
2020 Rhif 868 (Cy. 190)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2020
Gwnaed am 3.05 p.m. ar 14 Awst 2020
Gosodwyd gerbon Senedd Cymru am 5.50 p.m. ar 14 Awst 2020
Yn dod I rym am 4.00 a.m ar 15 Awst 2020
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, dod i rym a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 15 Awst 2020.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020.
Hepgor gwledydd o’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt
2 

(1) Yn Rhan 1 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), hepgorer—“Aruba”“Ffrainc”“Yr Iseldiroedd”“Malta”“Monaco”.
(2) Yn Rhan 2 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), hepgorer—“Ynysoedd Turks a Caicos”.
Darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â rheoliad 2
3 

(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo person (“P”)—
(a) yn cyrraedd Cymru am 4.00 a.m. ar 15 Awst 2020 neu wedi hynny, a
(b) wedi bod mewn gwlad a restrir yn rheoliad 2 ddiwethaf—
(i) o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru, a
(ii) cyn 4.00 a.m. ar 15 Awst 2020.
(2) Mae P, yn rhinwedd y ffaith iddo fod yn y wlad honno, i’w drin at ddibenion rheoliadau 7(1) ac 8(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol fel pe bai wedi cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt, neu fel pe bai wedi cyrraedd ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath.
Ychwanegiadau at y rhestr o ddigwyddiadau chwaraeon penodedig
4 

(1) Mae Atodlen 4 (digwyddiadau chwaraeon penodedig) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 5, ar y diwedd mewnosoder—“
(m) Twrnamaint Golff Agored Iwerddon Dubai Duty Free (Cylchdaith Golff Ewrop);
(n) Twrnamaint Golff Agored Gogledd Iwerddon (Cylchdaith Her Ewrop a gefnogir gan yr R&A).”
(3) Yn lle paragraff 8 rhodder—“
8. 
Rygbi’r Gynghrair—
(a) Gornestau Super League Betfred;
(b) Cwpan Her Rygbi’r Gynghrair.”
(4) Ar y diwedd mewnosoder—“
14. 
Bocsio—
(a) Matchroom Fight Camp – Gornest Ryngwladol Pwysau Trwm;
(b) Matchroom Fight Camp - Teitl Pwysau Trwm y Byd Cyngor Bocsio’r Byd;
(b) Matchroom Fight Camp - Teitl Pwysau Ysgafn y Byd y Menywod Sefydliad Bocsio’r Byd.”
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
Am 3.05 p.m. ar 14 Awst 2020