
2020 Rhif 820 (Cy. 180)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2020
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed am 12.00 p.m. ar 31 Gorffennaf 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru am 4.00 p.m. ar 31 Gorffennaf 2020
Yn dod i rym 3 Awst 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a dod i rym
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2020 a deuant i rym ar 3 Awst 2020.
Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020
2 

(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Hepgorer rheoliad 6.
(3) Yn rheoliad 7—
(a) yn y pennawd, yn lle “eraill” rhodder “penodol”;
(b) ym mharagraff (2)(a), hepgorer “4,”.
(4) Yn rheoliad 9, hepgorer “6(1) neu” yn y ddau le y mae’n digwydd.
(5) Yn rheoliad 12—
(a) ym mharagraff (2)(a)(ii), yn y testun Cymraeg, ar ôl “gynnal” mewnosoder “rhyngddynt”;
(b) ym mharagraff (3), hepgorer is-baragraff (d).
(6) Yn rheoliad 14—
(a) ym mharagraff (1), hepgorer is-baragraff (a);
(b) yn lle’r pennawd rhodder—“
Cyfyngiadau ar gynulliadau o dan do”.
(7) Ar ôl rheoliad 14 mewnosoder—“
Cyfyngiad ar gynulliadau yn yr awyr agored
14A. 

(1) Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad yn yr awyr agored sy’n cynnwys mwy na 30 o bobl.
(2) Mae esgus rhesymol yn cynnwys yr angen i wneud y canlynol—
(a) gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;
(b) pan fo’r person yn athletwr elît, hyfforddi neu gystadlu;
(c) bodloni rhwymedigaeth gyfreithiol;
(d) cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;
(e) cael gafael ar ofal plant neu gymryd rhan mewn gweithgareddau o dan oruchwyliaeth i blant.”
(8) Hepgorer rheoliad 15.
(9) Yn rheoliad 17(2), hepgorer “6(1),”.
(10) Yn rheoliad 18—
(a) ym mharagraff (1), hepgorer “6(1),”;
(b) ym mharagraffau (4) a (6), ar ôl “14(1)” mewnosoder “neu 14A(1)”.
(11) Yn rheoliad 20(1)—
(a) yn is-baragraff (a), hepgorer “6(1),”;
(b) yn is-baragraff (b), ar ôl “14(1)” mewnosoder “neu 14A(1)”.
(12) Yn rheoliad 20(11), yn y testun Cymraeg, yn lle “gronfeydd y” rhodder “asedau’r”.
(13) Hepgorer Atodlen 1.
(14) Yn Atodlen 2—
(a) yn lle paragraff 3 rhodder—“
3. 
Lleoliadau lle y darperir cerddoriaeth fyw neu wedi ei recordio i aelodau’r cyhoedd neu aelodau’r lleoliad ddawnsio.
3A. 
Lleoliadau adloniant rhywiol (o fewn yr ystyr a roddir i “sexual entertainment venue” gan baragraff 2A o Atodlen 3 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982).”;
(b) hepgorer paragraff 4;
(c) ym mharagraff 13 hepgorer “Alïau bowlio a”;
(d) hepgorer paragraff 18.
(15) Yn Atodlen 4, ar ôl paragraff 35 mewnosoder—“
36. 
Bwytai a chaffis (gan gynnwys ffreuturau yn y gweithle ac ystafelloedd bwyta mewn clybiau aelodau).
37. 
Bariau (gan gynnwys bariau mewn clybiau aelodau).
38. 
Tafarndai.
39. 
Neuaddau bingo.
40. 
Alïau bowlio.
41. 
Tai arwerthiant.”
Arbedion ar gyfer troseddau a chosbau mewn perthynas â gweithredoedd blaenorol
3 
Mae rheoliadau 20 ac 21 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 yn parhau i gael effaith mewn perthynas ag unrhyw drosedd a gyflawnir, neu y credir yn rhesymol ei bod wedi ei chyflawni, cyn i’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn ddod i rym fel pe na bai’r diwygiadau hynny wedi eu gwneud.
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
Am 12.00 p.m. ar 31 Gorffennaf 2020