
2020 Rhif 714 (Cy. 160)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020
Gwnaed am 10.20 a.m. ar 9 Gorffennaf 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru am 4.00 p.m. ar 9 Gorffennaf 2020
Yn dod i rym 10 Gorffennaf 2020
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
RHAN 1 Cyffredinol
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 10 Gorffennaf 2020.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd” (“the Public Health Information Regulations”) yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020;
 ystyr “y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” (“the International Travel Regulations”) yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020.
RHAN 2 Diwygiadau i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol
Esemptiad rhag y gofyniad gwybodaeth i gategorïau penodol o weithwyr
3 

(1) Yn Rhan 2 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gofyniad i ddarparu gwybodaeth), mae rheoliad 3 wedi ei ddiwygio yn unol â pharagraffau (2) a (3).
(2) Ym mharagraff (2), yn lle “person a ddisgrifir yn Rhan 1 o Atodlen 2” rhodder“
—
(a) person a ddisgrifir yn Rhan 1 o Atodlen 2,
(b) person a ddisgrifir ym mharagraff 12(1)(b) o Atodlen 2 (gweithwyr gweithredol, cynnal a chadw a diogelwch sy’n gweithio ar Dwnnel y Sianel), neu
(c) person a ddisgrifir ym mharagraff (3), y mae’r amod ym mharagraff (4) wedi ei fodloni mewn cysylltiad ag ef.
”
(3) Ar ôl paragraff (2) mewnosoder—“
(3) Y disgrifiadau o bersonau yw—
(a) person sy’n weithiwr cludiant teithwyr ffyrdd, o fewn ystyr paragraff 6 o Atodlen 2;
(b) person a ddisgrifir ym mharagraff 7 o Atodlen 2 (meistri a morwyr);
(c) person a ddisgrifir ym mharagraff 8 o Atodlen 2 (peilotiaid ar longau masnach);
(d) person a ddisgrifir ym mharagraff 9 o Atodlen 2 (arolygwyr a syrfewyr llongau);
(e) person a ddisgrifir ym mharagraff 10 o Atodlen 2 (criw awyren);
(f) person a ddisgrifir ym mharagraff 12(1)(a) neu (c) o Atodlen 2 (gyrwyr, criw a phersonau eraill sy’n cyflawni swyddogaethau hanfodol mewn cysylltiad â Thwnnel y Sianel).
(4) Mae’r amod a grybwyllir ym mharagraff (2)(c) wedi ei fodloni mewn perthynas â pherson os nad yw’r person, ar ei daith i Gymru, ond wedi teithio—
(a) ar long neu awyren nad yw’n cludo teithwyr;
(b) mewn rhan o long neu awyren nad yw teithwyr yn cael mynd iddi.”
Esemptiad rhag y gofyniad i ynysu i bersonau sy’n teithio o wledydd a thiriogaethau penodol y tu allan i’r ardal deithio gyffredin
4 

(1) Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gofyniad i ynysu etc.) wedi ei diwygio yn unol â pharagraffau (2) i (5).
(2) Yn rheoliad 7 (gofyniad i ynysu: cyrraedd o fan y tu allan i’r Deyrnas Unedig)—
(a) ym mharagraff (1)(a), yn lle “fan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin” rhodder “wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt”;
(b) ym mharagraff (1)(b)(i), yn lle “Weriniaeth Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw” rhodder “wlad neu diriogaeth esempt nad yw’n rhan o’r Deyrnas Unedig”;
(c) ym mharagraff (1)(b)(ii), yn lle “sydd wedi cyrraedd yr ardal deithio gyffredin o fan y tu allan i’r ardal honno” rhodder “sydd wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt”.
(3) Yn rheoliad 8 (gofyniad i ynysu: cyrraedd o ran arall o’r Deyrnas Unedig), ym mharagraff (1)(b), yn lle “cyrraedd yr ardal deithio gyffredin o fan y tu allan i’r ardal honno” rhodder “bod mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt”.
(4) Yn rheoliad 9 (gofynion ynysu: esemptiadau)—
(a) mae’r testun presennol yn dod yn baragraff (2);
(b) o flaen y paragraff hwnnw mewnosoder—“
(1) At ddibenion y Rhan hon, ystyr “gwlad neu diriogaeth esempt” yw—
(a) gwlad neu diriogaeth o fewn yr ardal deithio gyffredin;
(b) gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3;
ac mae unrhyw gyfeiriad at “gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt” i’w ddehongli yn unol â hynny.”
(5) Yn rheoliad 12 (ystyr “diwrnod olaf yr ynysu” yn Rhan 3), yn lle “y cyrhaeddodd P yn yr ardal deithio cyffredin o fan y tu allan i’r ardal honno” rhodder “yr oedd P mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt ddiwethaf”.
(6) Yn Rhan 1 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (darpariaeth sy’n gymwys yn gyffredinol), yn rheoliad 2 (dehongli), ar ôl paragraff (3) mewnosoder—“
(4) At ddibenion y Rheoliadau hyn, nid yw person sy’n cyrraedd gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt (o fewn ystyr rheoliad 9(1)) ar long neu awyren i’w drin fel pe bai wedi bod yn y man hwnnw oni bai—
(a) bod y person yn dod oddi ar y llong neu’r awyren pan fo yn y man, neu
(b) pan na fo’r person yn dod oddi ar y llong neu’r awyren pan fo yn y man, bod unrhyw deithwyr eraill yn mynd ar y llong neu’r awyren yn y man.”
(7) Yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwybodaeth am deithiwr), ar ôl paragraff 2(i) mewnosoder—“
(ia) unrhyw wlad neu diriogaeth arall y bydd P ynddi, neu y mae P wedi bod ynddi, yn ystod y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae P yn cyrraedd y Deyrnas Unedig, neu y mae’n bwriadu cyrraedd y Deyrnas Unedig,
(ib) pan fo is-baragraff (ia) yn gymwys, y dyddiadau yr oedd P yn y wlad neu’r diriogaeth arall neu y bydd P yn y wlad neu’r diriogaeth arall,”.
(8) Mae paragraff 1 o’r Atodlen yn ychwanegu Atodlen 3 newydd i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
Eithriadau i’r gofynion ynysu: personau sy’n ymwneud â gweithgareddau chwaraeon penodol
5 

(1) Mae rheoliad 10 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (eithriadau i’r gofynion ynysu) wedi ei ddiwygio yn unol ag is-baragraffau (a) i (c)—
(a) ym mharagraff (3)—
(i) yn y testun Cymraeg yn unig, yn lle’r geiriau o “i’r Deyrnas Unedig” hyd y diwedd rhodder “i Gymru dros dro at ddiben a awdurdodir gan baragraff (4)(b) i (k).”;
(ii) yn y testun Saesneg yn unig, yn lle “(j)” rhodder “(k)”;
(b) ar ôl paragraff (4)(j) mewnosoder—“
(ja) pan fo P yn cystadlu mewn digwyddiad chwaraeon a bennir yn Atodlen 4 neu’n darparu hyfforddiant neu gymorth arall i berson sy’n cystadlu mewn digwyddiad o’r fath, i gymryd rhan yn y digwyddiad neu i ymgymryd â hyfforddiant neu weithgareddau eraill sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad;
(jb) pan fo P yn gwasanaethu fel swyddog mewn digwyddiad chwaraeon o’r fath, neu’n ymwneud â’i gynnal, i fynd i’r digwyddiad neu i ymgymryd â gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwasanaethu fel swyddog neu gynnal y digwyddiad;
(jc) pan fo P, yng nghwrs ei waith, yn ymwneud â darlledu digwyddiad chwaraeon o’r fath, i fynd i’r digwyddiad at ddiben y darllediad neu i ymgymryd â gweithgareddau paratoi sy’n gysylltiedig â darlledu’r digwyddiad;
(jd) pan fo P, yng nghwrs ei waith, yn ymwneud â gweithgarwch newyddiadurol mewn digwyddiad chwaraeon o’r fath, i fynd i’r digwyddiad at ddiben ymgymryd â’r gweithgarwch hwnnw;
(je) pan fo P yn athletwr elît sy’n preswylio yng Nghymru ac yn dychwelyd o gystadleuaeth elît dramor, i hyfforddi neu gystadlu;
(jf) pan fo P yn darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît sy’n preswylio yng Nghymru a bod P yn dychwelyd o gystadleuaeth elît dramor pan oedd P yn darparu hyfforddiant neu gymorth arall o’r fath i athletwr, i ddarparu’r hyfforddiant neu’r cymorth arall hwnnw;
(jg) pan fo P yn dychwelyd o gystadleuaeth elît dramor yr oedd P yn gwasanaethu fel swyddog ynddi, neu’n ymwneud â’i chynnal, i wasanaethu fel swyddog mewn cystadleuaeth elît ddomestig neu i ymwneud â’i chynnal;”
(c) ym mharagraff (8)—
(i) yn y testun Cymraeg yn unig, mae’r testun presennol sy’n ymddangos ar ôl y geiriau “y rheoliad hwn—” yn dod yn is-baragraff (a),
(ii) ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—“
(b) ystyr “cystadleuaeth elît ddomestig” yw cystadleuaeth elît sy’n cael ei chynnal yn y Deyrnas Unedig;
(c) ystyr “cystadleuaeth elît” yw cystadleuaeth chwaraeon lle y mae unrhyw un neu ragor o’r cyfranogwyr yn cystadlu—
(i) i ennill bywoliaeth, neu
(ii) i gymhwyso ar gyfer y Gemau Olympaidd, y Gemau Paralympaidd neu Gemau’r Gymanwlad, neu fel rhan o broses ddethol ar gyfer hynny;
(d) ystyr “cystadleuaeth elît dramor” yw cystadleuaeth elît sy’n cael ei chynnal y tu allan i’r Deyrnas Unedig; ac mae P i’w drin fel pe bai’n dychwelyd o’r gystadleuaeth honno os yw P, o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben â diwrnod ynysu olaf P, wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt at ddibenion y gystadleuaeth honno;
(e) ystyr “athletwr elît sy’n preswylio yng Nghymru” yw person sy’n preswylio yng Nghymru fel arfer ac—
(i) yn ennill bywoliaeth o gystadlu mewn camp, neu
(ii) yn athletwr elît o fewn yr ystyr a roddir yn rheoliad 1 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020.”
(2) Mae paragraff 2 o’r Atodlen yn ychwanegu Atodlen 4 newydd i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
Esemptiadau i bersonau sy’n ymwneud â gweithgareddau penodol
6 

(1) Mae Atodlen 2 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (personau esempt) wedi ei diwygio yn unol â pharagraffau (2) i (9).
(2) Ym mharagraff 3—
(a) hepgorer y gair “neu” ar ôl is-baragraff (1)(a);
(b) ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—“
(aa) sydd wedi teithio o wlad neu diriogaeth esempt ar lestr neu awyren a weithredir gan luoedd arfog Ei Mawrhydi, neu sy’n eu cefnogi, neu a weithredir gan lu ar ymweliad neu sy’n ei gefnogi, ac nad oes unrhyw bersonau wedi mynd ar y llestr hwnnw neu’r awyren honno, nad yw wedi docio mewn unrhyw borthladd nac wedi glanio mewn unrhyw wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt, neu”;
(c) yn is-baragraff (1)(b)—
(i) ar ôl “Wasanaeth Llyngesol Ei Mawrhydi” mewnosoder “, neu sy’n ei gefnogi, neu gan lu ar ymweliad neu i’w gefnogi”;
(ii) yn lle “y tu allan i’r ardal deithio gyffredin” rhodder “mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt”.
(3) Ym mharagraff 13(1)(b), hepgorer y geiriau o “ond—” hyd y diwedd.
(4) Ar ôl paragraff 17 mewnosoder—“
17A. 

(1) Gweithiwr sy’n ymwneud â gwaith hanfodol neu waith brys sy’n gysylltiedig â rheoli’r risg o lifogydd ac erydu arfordirol ar ran—
(a) Asiantaeth yr Amgylchedd;
(b) Cyfoeth Naturiol Cymru;
(c) awdurdod llifogydd lleol arweiniol yng Nghymru;
(d) awdurdod llifogydd lleol arweiniol yn Lloegr.
(2) Yn is-baragraff (1), mae i “rheoli’r risg o lifogydd ac erydu arfordirol” ac “awdurdod llifogydd lleol arweiniol” yr ystyron a roddir i “flood and coastal erosion risk management” a “lead local flood authority” gan Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010.
17B. 
Gweithiwr sy’n gwneud gwaith hanfodol neu waith brys sy’n ymwneud â gweithrediadau mwyngloddio sydd ar waith ar hyn o bryd neu a fu gynt ar waith ar ran—
(a) yr Awdurdod Glo;
(b) cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
(c) Cyfoeth Naturiol Cymru.”
(5) Ym mharagraff 24—
(a) yn is-baragraff (1), yn y geiriau cyn paragraff (a), yn lle “sy’n ymgymryd â’r canlynol, neu y mae’n ofynnol iddo gychwyn y canlynol” rhodder “y mae’n ofynnol iddo ymgymryd â’r canlynol neu gychwyn y canlynol o fewn 14 o ddiwrnodau ar ôl cyrraedd y Deyrnas Unedig”
(b) yn is-baragraff (1)(a), yn lle “osodiadau alltraeth neu mewn perthynas â hwy” rhodder “osodiad alltraeth neu mewn perthynas ag ef”;
(c) yn is-baragraff (1)(c), yn lle “osodiadau alltraeth a ffynhonnau sy’n cael eu datgomisiynu neu eu cadw hyd nes cânt eu dymchwel neu eu hailddefnyddio” rhodder “gosodiad alltraeth sy’n cael ei ddatgomisiynu neu ei gadw hyd nes y caiff ei ddymchwel neu ei ailddefnyddio neu ffynnon sy’n cael ei datgomisiynu neu ei chadw hyd nes y caiff ei dymchwel neu ei hailddefnyddio”;
(d) yn is-baragraff (2)(a), yn lle ““gosodiadau alltraeth” yr ystyr a roddir i “offshore installations”” rhodder ““gosodiad alltraeth yr ystyr a roddir i “offshore installation””;
(e) yn is-baragraff (2)(c), yn lle ““ffynhonnau” yr ystyr a roddir i “wells”” rhodder ““ffynnon” yr ystyr a roddir i “well””.
(6) Ym mharagraff 27, yn lle “(gan gynnwys comisiynu,” rhodder “(gan gynnwys adeiladu, comisiynu, gosod,”.
(7) Yn lle paragraff 28 rhodder—“
28. 

(1) Person sydd wedi teithio i’r Deyrnas Unedig at ddiben cludo deunydd a ffurfir o gelloedd neu waed dynol, neu sy’n eu cynnwys, ac sydd i’w defnyddio er mwyn darparu gwasanaeth iechyd gan ddarparwr gwasanaethau iechyd.
(2) At ddibenion y paragraff hwn—
 mae “gwaed” (“blood”) yn cynnwys cydrannau gwaed;
 mae i “gwasanaeth iechyd” (“health service”) yr ystyr a roddir gan reoliad 10(8).”
(8) Hepgorer paragraff 29.
(9) Ar ôl paragraff 36 mewnosoder—“
37. 
Person sy’n ymwneud â gwneud—
(a) ffilm sy’n ffilm Brydeinig at ddibenion Atodlen 1 i Ddeddf Ffilmiau 1985, neu
(b) rhaglen deledu sy’n rhaglen Brydeinig at ddibenion Rhan 15A o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2009.”
Darpariaeth drosiannol: personau a gyrhaeddodd yr ardal deithio gyffredin cyn 10 Gorffennaf 2020
7 

(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo person wedi cyrraedd yr ardal deithio gyffredin o fan y tu allan i’r ardal honno o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben yn union cyn y daw’r Rheoliadau hyn i rym.
(2) Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gymwys i’r person fel pe na bai’r diwygiadau a wneir gan reoliadau 3 i 6 o’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud, ond mewn perthynas yn unig â’r cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y cyrhaeddodd y person yr ardal deithio gyffredin.
(3) Mae i “ardal deithio gyffredin” yn y rheoliad hwn yr ystyr a roddir i “common travel area” gan Ddeddf Mewnfudo 1971.
Newid y cyfnod adolygu
8 
Yn Rhan 6 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (adolygu a dod i ben), yn rheoliad 19 (adolygu’r gofynion), yn lle paragraffau (b) ac (c) rhodder—“
(b) erbyn 27 Gorffennaf 2020;
(c) o leiaf unwaith yn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â 28 Gorffennaf 2020;
(d) o leiaf unwaith ym mhob cyfnod dilynol o 28 o ddiwrnodau.”
Diwygiadau amrywiol
9 

(1) Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (2) i (4).
(2) Yn rheoliad 9(2)(a) (fel y mae wedi ei ailrifo gan reoliad 3(4)(a) o’r Rheoliadau hyn), yn lle “mharagraff 2” rhodder “mharagraff 1(2)”.
(3) Yn rheoliad 17(10), yn lle “mharagraff (8)” rhodder “mharagraff (9)”.
(4) Yn Atodlen 2—
(a) ym mharagraff 1(2), yn y geiriau o flaen paragraff (1), yn lle “9(a)” rhodder “9(2)(a)”;
(b) ym mharagraff 21(1), yn y testun Saesneg yn unig—
(i) yn y geiriau o flaen paragraff (a), ar ôl “person” mewnosoder “who is”,
(ii) ym mharagraff (b), yn lle “is a spacecraft controller who is” rhodder “a spacecraft controller”.
RHAN 3 Diwygiadau i’r Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd
10 

(1) Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd (gofynion i ddarparu gwybodaeth i deithwyr) wedi ei diwygio yn unol â pharagraffau (2) i (4).
(2) Yn rheoliad 4(2) hepgorer “ar lafar”.
(3) Yn fersiwn Gymraeg y datganiad ar y llestr neu’r awyren yn yr Atodlen—
(a) yn lle “Llywodraeth Cymru a Iechyd Cyhoeddus Cymru” rhodder “asiantaethau iechyd y cyhoedd y DU”;
(b) hepgorer “ar www.gov.uk”;
(c) ar ôl “14 o ddiwrnodau ar ôl i chi gyrraedd” mewnosoder “, oni bai eich bod mewn categori esempt. Ewch i gov.uk i weld y rhestr esemptiadau.”;
(d) hepgorer y testun o “Wedi cyrraedd,” hyd at “www.llyw.cymru/coronafeirws”.
(4) Yn fersiwn Saesneg y datganiad ar y llestr neu’r awyren yn yr Atodlen—
(a) yn lle “Welsh Government and Public Health Wales” rhodder “UK’s public health agencies”;
(b) hepgorer “at www.gov.uk”;
(c) ar ôl “14 days after you arrive” mewnosoder “, unless you are in an exempt category. To view the exemptions list, visit gov.uk.”;
(d) hepgorer y testun o “When you arrive” hyd at “www.gov.wales/coronavirus”.
Newid y cyfnod adolygu
11 
Yn Rhan 4 y Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd (amrywiol), yn rheoliad 9(1) (adolygu’r gofynion), yn lle is-baragraffau (b) ac (c) rhodder—“
(b) erbyn 27 Gorffennaf 2020;
(c) o leiaf unwaith yn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â 28 Gorffennaf 2020;
(d) o leiaf unwaith ym mhob cyfnod dilynol o 28 o ddiwrnodau.”
Diwygiad amrywiol
12 
Yn Rhan 2 o’r Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd (gofynion i ddarparu gwybodaeth i deithwyr), yn rheoliad 3(2), yn y geiriau cyn is-baragraff (a), yn lle “mharagraff (1)(a)” rhodder “mharagraff (1)”.
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
Am 10.20 a.m. ar 9 Gorffennaf 2020
YR ATODLEN
Ychwanegu Atodlenni 3 a 4 newydd i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol
Rheoliadau 4(8) a 5(2)
1 
Ar ôl Atodlen 2 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (personau esempt) mewnosoder—“
ATODLEN 3
Gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin
Rheoliad 9(1)
RHAN 1 Gwledydd a thiriogaethau

 Yr Almaen
 Andorra
 Antigua a Barbuda
 Aruba
 Awstralia
 Awstria
 Y Bahamas
 Barbados
 Bonaire, Sint Eustatius a Saba
 Caledonia Newydd
 Croatia
 Curaçao
 Cyprus
 De Korea
 Denmarc
 Dominica
 Yr Eidal
 Fiet-nam
 Fiji
 Y Ffindir
 Ffrainc
 Grenada
 Guadeloupe
 Gwlad Belg
 Gwlad Groeg
 Gwlad yr Iâ
 Gwlad Pwyl
 Gwladwriaeth Dinas y Fatican
 Hong Kong
 Hwngari
 Yr Iseldiroedd
 Jamaica
 Japan
 Kalaallit Nunaat (Greenland)
 Liechtenstein
 Lithiwania
 Lwcsembwrg
 Macau
 Malta
 Mauritius
 Monaco
 Norwy
 Polynesia Ffrengig
 Reunion
 Saint Barthélemy
 Saint Kitts a Nevis
 Saint Lucia
 Saint Pierre a Miquelon
 San Marino
 Sbaen
 Seland Newydd
 Serbia
 Seychelles
 Y Swistir
 Taiwan
 Trinidad a Tobago
 Twrci
 Y Weriniaeth Tsiec
 Ynysoedd Ffaröe

RHAN 2 Tiriogaethau Tramor y Deyrnas Unedig

 Anguilla
 Ardaloedd Safleoedd Sofran Akrotiri a Dhekelia ar Ynys Cyprus
 Bermuda
 Gibraltar
 Montserrat
 Saint Helena, Ascension a Tristan da Cunha
 Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig
 Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India
 Ynysoedd Cayman
 Ynysoedd De Sandwich a De Georgia
 Ynysoedd Falkland
 Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno
 Ynysoedd Prydeinig y Wyryf
 Ynysoedd Turks a Caicos.
”
2 
Ar ôl Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (fel y’i mewnosodir gan baragraff 1 o’r Atodlen hon) mewnosoder—“
ATODLEN 4
Digwyddiadau chwaraeon penodedig
Rheoliad 10(4)
1. 
Digwyddiad lle y mae unrhyw un neu ragor o’r cyfranogwyr yn cystadlu—
(a) i gymhwyso, neu
(b) fel rhan o broses ddethol,ar gyfer y Gemau Olympaidd, y Gemau Paralympaidd neu Gemau’r Gymanwlad.
2. 
Criced – gemau prawf.
3. 
Dartiau—
(a) Cyfres Haf y Gorfforaeth Ddartiau Broffesiynol;
(b) Betfred World Matchplay Darts.
4. 
Pêl-droed – gornestau Cynghrair Pencampwyr UEFA a Chynghrair Ewropa UEFA.
5. 
Golff—
(a) Pencampwriaeth Meistri Prydain Betfred Cymdeithas y Golffwyr Proffesiynol;
(b) Cylchdaith Golff Ewrop - Pencampwriaeth Agored Lloegr;
(c) Cylchdaith Golff Ewrop - Pencampwriaeth Lloegr;
(d) Cylchdaith Golff Ewrop - Pencampwriaeth y Deyrnas Unedig;
(e) Pencampwriaeth Cymdeithas y Golffwyr Proffesiynol BMW;
(f) Cylchdaith Golff Ewrop - Y Clasur Celtaidd;
(g) Cylchdaith Golff Ewrop - Pencampwriaeth Agored Cymru;
(h) Cylchdaith Golff Ewrop i Fenywod - Pencampwriaeth Agored yr Alban i Fenywod Aberdeen Standard Investments;
(i) Cylchdaith Golff Ewrop i Fenywod - Pencampwriaeth Agored Prydain i Fenywod AIG;
(j) Cylchdaith Golff Ewrop - Pencampwriaeth Lincs Alfred Dunhill;
(k) Cylchdaith Golff Ewrop - Pencampwriaeth Agored yr Alban Aberdeen Standard Investments.
6. 
Rasio ceffylau—
(a) Gŵyl Rasio Ceffylau Gorffennaf Moët & Chandon;
(b) Penwythnos Diemwnt Rasio Ceffylau y Brenin Siôr QIPCO;
(c) Gŵyl Rasio Ceffylau Goodwood Qatar;
(d) Gŵyl Rasio Ceffylau Ebor Swydd Efrog.
7. 
Rasio moduron—
(a) Grand Prix Prydain Fformiwla Un Pirelli;
(b) Grand Prix Dathlu 70 Mlynedd Fformiwla Un Emirates.
8. 
Gornestau Rygbi’r Gynghrair Super League Betfred.
9. 
Rygbi’r Undeb - gornestau rhyngwladol.
10. 
Snwcer – Pencampwriaeth Snwcer y Byd Betfred.”