
2020 Rhif 804 (Cy. 177)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020
Gwnaed 25 Gorffennaf 2020
Yn dod i rym 26 Gorffennaf 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 27 Gorffennaf 2020
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, dod i rym a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 26 Gorffennaf 2020.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020.
Diwygiad i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol mewn perthynas â Sbaen
2 
Yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol hepgorer “Sbaen”.
Darpariaeth drosiannol
3 

(1) Mae paragraff (2) yn gymwys i berson (“P”) a—
(a) cyrhaeddodd Cymru ar ôl i’r diwygiad a wneir gan reoliad 2 ddod i rym, a
(b) oedd yn Sbaen ddiwethaf—
(i) o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n gorffen ar y diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru, a
(ii) cyn i’r diwygiad hwnnw ddod i rym.
(2) I osgoi unrhyw amheuaeth, mae P i’w drin at ddibenion rheoliadau 7(1)(b) ac 8(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol fel pe bai wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt pan oedd P yn Sbaen ddiwethaf.
(3) Yn y rheoliad hwn, mae i “gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt” yr un ystyr ag yn rheoliad 9(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
25 Gorffennaf 2020