
2020 Rhif 745 (Cy. 168)
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) (Diwygio) 2020
Gwnaed 16th Gorffennaf 2020
Yn dod i rym 24th Awst 2020

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 303(1), (2), (5) a (6) a 333(2A) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 333(3E) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) (Diwygio) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 24 Awst 2020.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2015” (“the 2015 Regulations”) yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) 2015.
Cynnydd mewn ffioedd
2 

(1) Mae Rheoliadau 2015 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 11 (ffioedd am geisiadau am dystysgrifau defnydd neu ddatblygiad cyfreithlon)—
(a) ym mharagraff 3(b), yn lle “£190”, rhodder “£230”;
(b) ym mharagraff 6(a), yn lle “£380”, rhodder “£460”; ac
(c) ym mharagraff 6(b), yn lle “£19,000”, rhodder “£23,000”, yn lle “£100”, rhodder “£120” ac yn lle “£287,500”, rhodder “£300,000”.
(3) Ym mharagraff 1 o reoliad 13 (ffioedd am geisiadau penodol o dan y Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir)—
(a) yn is-baragraff (a), yn lle “£80”, rhodder “£100”; a
(b) yn is-baragraff (b), yn lle “£380”, rhodder “£460”.
(4) Yn rheoliad 14 (ffioedd mewn cysylltiad â monitro safleoedd mwyngloddio a thirlenwi)—
(a) ym mharagraff 4, yn lle “£330”, rhodder “£400”; a
(b) ym mharagraff 5, yn lle “£110”, rhodder “£135”.
(5) Ym mharagraff 1 o reoliad 15 (ffioedd am geisiadau a wneir o dan amod cynllunio)—
(a) yn is-baragraff (a), yn lle “£30”, rhodder “£35”; a
(b) ym mharagraff (b), yn lle “£95”, rhodder “£115”.
(6) Ym mharagraff 1 o reoliad 16 (ffioedd am geisiadau am newidiadau ansylweddol i ganiatâd cynllunio—
(a) yn is-baragraff (a), yn lle “£30”, rhodder “£35”; a
(b) yn is-baragraff (b), yn lle “£95”, rhodder “£115”.
(7) Ym mharagraff 3 o reoliad 16A (ffioedd am ddiwygiadau ar ôl cyflwyno, i geisiadau am ddatblygiad mawr), yn lle “£190”, rhodder “£230”.
(8) Yn Rhan 1 o Atodlen 1 (ffioedd mewn cysylltiad â cheisiadau a cheisiadau tybiedig am ganiatâd cynllunio neu am gymeradwyaeth ar gyfer materion a gadwyd yn ôl)—
(a) ym mharagraffau 3(1), 4(2) a 4(3), yn lle “£385”, rhodder “£460”;
(b) ym mharagraff 5, yn lle “£190”, rhodder “£230”;
(c) ym mharagraff 5A(3) —
(i) ym mharagraff (a), yn lle “£160”, rhodder “£190”; a
(ii) ym mharagraff (b), yn lle “£95”, rhodder “£115”;
(d) ym mharagraffau 6(b) a 7, yn lle “£190”, rhodder “£230”; ac
(e) ym mharagraff 13(2)—
(i) ym mharagraff (a), yn lle “£380”, rhodder “£460”; a
(ii) ym mharagraff (b), yn lle “£9,500”, rhodder “£11,500”, yn lle “£100”, rhodder “£120”, ac yn lle “£143,750”, rhodder “£150,000”.
(9) Yn Rhan 2 o Atodlen 1 (graddfa ffioedd mewn cysylltiad â cheisiadau a wnaed neu y tybir iddynt gael eu gwneud), yn y golofn “Ffi daladwy” yn y tabl, yn lle unrhyw ffi o swm a bennir yng Ngholofn 1 o’r tabl isod, rhodder y swm uwch a bennir yng Ngholofn 2.

Colofn 1 - swm mewn £ a bennir yn y tabl graddfa ffioedd yn Rhan 2 o Atodlen 1 i Reoliadau 2015 Colofn 2 - swm uwch
£70 £85
£100 £120
£190 £230
£380 £460
£385 £460
£2,150 £2,600
£9,500 £11,500
£19,000 £23,000
£28,500 £34,500
£74,800 £80,000
£143,750 £150,000
£287,500 £300,000
(10) Yn Atodlen 2 (ffioedd am hysbysebion graddfa ffioedd mewn cysylltiad â cheisiadau am ganiatâd i arddangos hysbysebion) yn y Tabl—
(a) ym mharagraffau 1 a 2, yn yr ail golofn, yn lle “£100”, rhodder “£120”; a
(b) ym mharagraff 3, yn yr ail golofn, yn lle “£380”, rhodder “£460”.
Ffioedd am geisiadau am dystysgrifau datblygiad arall priodol
3 

(1) Mae Rheoliadau 2015 wedi eu diwygio ymhellach fel a ganlyn.
(2) Ar ôl rheoliad 16A, mewnosoder—“
Ffioedd am geisiadau am dystysgrifau datblygiad arall priodol
16B 

(1) Pan wneir cais i awdurdod cynllunio lleol o dan adran 17 o Ddeddf Digollediad Tir 1961 (tystysgrifau datblygiad arall priodol), rhaid talu ffi i’r awdurdod hwnnw.
(2) Y ffi sy’n daladwy mewn cysylltiad â chais y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo yw £230.
(3) Pan wneir cais gan neu ar ran cyngor cymuned, y ffi sy’n daladwy yw hanner y swm a fyddai’n daladwy fel arall.
(4) Rhaid i’r ffi mewn cysylltiad â chais y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo fynd gyda’r cais pan gyflwynir ef i’r awdurdod cynllunio lleol.
(5) Os nad yr awdurdod cynllunio lleol sy’n cael y ffi yn unol â pharagraffau (1) i (4) yw’r awdurdod cynllunio lleol sy’n gorfod penderfynu’r cais, rhaid iddo anfon y ffi at yr awdurdod hwnnw yr un pryd ag y bydd yn anfon y cais ymlaen ato.
(6) Rhaid ad-dalu unrhyw ffi a delir yn unol â’r rheoliad hwn os gwrthodir y cais ar y sail ei fod yn annilys.”
Darpariaeth Drosiannol
4 

(1) Yn y rheoliad hwn mae i “ymweliad safle” yr ystyr a roddir yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 2015.
(2) Nid yw rheoliad 2 yn gymwys i—
(a) ceisiadau a wnaed cyn y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym;
(b) ceisiadau a tybir eu bod wedi eu gwneud yn rhinwedd adran 177(5) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (rhoi neu addasu caniatâd cynllunio ar apelau yn erbyn hysbysiadau gorfodi) mewn cysylltiad â hysbysiad gorfodi a ddyroddir o dan adran 172 o’r Ddeddf honno cyn y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym;
(c) ymweliadau safle a gynhelir cyn y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym;
(d) diwygiadau a gyflwynir cyn y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym.
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Lleol, un o Weinidogion Cymru

16 Gorffennaf 2020