
2020 Rhif 803 (Cy. 176)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed am 1.50 p.m. ar 24 Gorffennaf 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru am 5.00 p.m. ar 24 Gorffennaf 2020
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2), (3) a (4)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020.
(2) Daw’r rheoliad hwn i rym yn union wedi i’r Rheoliadau gael eu gwneud.
(3) Daw rheoliadau 2 a 4 i rym ar 25 Gorffennaf 2020.
(4) Daw rheoliad 3 i rym ar 27 Gorffennaf 2020.
Diwygiadau sy’n dod i rym ar 25 Gorffennaf 2020
2 

(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Hepgorer rheoliad 8.
(3) Yn rheoliad 9, yn lle “, 7(1) neu 8(1)”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “neu 7(1)”.
(4) Yn rheoliad 12(3), hepgorer is-baragraff (f).
(5) Yn rheoliad 14(2)—
(a) yn is-baragraff (j), hepgorer “hanfodol” a’r geiriau o “, gan gynnwys” hyd at y diwedd;
(b) ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—“
(ja) cael gafael ar ofal plant neu gymryd rhan mewn gweithgareddau o dan oruchwyliaeth i blant;”.
(6) Hepgorer rheoliad 16.
(7) Yn rheoliad 17(2), hepgorer “8(1),”.
(8) Yn rheoliad 18(1), hepgorer “8(1),”.
(9) Yn rheoliad 20(1)(a)—
(a) hepgorer “8(1),”
(b) yn lle “, 12(1) neu 16(1)” rhodder “neu 12(2)”.
(10) Yn Atodlen 1, ym mharagraffau 1, 2(1) a 3, yn lle “Atodlen 3” rhodder “Atodlen 4”.
(11) Yn Atodlen 2, hepgorer paragraff 15.
(12) Hepgorer Atodlen 3.
(13) Yn Atodlen 4—
(a) ym mharagraff 24, hepgorer y geiriau mewn cromfachau;
(b) ar ôl paragraff 26 mewnosoder—“
27. 

(1) Safleoedd gwyliau.
(2) Yn y paragraff hwn, ystyr “safle gwyliau” yw unrhyw dir yng Nghymru lle y gosodir cartref symudol neu garafán at ddibenion byw gan bobl (gan gynnwys unrhyw dir yng Nghymru a ddefnyddir ar y cyd â’r tir hwnnw), y mae’r caniatâd cynllunio perthnasol neu’r drwydded safle ar gyfer y tir mewn cysylltiad ag ef—
(a) wedi ei fynegi i’w roi neu wedi ei mynegi i’w rhoi at ddefnydd gwyliau yn unig, neu
(b) yn ei gwneud yn ofynnol bod adegau o’r flwyddyn pan na chaniateir gosod unrhyw gartref symudol neu garafán ar y safle i bobl fyw ynddo neu ynddi.
(3) At ddibenion penderfynu a yw safle yn safle gwyliau ai peidio, mae unrhyw ddarpariaeth yn y caniatâd cynllunio perthnasol neu yn y drwydded safle sy’n caniatáu gosod cartref symudol ar y tir i bobl fyw ynddo drwy gydol y flwyddyn i’w hanwybyddu os yw wedi ei hawdurdodi i’r canlynol feddiannu’r cartref symudol—
(a) y person sy’n berchennog ar y safle, neu
(b) person sydd wedi ei gyflogi gan y person hwnnw ond nad yw’n meddiannu’r cartref symudol o dan gytundeb y mae Rhan 4 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 yn gymwys iddo.
28. 
Safleoedd gwersylla.
29. 
Gwestai a llety gwely a brecwast.
30. 
Llety gwyliau arall (gan gynnwys fflatiau gwyliau, hostelau a thai byrddio).”
Diwygiadau sy’n dod i rym ar 27 Gorffennaf 2020
3 

(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 1(2) ar ôl “Cymru” mewnosoder “(sydd, at ddibenion Rhan 3, yn cynnwys y gofod awyr uwchben Cymru)”.
(3) Yn rheoliad 2(1), ar ôl is-baragraff (k) mewnosoder—“
(l) ystyr “gorchudd wyneb” yw gorchudd o unrhyw fath sy’n gorchuddio trwyn a cheg person;
(m) ystyr “gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus” yw gwasanaeth a ddarperir ar gyfer cludo teithwyr ar ffordd, ar reilffordd, ar dramffordd, yn yr awyr neu ar y dŵr;
(n) mae “cerbyd” yn cynnwys cerbyd awyr, car cebl, trên, tram a llestr.”
(4) Yn rheoliad 7(2)—
(a) yn is-baragraff (a), hepgorer “1,”;
(b) hepgorer is-baragraff (d).
(5) Yn rheoliad 10—
(a) hepgorer paragraffau (1) i (3);
(b) yn y pennawd, yn lle “amlosgfeydd a chanolfannau” rhodder “canolfannau”.
(6) Yn rheoliad 12—
(a) ym mharagraff (3)(g), hepgorer “y caniateir iddynt fod ar agor yn rhinwedd rheoliad 10(2)”;
(b) ym mharagraff (4), yn lle “gwasanaeth ar gyfer cludo teithwyr ar ffyrdd, rheilffyrdd, tramffordd, awyr neu fôr” rhodder “gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus”.
(7) Ar ôl rheoliad 12 mewnosoder—“
Gofyniad i wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus
12A. 

(1) Rhaid i berson (“P”) sy’n teithio fel teithiwr mewn cerbyd a ddefnyddir i ddarparu gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus wisgo gorchudd wyneb.
(2) Ond nid yw hyn yn ofynnol—
(a) pan fo esemptiad yn gymwys o dan baragraff (3);
(b) pan fo gan P esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb, ac o ran hynny gweler paragraff (4).
(3) Mae esemptiad i’r gofyniad i wisgo gorchudd wyneb yn gymwys—
(a) pan fo P yn blentyn o dan 11 oed;
(b) mewn cerbyd sy’n darparu gwasanaeth cludiant i’r ysgol;
(c) ar fferi—
(i) pan fo’r rhan o’r fferi sydd ar agor i deithwyr yn yr awyr agored yn gyfan gwbl, neu
(ii) pan ellir cynnal pellter o 2 fetr o leiaf rhwng personau ar y rhan o’r fferi sydd ar agor i deithwyr;
(d) ar long fordeithio;
(e) pan ddyrennir caban, man cysgu neu lety tebyg arall i P yn y cerbyd, ar unrhyw adeg pan yw P yn y llety hwnnw—
(i) ar ei ben ei hunan, neu
(ii) gydag aelodau o aelwyd P neu ofalwr i aelod o’r aelwyd yn unig;
(f) pan—
(i) caniateir i P, neu pan fo’n ofynnol fel arfer i P, fynd i gerbyd ac aros ynddo wrth ddefnyddio’r gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus,
(ii) na fo’r cerbyd ei hunan yn cael ei ddefnyddio ar gyfer darparu gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus, a
(iii) bo P yn aros yn y cerbyd hwnnw;
(g) ar gerbyd awyr na chychwynnodd o fan yng Nghymru, nac sydd i lanio mewn man yng Nghymru;
(h) ar lestr nad yw’n docio mewn porthladd yng Nghymru.
(4) Mae’r amgylchiadau pan fo gan P esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb yn cynnwys—
(a) pan na fo P yn gallu rhoi gorchudd am ei wyneb, neu wisgo neu dynnu gorchudd wyneb, oherwydd salwch neu nam corfforol neu feddyliol, neu anabledd (o fewn yr ystyr a roddir i “disability” yn adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010);
(b) pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb er mwyn cyfathrebu â pherson arall sy’n cael anhawster i gyfathrebu (mewn perthynas â lleferydd, iaith neu fel arall);
(c) pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb er mwyn osgoi niwed neu anaf, neu’r risg o niwed neu anaf, i P ei hunan neu i eraill;
(d) pan fo P yn teithio i osgoi anaf, neu i ddianc rhag risg o niwed, ac nad oes gan P orchudd wyneb;
(e) pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb i—
(i) cymryd meddyginiaeth;
(ii) bwyta neu yfed, os caniateir gwneud hyn yn y cerbyd a’i bod yn rhesymol angenrheidiol (er enghraifft oherwydd hyd y daith);
(f) pan ofynnir i P dynnu’r gorchudd wyneb gan—
(i) swyddog gorfodaeth, neu
(ii) gweithredwr y gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus, cyflogai i’r gweithredwr neu berson sydd wedi ei awdurdodi gan y gweithredwr.
(5) Rhaid i weithredwr gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus y mae paragraff (1) yn gymwys iddo ddarparu gwybodaeth i deithwyr am y gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb yn ei gerbydau.
(6) At ddibenion y rheoliad hwn ystyr “gwasanaeth cludiant i’r ysgol” yw unrhyw wasanaeth cludiant nad yw ond yn cael ei ddarparu at ddiben—
(a) cludo person i’r ysgol ac o’r ysgol neu’r man arall y mae’r person yn cael addysg neu hyfforddiant ynddo, neu
(b) hwyluso fel arall bresenoldeb person mewn ysgol neu fan arall y mae’r person yn cael addysg neu hyfforddiant ynddo.”
(8) Yn rheoliad 13—
(a) ar ôl paragraff (1) mewnosoder—“
(1A) Rhaid i weithredwr gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus y mae rheoliad 12A yn gymwys iddo roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynghylch—
(a) y gofyniad i wisgo gorchudd wyneb yn unol â pharagraffau (1) i (4) o reoliad 12A a gorfodi’r gofyniad hwnnw o dan reoliad 18;
(b) darparu gwybodaeth i deithwyr yn unol â pharagraff (5) o reoliad 12A.”;
(b) ym mharagraff (2)(a) ar ôl “baragraff (1)” mewnosoder “neu (1A)”.
(9) Yn rheoliad 14—
(a) ym mharagraff (2), yn lle is-baragraffau (m) ac (n) rhodder—“
(m) ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;”;
(b) hepgorer paragraff (4).
(10) Yn rheoliad 17(2), yn lle “10(1) neu (4)” rhodder “10(4)”.
(11) Yn rheoliad 18—
(a) ym mharagraff (1), yn lle “10(1) neu (4) neu 12(2)” rhodder “10(4), 12(2) neu 12A(5)”;
(b) ar ôl paragraff (3) mewnosoder—“
(3A) Os oes gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) yn torri (neu ar fin torri) rheoliad 12A(1), caiff y swyddog—
(a) cyfarwyddo P i beidio â mynd i’r cerbyd sy’n darparu’r gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus o dan sylw;
(b) tynnu P o’r cerbyd, a chaiff ddefnyddio grym rhesymol, os bydd angen, i wneud hynny.
(3B) Os oes gan weithredwr gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus, cyflogai i’r gweithredwr neu berson sydd wedi ei awdurdodi gan y gweithredwr, sail resymol dros amau bod person (“P”) ar fin torri rheoliad 12A(1), caiff y gweithredwr, y cyflogai neu’r person awdurdodedig gyfarwyddo P i beidio â mynd i’r cerbyd sy’n darparu’r gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus o dan sylw.”;
(c) ar ôl paragraff (6) mewnosoder—“
(6A) Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros gredu bod plentyn yn methu â chydymffurfio â’r gofyniad yn rheoliad 12A(1), caiff y swyddog gyfarwyddo unrhyw unigolyn a chanddo gyfrifoldeb dros y plentyn i sicrhau, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, fod y plentyn yn cydymffurfio â’r gofyniad.”;
(d) ym mharagraff (7) ar ôl “paragraff (6)” mewnosoder “a (6A)”.
(12) Yn rheoliad 20—
(a) ym mharagraff (1)(a)—
(i) yn lle “10(1) neu (4)” rhodder “10(4)”;
(ii) ar ôl “12(2)” mewnosoder “neu 12A(1)”;
(b) ym mharagraff (3)—
(i) yn is-baragraff (a), ar ôl “reoliad” mewnosoder “18(3A)(a),”;
(ii) hepgorer y “neu” ar ôl is-baragraff (a);
(iii) ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—“
(aa) yn torri cyfarwyddyd a roddir gan weithredwr gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus, cyflogai i’r gweithredwr neu berson sydd wedi ei awdurdodi gan y gweithredwr, o dan reoliad 18(3B), neu”.
(13) Yn Atodlen 2—
(a) hepgorer paragraffau 1, 7, 8 a 9;
(b) ym mharagraff 13, hepgorer “, arcedau diddanu”;
(c) hepgorer paragraff 14.
(14) Yn Atodlen 4—
(a) yn lle paragraff 22 rhodder—“
22. 
Sinemâu.”;
(b) ar ôl paragraff 30 mewnosoder—“
31. 
Parlyrau tylino.
32. 
Salonau ewinedd a harddwch.
33. 
Sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau lliw haul, tyllu’r corff, tatŵio, electrolysis neu aciwbigo.
34. 
Arcedau diddanu.
35. 
Amgueddfeydd, orielau a gwasanaethau archifau.”
Arbedion ar gyfer troseddau a chosbau mewn perthynas â gweithredoedd blaenorol
4 
Mae rheoliadau 20 ac 21 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 yn parhau i gael effaith mewn perthynas ag unrhyw drosedd a gyflawnir, neu y credir yn rhesymol ei bod wedi ei chyflawni, cyn i’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn ddod i rym fel pe na bai’r diwygiadau hynny wedi eu gwneud.
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
Am 1.50 p.m. ar 24 Gorffennaf 2020