
2020 Rhif 726 (Cy. 163)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) 2020
Gwnaed am 3.45 p.m. ar 10 Gorffennaf 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru am 6.00 p.m. ar 10 Gorffennaf 2020
Yn dod i rym 11 Gorffennaf 2020
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, dod i rym a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 11 Gorffennaf 2020.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020.
Diwygiad i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020
2 

(1) Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Rhan 1 o Atodlen 3 (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), hepgorer “Serbia”.
Personau sy’n gadael Serbia ar 10 Gorffennaf 2020
3 

(1) At ddibenion rheoliad 7(1)(b) ac 8(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, nid yw person sy’n cyrraedd Cymru wedi i’r Rheoliadau hyn ddod i rym i’w drin fel pe bai wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt yn ystod y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae’r person yn cyrraedd Cymru os—
(a) yw’r person yn gadael Serbia ar 10 Gorffennaf 2020, a
(b) nad yw wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth arall nad yw’n esempt yn ystod y cyfnod hwnnw o 14 o ddiwrnodau.
(2) Yn y rheoliad hwn, mae i “gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt” yr un ystyr ag yn rheoliad 9(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
Am 3.45 p.m. ar 10 Gorffennaf 2020