
2020 Rhif 723 (Cy. 161)
Cefn Gwlad, Cymru
Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Fforymau Mynediad Lleol) (Cymru) (Coronafeirws) 2020
Gwnaed 9 Gorffennaf 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 13 Gorffennaf 2020
Yn dod i rym 4 Awst 2020
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 94 a 95(5) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000.
Enwi, cymhwyso, cychwyn, dod i ben a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Fforymau Mynediad Lleol) (Cymru) (Coronafeirws) 2020. Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 4 Awst 2020.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn, ac eithrio rheoliad 6 a’r rheoliad hwn, yn peidio â chael effaith ar 30 Ebrill 2021.
(3) Mae rheoliad 6 a’r rheoliad hwn yn peidio â chael effaith ddwy flynedd ar ôl dod i rym.
(4) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2001” yw Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Fforymau Mynediad Lleol) (Cymru) 2001.
Cyfarfodydd a gynhelir cyn diwedd 30 Ebrill 2021
2 
Mae Rheoliadau 2001 i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl rheoliad 2—“
Mynychu cyfarfodydd o bell
2A. 

(1) Caniateir i gyfarfod o fforwm neu bwyllgor o fforwm gael ei gynnal drwy gyfrwng unrhyw gyfarpar neu gyfleuster arall sy’n galluogi personau nad ydynt yn yr un lle i siarad â’i gilydd a chlywed ei gilydd (pa un a yw’r cyfarpar neu’r cyfleuster hefyd yn galluogi’r personau hynny i weld ei gilydd ai peidio).
(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriadau at y ffaith bod person yn mynychu cyfarfod neu’n bresennol mewn cyfarfod yn cynnwys, mewn perthynas â chyfarfod a gynhelir drwy’r cyfrwng a ddisgrifir ym mharagraff (1), mynychu drwy ddefnyddio’r cyfrwng hwnnw.”
3 
Mae Rheoliadau 2001 i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl rheoliad 7—“
Darpariaethau ar gyfer penodiadau dros dro
7A. 

(1) Mae’r darpariaethau a ganlyn yn ymwneud â phenodiad a wneir yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod daw’r rheoliadau hyn i rym ac sy’n dod i ben ar ddiwedd 30 Ebrill 2021.
(2) Mae rheoliad 7 wedi ei addasu fel a ganlyn.
(a) Mae rheoliad 7 i’w ddarllen fel pe bai “, rhaid i awdurdod penodi” wedi ei ddileu.
(b) Mae rheoliadau 7(a) i’w ddarllen fel pe bai “caiff awdurdod penodi” wedi ei ychwanegu ar y cychwyn.
(c) Mae rheoliad 7(b) i’w ddarllen fel pe bai “caiff awdurdod penodi roi” wedi ei roi yn lle “rhoi”.
(d) Mae rheoliad 7(c) i’w ddarllen fel pe bai “caiff awdurdod penodi wahodd” wedi ei roi yn lle “gwahodd”.
(e) Mae rheoliad 7(ch) i’w ddarllen fel pe bai “rhaid i awdurdod penodi gymryd” wedi ei roi yn lle “cymryd”.
(f) Mae rheoliad 7(d) i’w ddarllen fel pe bai “rhaid i awdurdod penodi” wedi ei ychwanegu ar y cychwyn.
(g) Mae rheoliad 7(dd) i’w ddarllen fel pe bai “rhaid i awdurdod penodi roi” wedi ei roi yn lle “rhoi”.
(3) Os nad yw awdurdod penodi yn arfer y naill neu’r llall o’r pwerau yn rheoliadau 7(a) a (b), neu’r ddau ohonynt, mae rheoliad 4(3) i’w ddarllen fel pe bai’r geiriau “naw mis i ben sy’n dechrau gyda diwrnod cyntaf aelodaeth y person” wedi eu rhoi yn lle’r geiriau “dair blynedd i ben o ddyddiad cyfarfod cyntaf y fforwm”. ”
4 
Mae rheoliad 10(2)(c) (papurau ar gyfer cyfarfodydd) i’w ddarllen, mewn perthynas â chyfarfod a gynhelir cyn diwedd 30 Ebrill 2021, fel pe bai’r geiriau “yn cael eu hanfon drwy’r post at bob aelod o’r fforwm yn y cyfeiriad hwnnw a bennir gan aelod at y diben, fel y cyflwynir hwy yn ôl y drefn bostio arferol o leiaf saith diwrnod clir cyn dyddiad cyfarfod; neu’n cael eu hanfon ar ffurf electronig at bob aelod o leiaf saith diwrnod clir cyn dyddiad cyfarfod” wedi eu rhoi yn lle’r geiriau o “yn cael eu cyflwyno” hyd at y diwedd.
5 
Mae rheoliad 12 (ethol cadeirydd a dirprwy gadeirydd) i’w ddarllen fel pe bai—
(a) ym mharagraff (2), “gan ddefnyddio unrhyw weithdrefn y mae’r fforwm yn penderfynu arni” wedi ei roi yn lle “drwy bleidlais gyfrinachol”;
(b) paragraffau (4) i (6) wedi eu hepgor.
6 
Mae rheoliad 15 (cynnal cyfarfodydd) i’w ddarllen fel pe bai—
(a) ym mharagraff (2), y geiriau “ac os yw’r cyfarfod yn agored i’r cyhoedd, caiff y person sy’n llywyddu, os yw eitem benodol o fusnes sydd i’w hystyried yn y cyfarfod yn ei gwneud yn briodol i’r cyhoedd gael ei wahardd pan ystyrir yr eitem fusnes honno, ddyfarnu bod y cyhoedd i’w wahardd” wedi eu rhoi yn lle’r geiriau o “a rhaid iddynt fod yn agored i’r cyhoedd” hyd at y diwedd;
(b) y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (2)—“
(2A) Ym mharagraffau (1) a (2), nid yw’r cyfeiriadau at y lle y cynhelir cyfarfodydd wedi eu cyfyngu i un lleoliad ffisegol.”;
(c) ym mharagraff (10), “, neu drwy unrhyw ddull pleidleisio arall y mae’r fforwm yn penderfynu arno” wedi ei fewnosod ar ôl “drwy i’r aelodau sy’n bresennol godi llaw”;
(d) y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (10)—“
(11) Os yw’n angenrheidiol cynnal pleidlais ar gwestiwn y dull pleidleisio y mae’r fforwm i’w ddefnyddio, mae’r person sy’n llywyddu i benderfynu ar y dull o bleidleisio ar y cwestiwn hwnnw.”
Aelodau yn methu â mynychu cyfarfodydd
7 
Mae rheoliad 14 o Reoliadau 2001 (terfynu aelodaeth o fforymau) i’w ddarllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (1)—“
(1A) Mewn perthynas ag unrhyw aelod penodol o fforwm, nid yw’r cyfnod o 12 mis a bennir ym mharagraff (1)(e) i gynnwys y cyfnod—
(a) sy’n dechrau â’r diwrnod y mae Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Fforymau Mynediad Lleol) (Cymru) (Coronafeirws) 2020 yn dod i rym (“Diwrnod Un”), a
(b) sy’n dod i ben â’r diwrnod cyntaf ar ôl Diwrnod Un pan gynhelir cyfarfod o’r fforwm, neu unrhyw bwyllgor o’r fforwm.”
Adroddiadau blynyddol gan awdurdodau penodi
8 
Mae rheoliad 16 o Reoliadau 2001 (adroddiadau blynyddol) i’w ddarllen fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle paragraff (3)—“
(3) Rhaid i’r awdurdod penodi gyhoeddi adroddiad blynyddol a gymeradwyir ar ôl 31 Mawrth 2020 a chyn diwedd 30 Ebrill 2021 ar ei wefan.”
Hannah Blythyn
Y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, o dan awdurdod y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
9 Gorffennaf 2020