Rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru, a osodwyd gerbron Senedd Cymru o dan adran 45R o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 (p. 22), i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Senedd Cymru o fewn wyth niwrnod ar hugain gan ddechrau â’r diwrnod y gwneir yr offeryn, yn ddarostyngedig i’w estyn dros gyfnodau o ddiddymu neu doriad am fwy na phedwar diwrnod.
2020 Rhif 884 (Cy. 195)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020
Gwnaed am 11.00 a.m. ar 21 Awst 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru am 3.30 p.m. ar 21 Awst 2020
Yn dod i rym 22 Awst 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a dod i rym
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020 a deuant i rym ar 22 Awst 2020.
Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020
2 

(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2, hepgorer paragraffau (4) i (7).
(3) Ar ôl rheoliad 2, mewnosoder—“
Aelwydydd estynedig
2A. 

(1) Caiff hyd at bedair aelwyd gytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig at ddibenion y Rheoliadau hyn.
(2) Er mwyn cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig, rhaid i bob oedolyn yn yr aelwydydd o dan sylw gytuno.
(3) Pan fo aelwydydd yn cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig, mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn (ac eithrio yn y rheoliad hwn) at “aelwyd” i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys yr aelwydydd sydd wedi cytuno felly.
(4) Ni chaiff aelwyd ond cytuno i gael ei thrin fel pe bai mewn un aelwyd estynedig.
(5) Mae aelwyd yn peidio â cael ei thrin fel pe bai mewn aelwyd estynedig os yw unrhyw oedolyn yn yr aelwyd yn peidio â chytuno i gael ei drin fel pe bai yn yr aelwyd estynedig.
(6) Os yw aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai mewn aelwyd estynedig, ni chaiff yr aelwyd gytuno i gael ei thrin fel pe bai mewn aelwyd estynedig gydag unrhyw aelwyd arall.
(7) Mae paragraff (8) yn gymwys pan fo dwy aelwyd—
(a) wedi cytuno i gael eu trin fel un aelwyd (estynedig) at ddibenion y Rheoliadau hyn cyn 22 Awst 2020, neu
(b) wedi eu trin fel pe baent wedi gwneud hynny yn unol â rheoliad 2(7) o’r Rheoliadau hyn cyn y dyddiad hwnnw.
(8) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, o ran yr aelwydydd—
(a) maent i’w trin fel pe baent wedi cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig yn unol â’r rheoliad hwn, a
(b) cânt gytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig gyda hyd at ddwy aelwyd arall yn unol â’r rheoliad hwn.”
(4) Yn rheoliad 14, ar ôl paragraff 2(h) mewnosoder—“
(hza) cymryd rhan mewn cynulliad o ddim mwy na 30 o bobl mewn mangre agored—
(i) i ddathlu gweinyddiad priodas neu ffurfiad partneriaeth sifil sy’n digwydd ar neu ar ôl 22 Awst 2020,
(ii) i ddathlu bywyd person ymadawedig y cynhelir ei angladd ar neu ar ôl 22 Awst 2020;”.
(5) Yn rheoliad 14A, ar ôl paragraff (2) mewnosoder—“
(3) Ond nid yw’r cyfyngiad ym mharagraff (1) yn gymwys i ddigwyddiad awyr agored wedi ei drefnu—
(a) sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru,
(b) nad yw mwy na 100 o bobl yn bresennol ynddo (heb gynnwys personau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo), ac
(c) sydd wedi ei gynnal yn unol ag unrhyw amodau a bennir yn ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru.
(4) At ddibenion paragraff (3)(a), mae digwyddiad yn “digwyddiad awyr agored wedi ei drefnu”—
(a) os yw’n digwydd yn yr awyr agored,
(b) os yw wedi ei drefnu gan—
(i) busnes,
(ii) corff cyhoeddus neu sefydliad elusennol, llesiannol neu ddyngarol,
(iii) clwb neu sefydliad gwleidyddol, neu
(iv) corff llywodraethu cenedlaethol camp neu weithgaredd arall, ac
(c) os yw’r person sy’n ei drefnu wedi—
(i) cynnal asesiad risg a fyddai’n bodloni gofynion rheoliad 3 o Reoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999, pa un a yw’r person yn ddarostyngedig i’r Rheoliadau hynny ai peidio, a
(ii) wedi cydymffurfio â gofynion rheoliadau 12(2) a 13(1).
(5) At ddibenion paragraff (4)(c)—
(a) mae rheoliad 3 o Reoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999 yn gymwys fel pe bai’r digwyddiad yn ymgymeriad a wneir gan y person sy’n ei drefnu;
(b) mae rheoliad 12(2) o’r Rheoliadau hyn yn gymwys fel pe bai’r man lle y mae’r digwyddiad yn digwydd yn fangre agored y mae’r person sy’n trefnu’r digwyddiad yn gyfrifol amdani.”
(6) Yn rheoliad 18(9B), yn lle “achos o dan unrhyw ddeddfiad ac eithrio’r” rhodder “unrhyw achos ac eithrio achos o dan y”.
Arbedion ar gyfer troseddau a chosbau mewn perthynas â gweithredoedd blaenorol
3 
Mae rheoliadau 20 ac 21 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 yn parhau i gael effaith mewn perthynas ag unrhyw drosedd a gyflawnir, neu y credir yn rhesymol ei bod wedi ei chyflawni, cyn i’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn ddod i rym fel pe na bai’r diwygiadau hynny wedi eu gwneud.
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
Am 11.00 a.m. ar 21 Awst 2020