
2020 Rhif 729 (Cy. 164)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Llacio’r Gofynion Adrodd mewn Ysgolion (Cymru) (Coronafeirws) 2020
Gwnaed 13 Gorffennaf 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 15 Gorffennaf 2020
Yn dod i rym 7 Awst 2020
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 29(3) a (5), 408(1), 537(1), (4) a (7), 537A(1), (2) a (3) a 569(4) o Ddeddf Addysg 1996, adrannau 19(1) a 54(3) o Ddeddf Addysg 1997 ac adrannau 63(1) a 138(7) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, a thrwy arfer y pwerau a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 30(1) a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, ac ar ôl ymgynghori â’r personau hynny yr oedd ymgynghori â hwy yn ymddangos yn ddymunol i Weinidogion Cymru yn unol ag adran 408(5) o Ddeddf Addysg 1996, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llacio’r Gofynion Adrodd mewn Ysgolion (Cymru) (Coronafeirws) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 7 Awst 2020.
Diwygio Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2011
2 

(1) Mae Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2011 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl rheoliad 1 mewnosoder—“
Datgymhwyso gofynion penodol ar gyfer y flwyddyn ysgol 2019-2020
1A. 
Ni chaniateir i’r wybodaeth a bennir ym mharagraffau 6, 7 ac 8(b) o Atodlen 2 ac sy’n ymwneud â’r flwyddyn ysgol 2019-2020 gael ei chynnwys mewn unrhyw adroddiad llywodraethwyr.”
(3) Mae paragraff 10 o Atodlen 2 wedi ei ddirymu.
Diwygio Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2011
3 
Ar ôl rheoliad 1 o Reoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2011 mewnosoder—“
Addasu dyletswyddau ar gyfer y flwyddyn ysgol 2019-2020
1A. 
Mae unrhyw ddyletswydd a osodir ar bennaeth gan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â’r flwyddyn ysgol 2019-2020, ac eithrio’r ddyletswydd yn rheoliad 5(1), i’w thrin fel pe bai wedi ei chyflawni os yw’r pennaeth wedi gwneud ymdrechion rhesymol i gyflawni’r ddyletswydd.”
Diwygio Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion (Cymru) 2011
4 
Ar ôl rheoliad 1 o Reoliadau Gwybodaeth Ysgolion (Cymru) 2011 mewnosoder—“
Datgymhwyso dyletswyddau penodol ar gyfer y flwyddyn ysgol 2019-2020
1A. 
Ni chaniateir i’r wybodaeth a bennir ym mharagraff 30 o Atodlen 3 ac sy’n ymwneud â’r flwyddyn ysgol 2019-2020 gael ei chynnwys mewn unrhyw brosbectws ysgol.”
Dirymu Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) 2011
5 
Mae’r canlynol wedi eu dirymu—
(a) Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) 2011,
(b) rheoliad 13 o Reoliadau Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016,
(c) rheoliad 6 o Reoliadau Addysg (Diwygiadau sy’n Ymwneud â Gwybodaeth Asesiadau Athrawon) (Cymru) 2018, a
(d) Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) (Diwygio) 2019.
Diwygio Rheoliadau Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion (Cymru) 2011
6 

(1) Mae Rheoliadau Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion (Cymru) 2011 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl rheoliad 1 mewnosoder—“
Datgymhwyso dyletswyddau penodol ar gyfer y flwyddyn ysgol 2019-2020
1A. 
Ni chaiff yr wybodaeth a ddarperir yn unol â rheoliadau 5, 6 ac 8 gynnwys unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â’r flwyddyn ysgol 2019-2020.”
(3) Yn rheoliadau 4, 5 a 6, ar ôl “bob blwyddyn” mewnosoder “ysgol”.
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
13 Gorffennaf 2020