiad 1 ac Atodiad 2
Erthygl 7(5) (cymhwyso Erthyglau 31 i 35 o Reoliad (EU) Rhif 1169/2011) Erthyglau 1(1) a 7(6), (7) ac (8)
Erthygl 7(6) (mynegi gwerth egni a symiau maetholion) Erthyglau 1(1) a 7(5)
Yr is-baragraff cyntaf o Erthygl 7(7) (gwaharddiad ar fynegi gwerth egni a swm maetholion fel canran o’r cymeriant cyfeirio) Erthyglau 1(1) a 7(5)
Erthygl 7(8) (cyflwyno manylion a gynhwysir yn y datganiad ynglŷn â maethiad) Erthygl 1(1)
Erthygl 8 (gwaharddiad ar wneud honiadau am faethiad ac iechyd ar fformiwla fabanod) Erthygl 1(1)
Erthygl 9(1) (datganiad “lactose only”) Erthygl 1(1)
Yr is-baragraff cyntaf o Erthygl 9(2) (datganiad “lactose free”) Erthygl 1(1)
Yr ail is-baragraff o Erthygl 9(2) (datganiad nad yw fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol “lactose free” yn addas ar gyfer babanod â galactosemia) Erthygl 1(1)
Erthygl 9(3) (gwaharddiad ar gyfeiriadau at asid docosahecsenoig pan fo fformiwla fabanod yn cael ei rhoi ar y farchnad ar 22 Chwefror 2025 neu wedi hynny) Erthygl 1(1)
Erthygl 10(1) (cyfyngiad ar hysbysebu ar gyfer fformiwla fabanod) Erthygl 1(1)
Erthygl 10(2) (gwaharddiad ar ddulliau hyrwyddo er mwyn cymell gwerthiant o fformiwla fabanod) Erthygl 1(1)
Erthygl 10(3) (gwaharddiad ar ddarparu cynhyrchion, samplau neu anrhegion hyrwyddo eraill, am ddim neu am bris isel, i’r cyhoedd, i fenywod beichiog, i famau neu i aelodau o’u teuluoedd) Erthygl 1(1)
Erthygl 10(4) (gofynion ar gyfer rhoddion neu werthiannau am bris isel o gyflenwadau o fformiwla fabanod i sefydliadau neu gyrff) Erthygl 1(1)
Erthygl 11(2) (gofynion o ran gwybodaeth sy’n ymwneud â bwydo babanod a phlant ifanc) Erthygl 1(1)
Erthygl 11(3) (gofynion o ran rhoddion o gyfarpar neu ddeunyddiau at ddibenion gwybodaeth neu addysg) 
Erthygl 12 (gofynion hysbysu) Erthygl 1(1)

ATODLEN 2
Addasu darpariaethau’r Ddeddf
Rheoliad 4
RHAN 1 Addasu adran 10 o’r Ddeddf
1 
Mae adran 10 o’r Ddeddf (hysbysiadau gwella) yn gymwys fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle is-adran (1)—“
(1) If an authorised officer of an enforcement authority has reasonable grounds for believing that a person is failing to comply with a specified EU law requirement, the authorised officer may, by a notice served on that person (in this Act referred to as an “improvement notice”)—
(a) state the officer’s grounds for believing that the person is failing to comply or, as the case may be, that the food does not comply with the specified EU law requirement;
(b) specify the matters which constitute the failure to comply;
(c) specify the measures which, in the officer’s opinion, the person must take in order to secure compliance; and
(d) require the person to take those measures, or such measures that are at least equivalent to them, within such period as may be specified in the notice.”
RHAN 2 Addasu adran 32 o’r Ddeddf
2 
Mae adran 32 o’r Ddeddf (pwerau mynediad) yn gymwys fel pe bai—
(a) yn is-adran (1), y canlynol wedi ei roi yn lle paragraffau (a) i (c)—“
(a) to enter any premises within the authority’s area for the purpose of ascertaining whether there has been any contravention of a specified EU law requirement;
(b) to enter any business premises, whether within or outside the authority’s area, for the purpose of ascertaining whether there is on the premises any evidence of any contravention of a specified EU law requirement; and
(c) when exercising a power of entry under this section, to exercise the associated powers in subsections (5) and (6) relating to records;”;
(b) is-adran (9) wedi ei hepgor.
RHAN 3 Addasu adran 35 o’r Ddeddf
3 
Mae adran 35 o’r Ddeddf (cosbi troseddau) yn gymwys fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod o flaen is-adran (2)—“
(1B) A person guilty of an offence under section 10(2), as applied by regulation 4(1) of the Infant Formula and Follow-on Formula (Wales) Regulations 2020, is liable on summary conviction, to a fine.”
RHAN 4 Addasu adran 37 o’r Ddeddf
4 
Mae adran 37 o’r Ddeddf (apelau i lys ynadon neu siryf) yn gymwys fel pe bai—
(a) “Appeals” wedi ei roi yn lle’r pennawd;
(b) y canlynol wedi ei roi yn lle is-adran (1)—“
(1) Any person who is aggrieved by a decision of an authorised officer of an enforcement authority to serve an improvement notice under section 10(1), as applied and modified by regulation 4(1) of, and Part 1 of Schedule 2 to, the Infant Formula and Follow-on Formula (Wales) Regulations 2020 may appeal to the magistrates’ court.”;
(c) is-adran (2) wedi ei hepgor;
(d) y canlynol wedi ei roi yn lle is-adran (5)—“
(5) The period within which such an appeal as is mentioned in subsection (1) above may be brought must be—whichever ends the earlier—
(a) one month from the date on which notice of the decision was served on the person desiring to appeal; or
(b) the period specified in the improvement notice
and in the case of such an appeal, the making of the complaint shall be deemed for the purposes of this subsection to be the bringing of the appeal.”
(e) yn is-adran (6)—
(i) “subsection (1)” wedi ei roi yn lle “subsection (3) or (4)”; a
(ii) ym mharagraff (a), “or to the sheriff” wedi ei hepgor.
RHAN 5 Addasu adran 39 o’r Ddeddf
5 
Mae adran 39 o’r Ddeddf (apelau yn erbyn hysbysiadau gwella) yn gymwys fel pe bai, yn is-adran (3), “for want of prosecution” wedi ei hepgor.
RHAN 6 Addasiadau pellach i ddarpariaethau’r Ddeddf
6 
Mae adran 3 o Ddeddf 1990 (rhagdybiaethau y bwriedir i fwyd gael ei fwyta gan bobl) yn gymwys fel pe bai, yn is-adran (1), “the 2020 Regulations” wedi ei roi yn lle “this Act”.
7 
Mae adran 20 o’r Ddeddf (troseddau oherwydd bai person arall) yn gymwys fel pe bai “the 2020 Regulations” wedi ei roi yn lle “any of the preceding provisions of this Part”.
8 
Mae adran 21 o’r Ddeddf (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy) yn gymwys fel pe bai, yn is-adran (1), “the 2020 Regulations” wedi ei roi yn lle “any of the preceding provisions of this Part”.
9 
Mae adran 22 o’r Ddeddf (amddiffyniad cyhoeddi yng nghwrs busnes) yn gymwys fel pe bai “the 2020 Regulations” wedi ei roi yn lle “any of the preceding provisions of this Part”.
10 
Mae adran 29 o’r Ddeddf (caffael samplau) yn gymwys fel pe bai, ym mharagraff (b)(ii), “including under section 32 as applied and modified by regulation 4(2) of, and Part 2 of Schedule 2 to, the 2020 Regulations” wedi ei fewnosod ar ôl “under section 32 below”.
11 
Mae adran 30 o’r Ddeddf (dadansoddi etc. samplau) yn gymwys fel pe bai—
(a) yn is-adran (1), “including under section 29 as applied and modified by regulation 4(6) of, and Part 6 of Schedule 2 to, the 2020 Regulations” wedi ei fewnosod ar ôl “under section 29 above”; a
(b) yn is-adran (8), “the 2020 Regulations” wedi ei roi yn lle “this Act”.
12 
Mae adran 33 o’r Ddeddf (rhwystro etc. swyddogion) yn gymwys fel pe bai, yn is-adran (1), “the 2020 Regulations” wedi ei roi yn lle “this Act” (ym mhob lle y mae’n digwydd).
13 
Mae adran 36 o’r Ddeddf (troseddau gan gyrff corfforedig) yn gymwys fel pe bai, yn is-adran (1), “the 2020 Regulations” wedi ei roi yn lle “this Act”.
14 
Mae adran 36A o’r Ddeddf (troseddau gan bartneriaethau Albanaidd) yn gymwys fel pe bai “the 2020 Regulations” wedi ei roi yn lle “this Act”.
15 
Mae adran 44 o’r Ddeddf (amddiffyn swyddogion sy’n gweithredu’n ddidwyll) yn gymwys fel pe bai “the 2020 Regulations” wedi ei roi yn lle “this Act” ym mhob lle y mae’r geiriau hynny yn ymddangos.
16 
Mae adran 53 (dehongli cyffredinol) yn gymwys fel pe bai—
(a) y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl y diffiniad o “the 1956 Act”—“
 “the 2020 Regulations” means the Infant Formula and Follow-on Formula (Wales) Regulations 2020;”;
(b) y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl y diffiniad o “slaughterhouse”—“
 “specified EU law requirement” has the meaning given in regulation 2(1) of the 2020 Regulations;”.
ATODLEN 3
Dirymiadau sy’n gysylltiedig â Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol
Rheoliad 5(1)


Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3
Offeryn Cyfeirnod Graddau’r dirymu
Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2007 O.S. 2007/3573 (Cy. 316) Y Rheoliadau cyfan, ac eithrio rheoliad 30
Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Diwygio) (Cymru) 2008 O.S. 2008/2602 (Cy. 228) Rheoliad 2
Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) (Diwygio) 2014 O.S. 2014/123 (Cy. 13) Y Rheoliadau cyfan
Rheoliadau Trosglwyddo Swyddogaethau (Bwyd) (Cymru) 2014 O.S. 2014/1102 (Cy. 110) Rheoliad 5
Rheoliadau Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Gofynion o ran Gwybodaeth a Chyfansoddiad) (Cymru) 2016 O.S. 2016/639 (Cy. 175) Atodlen 3, paragraff 4
